Anerchiad agoriadol gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Cynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol, Caerfyrddin, Mehefin 2023.
Cyflwyniad
Mae Antoine de Saint-Exupéry yn ein hatgoffa ni nage rhagweld y dyfodol yw ein tasg ni, ond galluogi’r dyfodol ry’n ni’n ei ragweld i ddod yn wir.1 A dyfodol ein hieithoedd ni yw’r rheswm dros y ffaith ein bod ni i gyd yma heddiw wrth gwrs.
Fel ry’n ni’di clywed eisoes, mae’n ddeng mlynedd ar hugain ers i Gymru gael yr anrhydedd o gynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol. Ac yn ystod y cyfnod hynny, mae tirwedd ieithoedd ein gwlad ni wedi newid yn llwyr.
Wrth i ni ddod at ei gilydd yr wythnos ‘ma, a’n golygon ni yn gadarn ar y gorwel, rwy’n awyddus i glywed beth ych chi’n ei feddwl o beth mae angen ei wneud i wella sefyllfa ein holl ieithoedd ni. Mae’r gynhadledd yma yn llawer mwy na jyst llwyfan i ddangos yr hyn ry’n ni wedi’i wneud yn barod—mae’n gyfle i brofi damcaniaethau newydd—a’u herio nhw, profi cysyniadau newydd, a dod o hyd i atebion gyda’n gilydd.
Ry’n ni ‘ma i raddau helaeth wrth gwrs hefyd i drafod ymchwil ym maes cynllunio iaith. Dyw ymchwil ddim yn ymwneud â chasglu data er ei fwyn ei hun. Dyw e ddim yn ymwneud â chyhoeddi papurau yn unig. Mae’n ymwneud â’r rhoi pethe ar waith a helpu ni i wneud mwy a gwneud mwy yn well. Yng Nghymru, ry’n ni am i bopeth ry’n ni’n ei wneud o ran cynllunio iaith fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau. Felly, mae gyda fi gwestiwn i chi yw beth ych chi, gynadleddwyr o dramor, wedi dod o hyd iddo allai oleuo’n llwybr ni at y dyfodol?
Mae’na 180 ohonon ni yma heddi, ac yn ein plith ni mae nifer dda o ymchwilwyr ac ymarferwyr o Gymru sy’n barod i rannu o’u harbenigedd nhw. Wrth i ni lywio’n dyfodol gyda’n gilydd, rwy’n rhagweld mwy o gydweithio—ar draws gwledydd, disgyblaethau a ffiniau.
Ydy, yn anffodus, mae’r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond does dim isie chi boeni dim—dyw Cymru ddim wedi troi cefn ar Ewrop, nac ar weddill y byd. Yma ydyn ni, yn rhan gadarn o gymuned fywiog, amrywiol o ieithoedd, yn barod i gydweithio, yn barod iddysgu. Mae’r ffaith ein bod ni’n aelod gweithredol o’r NPLD yn dyst i’r ymrwymiad yna. Felly hefyd ein presenoldeb ni yn y gynhadledd yma heddi.
Y Gorffennol: Ein Taith Ieithyddol
Yn 1993, pan oedd ICML yng Nghymru ddiwetha, daeth Deddf yr Iaith Gymraeg i rym, gan ddod ag ymchwydd newydd o egni i fyd cynllunio iaith wnaeth siapio tirwedd ieithyddol y Gymru sydd ohoni. Nage canlyniad gweithred llywodraeth yn unig oedd y ddeddf honno na’r cynnydd ychwaith. Mewn gwirionedd, mae llawer o newidiadau wedi digwydd er gwaetha’ llywodraethau’r gorffennol. Ac er y byddwn i, wrth gwrs, yn dweud bod y Llywodraeth yng Nghymru bellach yn cymryd rhan flaenllaw mewn cynllunio iaith, rwy’n diolch o galon i’r miloedd wnaeth ymgyrchu, protestio, a dylanwadu y tu ôl i’r llenni. Chi yw’r sbardun ddechreuodd y daith at ble ry’n ni heddi.
Yr heriau sydd o’n blaenau
Yng Nghymru, golwg hirdymor ar gynllunio ieithyddol sy gyda ni. Marathon yw e, nid sbrint. A rhedeg gyda’n gilydd ry’n ni, gyda chefnogaeth grŵp eang o randdeiliaid yn rhannu’r un uchelgais cyffredin.
Ac mae’n uchelgais mawr, felly mae gyda ni gynlluniau mawr i ddod â’r uchelgais hwnnw yn wir.
Yn 2017, fe wnaethon ni gyhoeddi’n strategaeth hirdymor—Cymraeg 2050. Dau nod beiddgar sy’n tywys y gwaith: miliwn o siaradwyr Cymraeg, a dyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Dwi’n meddwl bod e’n bwysig bod yn onest. Fe fydd ‘na ambell rwystr ar bob taith hir. A dyna gawson ni Fis Rhagfyr diwethaf. Efallai eich bod chi ‘di clywed am ganlyniadau’r cyfrifiad diweddar yn dangos gostyngiad o bron i 24,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg (i gyfanswm o 538,000). Yn Sir Gaerfyrddin, ble ry’n ni heddi, gwelson ni’r gostyngiad mwyaf ddau Gyfrifiad yn olynol. Bydda i’n cwrdd ag arweinwyr sir Gâr fis nesaf i drafod sut y gallwn fynd i’r afael â hyn.
Felly roedd canlyniadau’r cyfrifiad wrth gwrs yn siom; nid dyna roedden ni isie ei weld. Ond mae rhai arolygon eraill yn awgrymu y gallai nifer y siaradwyr Cymraeg fod mor uchel â 900,000. Felly, ry’n ni’n neud gwaith nawr i ddeall pam mae’r ffigurau hyn yn wahanol pam maen nhw mor wahanol.
Rwy’n parhau i fod yn optimist. Ond wrth gynllunio iaith, does dim lle i hunanfodloni, ac mae lle i obeithio bob amser. Wrth edrych at y dyfodol, ry’n ni’n gweld agweddau positif, mwy o blant yn dysgu yn Gymraeg, mwy o oedolion yn dysgu’n hiaith ni, a mwy o falchder yn y Gymraeg fel rhan o’n diwylliant nag erioed o’r blaen.
Ond yw hyn i gyd yn ddigon? Wel yr ateb, wrth gwrs, yw ‘na.’ Mae’n rhaid i ni fynd yn ddyfnach, a dyna’r union beth ry’n ni’n ei wneud.
Symud Ymlaen: Cynigion beiddgar a Heriau
Yma ry’n ni ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant; arwyddair y Brifysgol yw “Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau”. Nawr ma hwnna’n rhywbeth ry’n ni fel llywodraeth, yn ei gefnogi’n llwyr. O ran hynny, ry’n ni newydd orffen ymgynghoriad ar Fil Addysg Gymraeg newydd. Ein cynnig yw bydd y Bil yma, ymhlith pethau eraill yn:
- Adlewyrchu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith
- Creu un continwwm sgiliau Cymraeg i ddisgrifio lefelau sgiliau fel bod gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o’r daith tuag at ddysgu’r Gymraeg
- A gofion i Weinidogion Cymru greu Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg, a’i adolygu ymhob tymor Seneddol
Cynigion beiddgar? Bendant. Ond dyna ddylai cynllunio iaith yng Nghymru fod a dyna dwi isie: newid dewr, sgyrsiau ffraeth.
Ry’n ni’n gwybod beth yw’r heriau. Mae’r ‘Fro Gymraeg’ wedi profi gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae nifer yr ail gartrefi ac allfudo pobl ifanc yn cymhlethu pethe hyd yn oed ynfwy. Ond mae gyda ni gynlluniau i fynd i’r afael â hyn.
Yn wleidyddol, rwy’n Llafurwr ond rwy’n gydweithredwr hefyd. Dyna pam ry’n ni’n ariannu mentrau cydweithredol Cymraeg newydd, lleoedd i bobl weithio a defnyddio eu Cymraeg yn naturiol. ‘Gofodau uniaith’ mae rhai yn galw’r rhain, ond waeth beth ry’n ni’n eu galw nhw, mae’n nhw’n hanfodol mewn cymdeithas ddwyieithog fel ein cymdeithas ni.
Mae hyn i gyd yn rhan o’n Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg sy gyda ni. Ry’n ni’n galluogi pobl leol i brynu a throsi lleoedd fel y dafarn leol neu swyddfa bost yn llefydd bywiog lle mai’r Gymraeg yw iaith y gwaith ac yn iaith naturiol.
Mae llefydd fel hyn yn gallu bod yn ffynonellau incwm i’r gymuned; llefydd i’r gymuned ddod at ei gilydd, yn Gymraeg.
A beth yw’r grym y tu ôl i’r pethe hyn? Wel wrth gwrs pobl. Y cymunedau lleol. Realiti beunyddiol y sefyllfa ieithyddol. Peth pobl yw iaith felly ym mhopeth newn ni, realiti’r bobl fydd yn ein harwain ni, a thystiolaeth fydd sail pob dim strategol ry’n ni’n ei wneud.
Casgliad: Cofleidio’r Dyfodol
O ran fi fy hun, dwi’n dweud yn aml bod y Gymraeg yn fwy na jyst rhywbeth dwi’n ei siarad, mae’n rhywbeth dwi’n ei deimlo. Dyna pwy ydw i. A rwy’n credu bod mwy a mwy o bobl yn teimlo bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw. Ond y cwestiwn yw, beth yn union mae hynny’n ei olygu yn ymarferol?
Gallen i fynd ymlaen am yr hyn ry’n ni’n ei wneud yng Nghymru i’n hiaith ni, ond dyna bwrpas y tri diwrnod nesaf! Ac wrth i ni ddechrau’r gynhadledd, gadewch i ni gofio ein bod ni yma i helpu ein gilydd. Gadewch i ni gydweithio, arloesi, a gadewch i ni danio ein gilydd, er mwyn ysbrydoli newid a fydd yn atseinio ar draws cyfandiroedd ac ieithoedd.
Gadewch i ni gofleidio’r dyfodol, ei holl heriau ond hefyd ei holl bosibiliadau.
Felly, dechreued ICML ’23! Ymlaen i’r bennod nesaf yn hanes bywiog, deinamig ein hieithoedd—cadw ein gorffennol wrth gwrs yw’r nod, wrth fynd ati’n weithgar i lunio’n dyfodol gyda’n gilydd. Diolch yn fawr.