Neidio i'r prif gynnwy

Mae dysgu Cymraeg yn un o’r pethau mae pobl yn ei wneud i ddiddanu a gwella eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud, awgryma ffigurau newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan orfodwyd dosbarthiadau dysgu Cymraeg ledled y wlad i stopio, symudodd y sefydliad sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, ei wersi wyneb yn wyneb cymunedol ar-lein er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau – gan helpu ei fyfyrwyr i ddal ati i ddysgu a chynnal cyswllt cymdeithasol er mwyn trechu unigrywdd. Yn hytrach na phrofi’n rhwystr, mae tystiolaeth bod y presenoldeb yn y gwersi wedi cynyddu ers iddynt symud ar-lein.
      
Hefyd mae’r ganolfan wedi lansio gwersi byw ar Facebook ar gyfer dechreuwyr am 3pm bob diwrnod o’r wythnos. Mae’r deuddeg gwers hyd yma wedi cael eu gwylio fwy na 36,000 o weithiau, gyda mwy na 1,000 o bobl yn cymryd rhan yn ddyddiol.

Nawr, mae gan y dysgwyr gyfle i ddysgu ochr yn ochr â sêr fel Ruth Jones, Carol Vorderman, Colin Jackson, Scott Quinnell ac Adrian Chiles yn y gyfres newydd ar S4C Iaith ar Daith. Mae’r rhaglen, sy’n dechrau heno (nos Sul Ebrill 19eg) am 8.00pm wedi cael ei noddi gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg.

Mae cyrsiau dysgu o bell newydd, sy’n cyfuno gweminarau gyda gweithgareddau ar-lein i’w cwblhau gan ddysgwyr yn eu hamser eu hunain, yn cyd-fynd â’r rhaglen. Bydd y cyrsiau’n dechrau ym mis Mai ac mae’r cofrestru’n agor ddydd Llun Ebrill 20fed.

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg:

“Mae hwn yn gyfnod pryderus ac anodd iawn i bawb ar hyn o bryd, ond un peth positif yw bod gan bobl amser i wneud pethau y maen nhw wedi bwriadu eu gwneud ers blynyddoedd lawer, ac mae’n glir bod dod yn aelod o’r gymuned sy’n siarad y Gymraeg yn un ohonyn nhw.

“Pan amharwyd ar y dulliau mwy traddodiadol o ddysgu’r Gymraeg gan y cyfyngiadau symud, fe wnes i ofyn i’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg feddwl am ffyrdd newydd o helpu pobl i ddysgu ac rydw i eisiau diolch iddyn nhw am ymateb mor wych ac mor gyflym.

“Efallai bod rhaid i ni aros gartref, ond nid yw hynny’n golygu bod rhaid i ni fod ar ein pen ein hunain. Mae ymuno â dosbarth Cymraeg ar-lein a dysgu gyda’n gilydd gyda ffrindiau newydd yn golygu y gallwn ni ddal ati i gymdeithasu a gwneud pethau rydyn ni wedi bod eisiau eu gwneud erioed. Fe allwn ni gael ein hysbrydoli gan y sêr i roi cynnig arni a dysgu gyda’n gilydd i gyd, fel un llais.” 

Mae’r ganolfan hefyd yn datblygu cwrs ar Facebook ar gyfer rhieni plant ifanc i helpu teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda’i gilydd ac i helpu rhieni nad ydynt yn siarad y Gymraeg ac sydd â phlant mewn addysg Gymraeg i’w helpu gyda’u Cymraeg tra maent gartref o’r ysgol.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg:

“Rydyn ni’n hynod falch o allu cefnogi ein dysgwyr - gyda’u dysgu ac o safbwynt lles, drwy ddarparu trefn, normalrwydd a chefnogaeth gymdeithasol yn ystod yr amgylchiadau digynsail yma. Hefyd rydyn ni’n falch o allu parhau â’n gwasanaethau i’n dysgwyr newydd ni. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â chwrs dysgu Cymraeg.”