Neidio i'r prif gynnwy

Gan Kathryn Bishop, Cadeirydd, Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 18 Hydref y llynedd, sefydlodd Llywodraeth Cymru Awdurdod Cyllid Cymru yn swyddogol fel y corff sy’n gyfrifol am reoli a chasglu Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi. Dynodwyd hyn gan ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ein cyfarfod bwrdd cyntaf.

Fis diwethaf, croesawyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ôl i’n cyfarfod bwrdd - union flwyddyn i’r diwrnod i ni gwrdd gyntaf fel bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru - i drafod yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma, a'r hyn sydd o’n blaenau.

Wrth sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, rydym wedi cydweithio â chydweithwyr ar draws Lywodraeth Cymru ac adrannau ehangach y Gwasanaeth Sifil a chydag amrywiaeth eang o bartneriaid allanol. Roedd dilyn rhaglen weithredu am ddwy flynedd yn sicrhau ein bod ni, fel tîm, yn barod ar 1 Ebrill 2018 i weinyddu’r trethi cyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd.

Wrth gyrraedd carreg filltir bwysig fel yr un yma, mae’n hawdd canolbwyntio ar yr hyn sydd ar ôl i’w wneud yn aml iawn. Ond mae hyn yn gyfle i bwyso a mesur yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma.

  • Erbyn 1 Ebrill, roedd dros 1,000 o sefydliadau cyfreithiol a 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi wedi cofrestru i ffeilio treth.
  • Erbyn mis Gorffennaf, roeddem wedi cyhoeddi ein hystadegau chwarterol swyddogol cyntaf, ac roedd dros £47 miliwn o dreth yn ddyledus.
  • Ym mis Medi, roeddem ni ar y rhestr fer am wobr gyda phartneriaid digidol am ddatblygu system dreth ddigidol newydd a chipiwyd y wobr ym mis Tachwedd.

Nid yw’r daith wedi bod yn un rhwydd ac rydym ni’n ddiolchgar i’n rhanddeiliaid niferus am eu cefnogaeth gyson.  Mae hyn wedi gofyn hefyd am weledigaeth, ymroddiad, gwaith caled ac, yn bwysicaf oll, ewyllys i wneud pethau’n wahanol.

Yn gynharach eleni, disgrifiodd Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ein sefydliad fel ‘canolfan ragoriaeth’. Mae chwilio am ffyrdd arloesol o weinyddu trethi yn bwysig iawn i ni, ac rydym ni wedi ymroi i gydweithio â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus i rannu’r dull arloesol hwn er budd Cymru.

Mae pawb ohonom ar Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru yn ei theimlo’n fraint ac yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r daith hanesyddol hon hyd yma. Nawr, rydym ni’n canolbwyntio ar ddatblygu dyfodol Awdurdod Cyllid Cymru, fel sefydliad arloesol sy’n helpu i gynorthwyo cymunedau ledled Cymru.