Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Chwefror 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 322 KB
Ymatebion - rhan 1 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 9 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar y bwriad i benodi un awdurdod trwyddedu i Gymru a dynodi Cyngor Caerdydd i weithredu fel yr awdurdod hwnnw.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae hefyd yn ceisio barn ar y cynnig y dylai'r awdurdod trwyddedu nodi'r maes llafur craidd ar gyfer cyrsiau i landlordiaid ac asiantau ac y dylai'r awdurdod trwyddedu awdurdodi darparwyr i ddarparu cyrsiau hyfforddi o'r fath.
Cefndir
Pasiwyd Deddf Tai (Cymru) 2014 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2014 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014. Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn cyflwyno cynllun cofrestru gorfodol i landlordiaid preifat a gofyniad i drwyddedu landlordiaid preifat ac asiantau gosod os ydynt yn gosod neu'n rheoli eiddo. Mae Rhan 1 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwy is-ddeddfwriaeth wneud y canlynol:
- Dynodi awdurdod neu awdurdodau trwyddedu
- Awdurdodi'r awdurdod/awdurdodau trwyddedu dynodedig i nodi gofynion o ran hyfforddi landlordiaid ac asiantau trwyddedig
- Awdurdodi'r awdurdod/awdurdodau trwyddedu dynodedig i awdurdodi unigolion i gynnal yr hyfforddiant gofynnol