Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Mai 2024.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar ganllawiau drafft ar ddysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft:
- esbonio'r gofynion cyfreithiol ar gyfer cwricwlwm ysgol ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed o dan Gwricwlwm i Gymru.
- Cefnogi ysgolion i ddylunio cynnig cwricwlwm sy'n bodloni'r gofynion hynny.
- Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu ym mlwyddyn 10 ac 11.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Rhieni_a_gofalwyr__dogfen_ymgynghori.jpg?itok=8QDSTp2t)
Rhieni a gofalwyr: dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 909 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Canllawiau_statudol_i_ddysgwyr_14_i_16.jpg?itok=0s6S64Zp)
Canllawiau statudol i ddysgwyr 14 i 16 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 613 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r canllawiau'n esbonio'r gofynion cyfreithiol ar gyfer cwricwlwm ysgol i ddysgwyr 14 i 16 oed o fewn Cwricwlwm i Gymru ac yn ceisio cefnogi ysgolion i gynllunio cwricwlwm sy'n bodloni'r gofynion hynny yn ogystal â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu ym mlwyddyn 10 ac 11.
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, ein bwriad yw cyhoeddi'r canllawiau fel canllawiau statudol mewn perthynas â dysgu 14 i 16 o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y ‘Ddeddf’). Felly, rhaid i'r gynulleidfa darged roi sylw iddynt wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.
Fe welwch ein bod yn defnyddio'r gair 'dylai' drwy gydol canllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru wrth gyfeirio at y disgwyliadau a nodir mewn canllawiau statudol. Mae'r gair hwnnw yn cyfeirio at gamau yr ydym yn argymell yn gryf bod ysgolion a lleoliadau yn eu cymryd. Nid yw'n nodi gofynion gorfodol. Gan fod yr argymhellion hyn yn rhan o ganllawiau statudol, rhaid i ysgolion a lleoliadau eu hystyried. Fodd bynnag, gallant benderfynu wneud rhywbeth gwahanol os oes rheswm da dros wneud hynny.
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Is-adran Polisi Gwella Ysgolion a Chymwysterau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: Dysgu.14-16.learning@llyw.cymru