Gallai unrhyw gyllid y byddwn ni’n ei roi ichi tuag at eich costau gofal plant effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Cynnwys
Credyd Cynhwysol
Ni allwch ddefnyddio elfen costau gofal plant Credyd Cynhwysol (ar GOV.UK) ar gyfer yr oriau gofal plant sy'n cael eu hariannu gennym ni. Ond, gallwch hawlio elfen costau gofal plant Credyd Cynhwysol ar gyfer unrhyw ofal plant ychwanegol y mae angen i chi dalu amdano. Gall hyn fod ar gyfer eich plentyn tair neu bedair oed neu unrhyw blentyn arall ar eich aelwyd.
Os ydych yn cael elfen gofal plant y Credyd Cynhwysol bydd angen ichi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau teuluol neu’ch amgylchiadau gwaith i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar GOV.UK.
Credydau Treth
Gallwch dderbyn Credydau Treth (ar GOV.UK) ar yr un pryd â hawlio'r cynnig gofal plant.
Bydd Credydau Treth yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar eich cyflog ac amcangyfrif o'ch costau gofal plant. Os ydych yn derbyn y cynnig gofal plant gall hyn arwain at gynnydd yn eich incwm. Er enghraifft, os ydych yn gallu gweithio rhagor o oriau, neu os yw eich costau gofal plant yn lleihau. Mae hyn yn golygu y gallech dderbyn llai o gredydau treth.
Os ydych yn cael Credydau Treth, bydd angen ichi roi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol neu’ch bywyd gwaith, a hynny drwy’r wefan GOV.UK. Mae hyn yn cynnwys cyllid gennym ni i helpu i dalu am gostau gofal plant.
Gofal plant di-dreth
Gallwch ddefnyddio gofal plant di-dreth (ar GOV.UK) yn ogystal â manteisio ar y cynnig gofal plant ar gyfer unrhyw oriau ychwanegol o ofal plant sydd eu hangen arnoch.
Os ydych yn derbyn Gofal Plant Di-dreth, bydd angen ichi gadarnhau eich manylion bob 3 mis.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio Gofal Plant Di-dreth i dalu am gostau ychwanegol fel bwyd, cludiant a ffioedd cadw.
Ni allwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.