Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant wedi lansio llyfrynnau newydd rhad ac am ddim a fydd yn helpu dysgwyr Cymraeg ar bob lefel i ddysgu mwy am safleoedd Cadw.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae llyfrau Deg Diwrnod Diddorol y De yn adrodd straeon dros 40 o safleoedd hanesyddol. Mae llyfrau tebyg eisoes ar gael ar safleoedd yn y gogledd, gyda'r lansiad heddiw yn ymestyn llyfrau dysgu Cymraeg Cadw i'r de.

Mae'r llyfrau ar gyfer y de yn cyflwyno diwylliant a hanes safleoedd treftadaeth Cadw, o Dyddewi i Gas-gwent, ac o'r Gŵyr i'r Fenni, gan gynnig cyfle i ymarfer geirfa a gramadeg Cymraeg trwy ysgogiadau ar gyfer sgwrs a chwisiau.

Mae pedwar llyfr, pob un wedi'i deilwra ar gyfer lefel benodol o'r cyrsiau Dysgu Cymraeg cenedlaethol sy'n caniatáu i grwpiau ar bob lefel gymryd rhan. Gellir eu defnyddio ar safleoedd Cadw, mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn dysgu ar-lein. Maent wedi cael eu defnyddio gan ddysgwyr Cymraeg ledled y byd, mor bell i ffwrdd ag Awstralia.

Gellir lawrlwytho'r holl lyfrynnau yn rhad ac am ddim.

Ar ôl mwynhau diwrnodau allan, mae tiwtoriaid a dysgwyr wedi dweud wrth Cadw yn ddiweddar:

Diolch arbennig [i'r tîm], sydd wedi rhoi'r adnodd arbennig yma at ei gilydd i ni.

Roedd y safleoedd yn llawn hanes lleol a fynegwyd mewn Cymraeg hwylus. Roedd yn ddiddorol cael profiad o leoedd newydd.

Diwrnod da iawn, yn fy sbarduno i drefnu teithiau eraill ar fy mhen fy hun.

Cyfuniad da o ymarfer sgiliau iaith wrth ddysgu hanes gyda thiwtoriaid cyfeillgar a chymwynasgar.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae Deg Diwrnod Diddorol Cadw yn gyfle gwych i ddysgu Cymraeg wrth grwydro ein safleoedd hanesyddol anhygoel. Rwy'n falch o weld bod yr adnoddau hyn bellach ar gael fel y gall mwy o bobl ddysgu Cymraeg wrth ymweld â'u safleoedd Cadw lleol neu ddarganfod atyniadau ledled y wlad.

Dywedodd Prif Weinidog Eluned Morgan:

Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned fel rhan o'n nod i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Deg Diwrnod Diddorol yn gyfle gwych i ddefnyddio Cymraeg ac i ddysgu am ein safleoedd Cadw bendigedig.