Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 001/2024

Dyddiad cyhoeddi:    25/01/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Dynodi swyddogaethau cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu a'r cynllun Codi Tâl cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan:    Paul Griffiths, Arweinydd y Broses Rheoli Adeiladu

Cyfeiriwyd at:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas yr Arolygwyr Corfforaethol Cymeradwy
Y Sefydliad Cymwyseddau Diogelwch Adeiladau
Cymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu
Total Training Development Ltd.

Anfonwch ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru

Crynodeb:

Cylchlythyr yw hwn sy'n hysbysu bod swyddogaethau cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu wedi'u dynodi i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR). Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun Codi Tâl mewn perthynas â'r uchod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Llinell uniongyrchol:        0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Hysbysiad i gymeradwyo dynodi rhai swyddogaethau rheoleiddio rheolaeth adeiladu penodol i'r bsr a chyhoeddi'r cynllun codi tâl

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi fy ngorchymyn i'ch hysbysu bod swyddogaethau cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu wedi'u dynodi i'r BSR a bod cynllun Codi Tâl mewn perthynas â'r uchod wedi'i gyhoeddi.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru. 

Hysbysiad bod swyddogaethau cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu wedi'u dynodi i'r HSE

  1. O dan Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo bod y BSR yn ymgymryd â'r swyddogaethau canlynol:

    a.    Swyddogaethau sy'n ymwneud ag arolygwyr adeiladau cofrestredig, gan gynnwys darpariaethau cofrestru, ymchwilio, erlyn troseddau a sancsiynau fel atal neu ddadgofrestru
    b.    Swyddogaethau sy'n ymwneud â chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladau, gan gynnwys darpariaethau cofrestru, ymchwilio, erlyn troseddau a sancsiynau fel atal neu ddadgofrestru
    c.    Swyddogaethau sy'n ymwneud â rheolau safonau gweithredol, gan gynnwys gofynion adrodd, ymchwiliadau, cyflwyno hysbysiadau gwella a thramgwyddo a dadgofrestru
    d.    Swyddogaethau'n ymwneud ag arolygiadau, rhannu gwybodaeth, erlyniadau, apeliadau a chodi tâl

  2. Nid yw'r swyddogaethau a nodir ym mharagraff 3 yn cynnwys cofrestru neu oruchwylio Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Y bwriad yw dechrau monitro a gorfodi gwaith Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol ym mis Ebrill 2025 ochr yn ochr â newidiadau ehangach i'r drefn rheoli adeiladu yng Nghymru.
     
  3. Mae'r swyddogaethau a nodir ym mharagraff 3 yn cynnwys cofrestru Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig (neu 'Arolygwyr Cymeradwy' fel y'u galwyd) sy'n cael eu cyflogi gan Awdurdodau Lleol.
     
  4. Dechreuir cofrestru RBIs ac RBCAs ar 31 Ionawr 2024. Bydd y BSR yn cynnal y swyddogaethau eraill a ddisgrifir ym mharagraff 3 o 6 Ebrill 2024.
     

Hysbysiad cyhoeddi'r Cynllun Codi Tâl

  1. Mae Rheoliadau'r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladau (Taliadau) (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud a chyhoeddi cynllun sy'n disgrifio'r taliadau a godir ar y rheini sy'n cofrestru fel arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu. Fe welwch gopi o'r Cylchlythyr sy'n disgrifio'r rheoliadau hyn yma: Rheoliadau newydd er mwyn gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022: Disgrifiad o adeiladau risg uwch; taliadau; rheoliadau cofrestru, sancsiynau ac apelau (WGC 005/2023) 
     
  2. Mae'r cynllun yn cynnwys y taliadau a godir am:

a.    Benderfynu ar gais i gofrestru fel arolygydd adeiladu
b.    Penderfynu ar gais i gofrestru fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu
c.    Arolygu cyrff rheolaeth adeiladu
d.    Goruchwylio RBIs gan gynnwys monitro ac ymyrraeth reoleiddiol
e.    Goruchwylio RBCAs gan gynnwys monitro ac ymyrraeth reoleiddiol
f.    Gweithredoedd i sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 a gosod unrhyw gosbau sy'n deillio o hynny
g.    Unrhyw gamau a gymerir er mwyn ymateb i apêl

  1. Dylid nodi y bydd taliadau am fonitro ac ymyriadau rheoleiddio ond yn daladwy os deuir i'r casgliad bod camymddwyn neu dramgwydd wedi digwydd. Yn yr un modd, ni fydd taliadau sy'n codi o'r camau a gymerir wrth ymateb i apeliadau i'w talu os yw'r apêl yn aflwyddiannus neu'n cael ei thynnu'n ôl.
     
  2. Mae'r cynllun hwn wedi'i gyhoeddi yn yr adran Adeiladu a Chynllunio ar wefan Llywodraeth Cymru.
     
  3. Daw'r Cynllun Codi Tâl i rym pan ddechreuir cofrestru RBI ac RBCAs ar 31 Ionawr 2024.

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y cylchlythyr hwn at:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu,
Llywodraeth Cymru,
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful,
CF48 1UZ.

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir

Neil Hemington 
Y Prif Gynllunydd