Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr adroddiad yw archwilio graddau'r gefnogaeth ymhlith darparwyr a rhanddeiliaid dros gonsortiwm e-ddysgu estynedig.

I ymchwilio i faterion adnoddau ac i gyflwyno nifer o fodelau gwahanol ar gyfer datblygiad posib y Bartneriaeth.

Comisiynwyd yr ymchwil hon gan gyn Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (ELWa) i archwilio'r posibilrwydd o sefydlu consortiwm e-hyfforddiant wedi'i ffurfioli o ddarparwyr ôl-16 yng Ngogledd Cymru - yng nghyd-destun y Rhwydwaith e-Hyfforddiant cyfredol o Sefydliadau Addysg Bellach neu Sefydliadau Addysg Uwch.

Cyd-destun

Mae strategaeth e-Ddysgu Cymru yn diffinio e-ddysgu fel 'Defnyddio technoleg electronig i gefnogi, gwella neu ddarparu dysg'.

Mae ei amcanion yn cynnwys:

  • creu rhwydwaith e-ddysgu integredig cenedlaethol
  • darparu seilwaith darparu o ansawdd uchel
  • galluogi rhaglenni e-ddysgu o ansawdd uchel i gael eu hadeiladu'n lleol neu eu caffael yn genedlaethol.

Mae'r modd y mae Lloegr a'r Alban yn mynd ati yn ffafrio datblygu dysgu cyfunol fel y dull mwyaf effeithiol o weithredu e-ddysgu - cefnogi dulliau addysgu traddodiadol yn hytrach na thrawsnewid y colegau neu'r prifysgolion presennol i fod yn sefydliadau ar-lein yn unig.

Mae mwyafrif y prosiectau cyfredol yn cynnwys cydweithredu wrth ddosbarthu gwybodaeth a phrin yw'r enghreifftiau o gydweithredu o ran cynnwys a chwricwlwm.

Sefydlwyd y Rhwydwaith E-Hyfforddiant Gogledd Cymru (NWETN) cyfredol ym mis Gorffennaf 2003, ac fe'i cyllidwyd drwy'r Gronfa Datblygu Gwybodaeth (KEF). Ym mis Hydref 2003, cyflwynodd y NWETN gais am gymorth KEF pellach i ddatblygu ei weithgareddau ymhellach. Fodd bynnag, collodd y Bartneriaeth fomentwm yn sgil yr holl oedi wrth brosesu cais KEF.

Canfyddiadau o waith maes

Roedd y gwaith maes yn cynnwys cyfweliadau ansoddol gyda darparwyr a rhanddeiliaid yn y rhanbarth.

Adroddiadau

E-hyfforddiant yng ngogledd Cymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 341 KB

PDF
Saesneg yn unig
341 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.