Mae cynllun gwersi Cymraeg am ddim Llywodraeth Cymru yn parhau i drawsnewid bywydau pobl ifanc ac athrawon.
Wrth i'r flwyddyn academaidd newydd agosau, mae gan bobl ifanc 16 i 25 oed a staff ysgolion ledled Cymru gyfle i ddysgu Cymraeg am ddim.
Mae'r cynllun gwersi Cymraeg am ddim, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd, gyda dros 3,200 o bobl yn elwa ohono yn 2023-24.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:
Drwy'r cynllun hwn, mae hi’n haws nag erioed i bobl ddysgu Cymraeg a throsglwyddo'r iaith i eraill. Rwy'n falch iawn bod cymaint o bobl eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cyrsiau yma.
Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a ph'un a ydych chi am fagu hyder i ddefnyddio'r iaith yn eich bywyd bob dydd neu am gysylltu’n agosach â’r diwylliant Cymraeg, dyma'r amser perffaith i roi cynnig arni.
Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil y Gymraeg ac Addysg yn y Senedd. Nod y ddeddfwriaeth yw ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf, gan allu defnyddio'r iaith yn eu bywyd personol a’u bywyd gwaith.
Mae'r gwersi am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed yn cynnig ail gyfle i rai na ddysgodd siarad yr iaith yn ystod eu blynyddoedd ysgol.
Un person ifanc sydd wedi elwa o'r cynllun yw Isabella Colby Browne, 23 oed, a anwyd yn America, a symudodd i Sir y Fflint yn blentyn ifanc. Enillodd Isabella, sy’n gweithio fel actores, fedal Bobi Jones i ddysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Dywedodd:
Dechreuais ddysgu Cymraeg dair blynedd yn ôl. Rwy’n dysgu drwy wersi wythnosol ar-lein, yn ogystal fe es i Nant Gwrtheyrn ar gyfer cwrs preswyl canolradd y llynedd. Roedd y sesiynau hyn i gyd am ddim i mi oherwydd roeddwn i dan 25 oed, ac rwy’n teimlo’n hynod freintiedig am y profiadau a’r cyfleoedd sydd ar gael i mi. Ar ôl ennill Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd, teimlaf fod fy ngwaith caled wedi talu ar ei ganfed ac ni allaf aros i weld beth sydd nesaf
Mae gweithlu addysg sy'n gallu addysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Joshua Morgan yn athro yn Ysgol Arbennig Greenfield ym Merthyr Tudful. Dim ond ers 21 mis mae wedi bod yn dysgu Cymraeg, ac felly roedd yn gamp enfawr ei fod wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar. Dywedodd:
Yn Greenfield, mae'n bwysig iawn i ni fod ein disgyblion yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg, defnyddio eu sgiliau'n hyderus, a gwerthfawrogi diwylliant a threftadaeth Cymru. Rwy'n dysgu celf, Cymraeg a cherddoriaeth yn yr ysgol, ac rwy’n aml yn cyfuno'r pynciau hyn i gyflwyno'r iaith mewn ffordd ddiddorol. Mae fy nosbarth wedi creu llyfr Cymraeg o'r enw Lles, a bob wythnos rydyn ni'n cynhyrchu fideo i ddysgu Cymraeg i weddill yr ysgol.
Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad gwych i mi - yn bersonol ac yn broffesiynol. Os ydych chi'n ystyried dysgu sgil newydd ym mis Medi, fy nghyngor i fyddai ystyried dysgu Cymraeg – gallaf eich sicrhau na fyddwch yn difaru.
Caiff y gwersi Cymraeg am ddim eu darparu drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan, Dona Lewis:
Mae’r nifer sy’n dysgu Cymraeg yn cynyddu. Mae'r Ganolfan yn falch o allu parhau â'r cyfle i gynnig cyfleoedd i pobl ifanc ddysgu am ddim. Mae modd iddynt wneud hynny drwy ymuno â gwersi yn y dosbarth neu'n rhithiol. Mae'r Ganolfan hefyd wedi cyhoeddi rhaglen Dysgu Cymraeg Gweithlu Addysg, sy'n cynnig ystod o gyrsiau i athrawon a chynorthwywyr. Edrychwn ymlaen i weithredu'r rhaglenni hyn dros y flwyddyn nesaf a chroesawu mwy o pobl atom i ddysgu Cymraeg.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y cyrsiau am ddim ac archwilio'r holl opsiynau dysgu sydd ar gael ar-lein, yn eich gweithle, neu yn y gymuned: CYRSIAU | Dysgu Cymraeg