Neidio i'r prif gynnwy

Gan Neil Butt, Pennaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid a Rhanddeiliaid, Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y flaenoriaeth i ni i gyd yn Awdurdod Cyllid Cymru yw chwarae ein rhan drwy helpu i sicrhau dull teg o weinyddu trethi i Gymru.

Rydym wedi cynllunio, datblygu a chyflwyno dull gweinyddu treth dwyieithog, digidol. Mae hyn yn galluogi i gynrychiolwyr cyfreithiol (yn gweithredu ar ran trethdalwyr) a gweithredwyr safleoedd tirlenwi dalu eu trethi penodol ar-lein gan ddefnyddio ein system dreth bwrpasol. Erbyn hyn, mae tua 5,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth cofrestredig.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ac adborth parhaus gan randdeiliaid; gan gynnwys gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, gweithredwyr safleoedd tirlenwi, cyrff proffesiynol a threthdalwyr.

Mae gwrando ar adborth gwerthfawr a mireinio’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn rhan greiddiol o’r hyn rydym yn ei wneud. Yn gynharach eleni, buom yn gwneud rhywfaint o waith arolygu i gael gweld beth yw barn ein partneriaid ni am y gwasanaeth rydym yn ei gynnig.

Ymhlith 800 o ddefnyddyr y gwasanaeth, gwelsom fod 87% o’r defnyddwyr yn ‘fodlon’ gyda’n system dreth ddigidol, ond roedd rhai agweddau ar y system dreth angen eu datblygu ymhellach.

Hefyd, gwelsom fod 80% o’r ymholiadau i dîm ein desg gymorth gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol oedd eisiau esboniad am gyfraddau uwch a rheolau trafodion, meysydd cymhleth y dreth trafodiadau tir.

Fel ymateb i’r adborth hwn, rydym wedi adolygu ein cyfarwyddyd ar-lein ac wedi cyflwyno cyfres o weminarau i bron i 300 o ddefnyddwyr cofrestredig, gan ddarparu cyngor manwl ar gyfraddau uwch a rheolau trafodion. Cynhaliwyd pôl gyda phawb oedd yn bresennol ar ôl y sesiwn ac roedd 98% o’r rhai oedd yn bresennol yn teimlo bod y gweminarau’n ‘ddefnyddiol’.

Rydw i hefyd yn falch bod Awdurdod Cyllid Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i adborth defnyddwyr yn y newidiadau mawr cyntaf i’r system dreth ddigidol. Bydd llawer o gyfreithwyr a thrawsgludwyr ledled Cymru a Lloegr yn falch ein bod wrthi’n gwneud newidiadau a fydd yn galluogi iddynt adael y ‘dyddiad gweithredol’ yn wag nes cyflwyno ffurflen y Dreth Trafodiadau Tir yn derfynol.

Fis diwethaf cynhaliwyd dau fforwm treth gennym yng Ngogledd a De Cymru ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, gweithredwyr safleoedd tirlenwi a sefydliadau partner. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu fforymau treth yn y dyfodol, cofiwch roi gwybod i ni a byddwn yn eich cynnwys ar y rhestr ddosbarthu.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i ddatblygu gwefan Awdurdod Cyllid Cymru (llyw.cymru/acc) i sicrhau bod ymwelwyr â’r safle’n gallu cael hyd i’r wybodaeth briodol mor gyflym ac mor hwylus â phosib.

Byddwn hefyd yn ceisio gwella agweddau ar ein cyfarwyddyd ar-lein yn unol ag adborth cwsmeriaid ac yn parhau i gyflwyno rhagor o weminarau a digwyddiadau i roi sylw i themâu allweddol o adborth ac awgrymiadau cwsmeriaid.

Fel sefydliad cymharol newydd, rydym bob amser yn annog ac yn croesawu adborth i’n helpu ni i wella sut rydym yn gweithio. I roi eich barn am y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, llenwch y ffurflen adborth syml yma.