Neidio i'r prif gynnwy

Mae Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi ymweld â Halen Môn, un o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus Cymru, sy'n allforio i weddill y byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuwyd Halen Môn gan Alison a David Lea-Wilson ar lannau Afon Menai ar Ynys Môn ym 1996. Mae'r cwmni, sy'n cyflogi mwy nag 20 o staff, bellach yn allforio'i gynnyrch yn fyd-eang i 16 o wledydd.

Mae Halen Môn wedi ennill nifer o Wobrau Great Taste ac mae'n enw bwyd gwarchodedig ers 2014, sy'n golygu bod ei statws ‒ yr unig halen môr sy'n cael ei gynaeafu o Afon Menai rhwng Ynys Môn a thir mawr Gogledd Cymru ‒ yn cael ei ddiogelu o dan y gyfraith.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig:

“Roedd yn wych cael cwrdd ag Alison a chael fy nhywys o amgylch canolfan y cwmni ar Ynys Môn, ac i ddysgu popeth am sut maen nhw'n mynd ati i redeg eu busnes yn llwyddiannus.

“Mae eu model nhw, sy'n cyflogi pobl leol ag egwyddorion amgylcheddol ac addysgol, ac sydd hefyd yn denu twristiaid i ardal wledig, arfordirol yng Nghymru, wedi rhoi lle inni ar lwyfan y byd ac wedi rhoi enw da inni am ragoriaeth.”

Dywedodd Alison Lea-Wilson MBE, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Halen Môn:

“Roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd â Huw Irranca-Davies.

"Mae ei bortffolio'n cwmpasu cymaint o'r hyn y mae Halen Môn yn ceisio'i gyflawni: halen môr o ansawdd uchel sydd â tharddiad pendant ag ymdeimlad cryf o le; mynd ati drwy'r amser i wella'r ffordd rydyn ni'n rheoli adnoddau naturiol; marchnata'n cynnyrch yn y DU a thu hwnt; a gweithio mewn ffordd sensitif yn ein cymuned mewn Ardal o Harddwch Eithriadol.

“Rydyn ni'n cydnabod y cymorth a'r gefnogaeth rydyn ni wedi'u cael oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac yn gwerthfawrogi'r ffaith ei bod yn hawdd inni gael gafael ar swyddogion a gweinidogion. Mae hynny'n golygu ein bod yn gallu meithrin perthynas rhyngom ni a'r Senedd.”