Bydd disgyblion yn dechrau dysgu ieithoedd gwahanol yn yr ysgol gynradd yn rhan o gwricwlwm newydd Cymru yn ôl cyhoeddiad gan Kirsty Williams.
Yn y cwricwlwm newydd, byddai Ieithoedd Tramor Modern yn cael eu cynnwys yn rhan o Ieithoedd Rhyngwladol. Bydd hefyd yn cynnwys ieithoedd cymunedol, ieithoedd clasurol ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Byddai dysgwyr yn profi ieithoedd rhyngwladol yn gynharach a byddai disgwyliadau clir o ran eu cynnydd tra byddant yn yr ysgol gynradd.
Bydd hyn yn adeiladu ar waith y Rhwydwaith Dyfodol Byd-eang sy’n cynnig cymorth eang ei gwmpas i Ieithoedd Tramor Modern yn y cwricwlwm.
Byddai ysgolion yn gallu dewis pa iaith (ieithoedd) y byddent am i’w disgyblion eu profi yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.
Byddai newidiadau arfaethedig hefyd i'r ffordd y caiff Cymraeg ei haddysgu, gyda'r iaith yn parhau'n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed – ochr yn ochr â Saesneg - ond nid bellach wedi’i rhannu’n iaith gyntaf ac ail iaith yn rhan o’r Rhaglenni Astudio.
Yn unol â’r cynigion, byddai pob dysgwr yn dilyn yr un cwricwlwm a byddai mwy o bwyslais ar wella sgiliau dysgwyr a defnyddio'r iaith.
Er mai ysgolion fyddai'n gyfrifol am benderfynu sut i fwrw ati â'r gwaith hwn, byddai angen iddynt ystyried cyfleoedd i ddysgwyr wrando, darllen, siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg – o bosibl drwy ei defnyddio mewn gwahanol rannau o'r cwricwlwm neu y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Mae gwaith eisoes ar droed gyda chonsortia rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill i gyflwyno dysgu proffesiynol mewn sawl ffordd, gan gynnwys y Cynllun Sabothol sy'n cynnig hyfforddiant Cymraeg dwys i athrawon a chynorthwywyr addysgu.
Yn y tymor hwy, byddai'r cymwysterau ar gyfer Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol hefyd yn newid. Mae Cymwysterau Cymru wrthi'n ystyried syniadau am amrywiaeth o gymwysterau yn unol â'r trefniadau ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Gan gyhoeddi'r newidiadau heddiw, dywedodd y Gweinidog Addysg:
"Dyma'r newid mwyaf dramatig yn y ffordd y caiff ieithoedd eu haddysgu mewn ysgolion yng Nghymru ers cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1988.
“Rydym am sicrhau bod pob un o'n dysgwyr yn ddinasyddion Cymru a'r byd ac mae hynny'n golygu sicrhau bod pob person ifanc o bob cefndir yn cael cyfle i feithrin ei sgiliau iaith – boed hynny yn Gymraeg, yn Saesneg neu mewn ieithoedd rhyngwladol.
"Gwyddom y bydd angen amser i roi'r newidiadau hyn ar waith a dyna pam na fyddwn yn gweithredu'n fyrbwyll. Rydym yn ymrwymedig i roi'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i addasu. Dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar y byddai swm o £24 miliwn yn cael ei neilltuo uwchlaw’r hyn sydd eisoes yn cael ei wario ar gefnogi’r cwricwlwm."
Dywedodd yr Athro Sioned Davies, awdur adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm:
“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gwireddu argymhellion f’adroddiad. Mae sicrhau bod y Gymraeg yn bwnc statudol i bawb, ac ein bod yn cael gwared ar y term ‘Cymraeg ail iaith’ yn hollbwysig os ydym am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr.
“Bydd y cwricwlwm newydd, a fydd yn dod â dysgu ieithoedd at ei gilydd yn un maes dysgu a phrofiad yn cynnig cyfle cyffrous i athrawon yng Nghymru ddatblygu a rhannu arbenigedd mewn dysgu ieithoedd er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’n plant a’n pobl ifanc ddatblygu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mewn ieithoedd rhyngwladol.
“Mae’n gyfnod cyffrous a heriol. Mae angen sicrhau amser a chefnogaeth i’r system gyfan ddatblygu er mwyn creu’r amgylchiadau gorau i’r cwricwlwm newydd ffynnu.”
Bydd Papur Gwyn ar y Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu y bwriedir ei gyhoeddi er mwyn ymgynghori arno yn gynnar eleni yn nodi'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig sydd eu hangen er mwyn helpu i gyflwyno'r Cwricwlwm newydd o 2022.