Neidio i'r prif gynnwy

Ar 5 Mawrth 2020, bydd Llywodraeth Cymru yn cyd-gynnal cynhadledd ym Merlin, yr Almaen, gyda’r Sefydliad Uwch-astudiaethau Cynaliadwyedd sydd wedi’i leoli yn yr Almaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y gynhadledd yw chwilio am ffyrdd arloesol o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae "Dyma’r dyfodol” yn ddigwyddiad dysgu ar y cyd a fydd yn edrych ar sut y gall cynnal deialog ar lefel Ewropeaidd rhwng llywodraethau, cymdeithas sifil, y byd academaidd a chymunedau busnes gryfhau ein gallu ar y cyd i ysgogi’r trawsnewid angenrheidiol a chyflymu’r newid hwnnw. 

Bydd y Gwir Anrh Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn un o’r prif anerchwyr yn y digwyddiad. Bydd yn siarad am y dull arloesol sy’n cael ei ddilyn yng Nghymru drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n cynnig ateb deddfwriaethol cynhwysfawr i’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Bydd y rhai a fydd yn bresennol hefyd yn cael clywed gan siaradwyr eraill a fydd yn siŵr o ysbrydoli, gan gynnwys:

  • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Christian Felber, awdur ac ymgyrchydd
  • Yr Athro Sabine Gabrysch, Sefydliad Potsdam dros Ymchwil i Effeithiau’r Hinsawdd

Bydd Arweinwyr Cenedlaethau’r Dyfodol o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru yn cynrychioli barn pobl ifanc a byddant yn ystyried faint o fyrder sydd i ymateb yn ystod y degawd o weithredu.
 
Ar ôl y digwyddiad, cynhelir Derbyniad Cymru gan Brif Weinidog Cymru. Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau diwylliannol Cymru, gan gynnwys Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn dangos sut y maen nhw wedi cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn eu gwaith. Bydd Rufus Mufasa, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn ogystal ag Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, hefyd yn perfformio yn y derbyniad.

Cofrestru

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn ar-lein.