Comisiynwyd yr ymchwil hwn er mwyn rhoi ystyriaeth i’r ffyrdd y gellir gwella dysgu ac addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Yn 2010, cytundebodd Llywodraeth Cymru â Phrifysgol Caerdydd i ymgymryd ag ymchwil i ystyried ffyrdd o wella’r modd y caiff yr iaith Gymraeg ei throsglwyddo i oedolion, er mwyn bwydo datblygiad cwricwlwm a methodolegau addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion i’r dyfodol.
Cwblhawyd yr ymchwil mewn tair cam rhwng Mai 2010 a Mehefin 2012.
- Cam 1: adolygiad o’r llenyddiaeth ymchwil ryngwladol ar gaffael ail iaith.
- Cam 2: gwerthusiad o’r adnoddau dysgu ym maes Cymraeg i Oedolion yng ngoleuni’r ymchwil cyfredol.
- Cam 3: gwaith maes gyda thiwtoriaid, awduron, dygwyr, darparwyr a rhanddeiliaid ym maes Cymraeg i Oedolion.
Mae’r adroddiad terfynol yn cynnwys cyfres o argymhellion mewn perthynas â chwricwlwm; hyfforddiant i diwtoriaid; adnoddau dysgu ac addysgu; ac ymchwil pellach ym maes Cymraeg i Oedolion a bydd yn bwydo i mewn i'r adolygiad ehangach o faes Cymraeg i Oedolion a fydd yn adrodd i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ym mis Gorffennaf 2013.