Dynodi Dyfroedd Ymdrochi 2025
Ymgynghoriad ar ddynodi Cronfeydd Dŵr Llanisien a Llysfaen, Caerdydd; a Phont Grog Afon Tywi, Llandeilo yn Ddyfroedd Ymdrochi Dynodedig
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Amcan yr ymgynghoriad hwn yw gofyn ichi am eich barn am ein cynnig i ddynodi safle Pont Grog Afon Tywi, Llandeilo; a Chronfeydd Dŵr Llanisien a Llys-faen, Caerdydd yn ddyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2025.
Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd eu dŵr a rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr am ansawdd y dŵr ar y safleoedd sydd wedi’u dynodi. Yng Nghymru, mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.
Un o’r gofynion o dan y Rheoliadau yw bod Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn adolygu ac yn cyhoeddi’r rhestr o ddyfroedd ymdrochi sydd wedi’u dynodi yng Nghymru.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 17 Cwefror 2025.
Ymatebwch i’r ymgynghoriad hwn drwy lenwi’r holiadur neu ateb y cwestiynau ar y ffurflen ymateb. Gallwch gyflwyno’r ffurflenni ymateb drwy:
E-bost: water@gov.wales
neu’r
Post:
Cangen Ddŵr (Ymgynghori ar Ddyfroedd Ymdrochi)
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
I gael y ffurflen ymateb a rhagor o wybodaeth gweler llyw.cymru/ymgynghoriadau
Os oes gennych gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, e-bostiwch water@gov.wales .
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd / This document is also available in English: gov.wales/consultations
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
Cyflwyniad
Pwrpas yr Ymgynghoriad
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn pobl am ein cynnig i ddynodi pont Grog Afon Tywi, Llandeilo a Chronfeydd Dŵr Llanisien a Llys-faen Caerdydd yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (y Rheoliadau) ar gyfer tymor ymdrochi 2025.
O dan y Rheoliadau, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru restru'r holl ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd carthion a rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd fel y gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a phryd i ymdrochi.
Nifer yr ymdrochwyr yw'r maen prawf sy’n berthnasol o dan y Rheoliadau wrth ystyried a yw'n briodol dynodi safle. Bydd unrhyw seilwaith neu gyfleusterau a ddarperir, neu fesurau eraill a gymerir i hyrwyddo ymdrochi ar y safle hefyd yn cael eu hystyried.
Y sefyllfa bresennol
Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi 2006/7/EC sy'n rhoi’r mecanwaith ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi yn y DU ac mae’n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir yng Nghymru. Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn pennu'r gofynion statudol sy'n gysylltiedig â rheoli dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr a rhoi gwybod i ymdrochwyr am y peryglon iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd dŵr gwael.
Mae 109 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru ar hyn o bryd. Ar ôl i ddŵr ymdrochi gael ei ddynodi, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn profi ansawdd y dŵr yn ystod y tymor ymdrochi, sy'n para rhwng 15 Mai a 30 Medi. Caiff dyfroedd ymdrochi dynodedig eu disgrifio’n rhai rhagorol, da, digonol neu wael yn dibynnu ar ganlyniadau samplu ansawdd dŵr. Mae'r categorïau ansawdd dŵr ymdrochi yn seiliedig ar ddau baramedr microbiolegol: enterococci coluddol ac E.coli.
Cyhoeddir canlyniadau dyfroedd ymdrochi dynodedig unigol yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru yn: https://www.llyw.cymru/ansawdd-dwr-ymdrochi
Mae dyfroedd ymdrochi yn werthfawr oherwydd y cyfleoedd hamdden y maent yn eu darparu i bobl Cymru, yr economi leol a thwristiaeth. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo hefyd i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau’r broses o fonitro ansawdd dŵr i alluogi dyfroedd mewndirol i gyrraedd yr un safonau uchel sy’n cael eu harddel gan draethau Cymru.
Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad
Eich enw:
Sefydliad (os yw’n berthnasol):
e-bost / rhif ffôn:
Eich cyfeiriad:
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma:
☐
Cais i ddynodi’r Bont Grog, Llandeilo yn ddŵr ymdrochi
Cais gan aelod o’r cyhoedd ar ran Ymdrochwyr Afon Tywi i ystyried dynodi’r Bont Grog, Llandeilo (SN634225) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025. Lleolir y safle ar yr Afon Tywi ac mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
Darparwyd y dystiolaeth a’r wybodaeth gan aelod o’r cyhoedd i gefnogi cais y Bont Grog, Llandeilo.
Nifer yr ymdrochwyr
Lleolir y man ymdrochi hwn ar yr Afon Tywi, ar gyrion tref Llandeilo. Fel rhan o’r cais, cynhaliwyd arolwg o ddefnyddwyr dros 19 diwrnod pan gofnodwyd 720 o ymdrochwyr. Y cyfartaledd dyddiol oedd 38 o ymdrochwyr, gan bendilio o 84 ar ei uchaf i 19 ar ei isaf. Cofnodwyd rhagor na 40 o ymdrochwyr ar bron hanner y diwrnodau, gan brofi bod defnydd rheolaidd ohono.
Cyfleusterau
Cawsom wybodaeth yn y cais am gyfleusterau ar bwys y safle, gan gynnwys toiledau cyhoeddus, parcio a chaffis.
Tystiolaeth o blaid
Darparwyd tystiolaeth am ymgynghori lleol a chefnogaeth i’r dynodiad gan unigolion, grwpiau lleol a busnesau. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar 23 Awst 2023, gyda thros 100 o bobl yn bresennol. Roedd y cyfarfod o blaid y cais.
Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi’r Bont Grog, Llandeilo yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025?
☐ Cytuno
☐ Anghytuno
Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno bod y dystiolaeth a roddwyd ynghylch Nifer yr Ymdrochwyr, y Cyfleusterau a’r Dystiolaeth o Blaid yn ddigon i ddynodi’r safle yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025?
☐ Cytuno
☐ Anghytuno
Cwestiwn 3: Pa dystiolaeth a mesurau ydych chi wedi’u gweld sy’n nodi ac yn hyrwyddo’r safle fel safle ymdrochi? (e.e. nifer yr ymdrochwyr, arwyddion, gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati)
Cwestiwn 4: Beth yw’ch barn am y cynnig, a beth yw’r rhesymau am eich barn?
Cais i ddynodi Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn ddŵr ymdrochi
Cawsom gais gan Dŵr Cymru Welsh Water i ystyried dynodi Cronfeydd Dŵr Llanisien a Llys-faen (ST 18662 81983) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025.
Mae Cronfa Ddŵr Llys-faen yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae Cronfa Ddŵr Llanisien yn Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC).
Tystiolaeth a gwybodaeth a ddarparwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water o blaid y cais i ddynodi Cronfa Ddŵr Llys-faen a Llanisien
Nifer yr ymdrochwyr – Cynhaliodd yr ymgeisydd arolwg o’r dŵr ymdrochi ar gyfer Cronfeydd Dŵr Llanisien a Llys-faen. Roedd y cais yn cynnwys arolwg o’r defnyddwyr, gyda data ynghylch nifer yr ymdrochwyr a bod cyfanswm o 2403 o ymdrochwyr wedi’u cofnodi dros 20 niwrnod. Cafwyd dros 100 o ymdrochwyr bob dydd ar 11 diwrnod gwahanol, gyda chyfartaledd dyddiol o 120 o ymdrochwyr.
Darparwyd hefyd dystiolaeth ffotograffig yn dangos aelodau o’r cyhoedd yn y dŵr.
Casglwyd data’r arolwg gan Dŵr Cymru Welsh Water dros y tymor ymdrochi (15 Mai i 30 Medi).
Cyfleusterau
Darparwyd gwybodaeth yn y cais am gyfleusterau’r safle neu gerllaw, gan gynnwys toiledau cyhoeddus, parcio, canolfan ymwelwyr gyda chaffi, staff cymorth cyntaf, diffibrilwyr, siwtiau gwlyb, cymhorthion arnofio, cawodydd a stafelloedd newid.
Tystiolaeth o blaid
Darparwyd tystiolaeth am ymgynghori lleol a chefnogaeth i'r dynodiad gan unigolion a grwpiau lleol.
Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Cronfa Ddŵr Llanisien a Llys-faen yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025?
☐ Cytuno
☐ Anghytuno
Cwestiwn 6: Ydych chi’n cytuno bod y dystiolaeth a roddwyd ynghylch Nifer yr Ymdrochwyr, y Cyfleusterau a’r Dystiolaeth o Blaid yn ddigon i ddynodi’r safle yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2025?
☐ Cytuno
☐ Anghytuno
Cwestiwn 7: Pa dystiolaeth a mesurau ydych chi wedi’u gweld sy’n nodi ac yn hyrwyddo’r safle fel safle ymdrochi? (e.e. nifer yr ymdrochwyr, arwyddion, gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati)
Cwestiwn 8: Beth yw’ch barn am y cynnig, a beth yw’r rhesymau am eich barn?
Cwestiwn 9: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol yn y ddogfen hon. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:
Barn am Nifer yr Ymdrochwyr ar y Safle
Mae Llywodraeth Cymru’n cynghori ymgeiswyr i gynnal arolygon ar ddiwrnodau prysuraf y flwyddyn, fel penwythnosau gŵyl y banc neu wyliau ysgol, er mwyn cofnodi nifer yr ymdrochwyr ar y diwrnodau prysuraf. Dylai’r arolygon gyfrif oedolion a phlant sy’n nofio neu’n padlo. Mae'r tymor ymdrochi rhwng 15 Mai a 30 Medi yng Nghymru, a dylai arolygon adlewyrchu gweithgarwch ymdrochi drwy gydol y cyfnod hwn i roi darlun cynhwysfawr o ddefnydd y safle.
Er mwyn helpu’r broses, rydym am ofyn i chi beth fyddai’n rhesymol ei ystyried yn nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr.
Cwestiwn 10: Beth yn eich barn chi fyddai’n nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr ar safleoedd glan môr dros gyfnod prysur o 24 awr i fod yn gymwys fel safle dŵr ymdrochi dynodedig?
Cwestiwn 11: Beth yn eich barn chi fyddai’n nifer cyfartalog addas o ymdrochwyr y dydd yn ymweld â safle glan môr ar draws y tymor ymdrochi cyfan i fod yn gymwys fel safle dŵr ymdrochi dynodedig?
Cwestiwn 12: Yn eich barn chi, a fyddai nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr yr un peth ar lan môr ag ar safleoedd mewndirol? Byddai safle mewndirol yn cael ei adnabod fel afon, llyn neu gronfa ddŵr.
☐ Byddai
☐ Na fyddai
Os gwnaethoch chi ateb ‘Na fyddai’ – atebwch gwestiynau 13 a 14
Cwestiwn 13: Beth yn eich barn chi fyddai’n nifer ‘fawr’ o ymdrochwyr ar safleoedd mewndirol dros gyfnod prysur o 24 awr i fod yn gymwys fel safle dŵr ymdrochi dynodedig?
Cwestiwn 14: Beth yn eich barn chi fyddai’n nifer cyfartalog addas o ymdrochwyr y dydd yn ymweld â safle mewndirol ar draws y tymor ymdrochi cyfan i fod yn gymwys fel safle dŵr ymdrochi dynodedig?
Y Gymraeg
Cwestiwn 15: Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol ar y Gymraeg?
Y camau nesaf ar ôl ymgynghori
Caiff yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi a’u hystyried a bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion hynny.