Mae Lesley Griffiths wedi cadarnhau ymrwymiad Cymru i barhau i wella ansawdd ein haer wrth gyflwyno cyfres o fesurau newydd mewn Cynllun Aer Glân i Gymru.
Llygredd aer yw'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd. Amcangyfrifa Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod wedi cyfrannu at rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau yn 2017. Mae dod i gysylltiad â llygredd yn yr atmosffer dros gyfnod hir yn byrhau rhychwant oes ac yn effeithio'n andwyol ar ansawdd bywyd cymaint o bobl. Mae hefyd yn effeithio ar ansawdd ein cynefinoedd, lefelau bioamrywiaeth a'r economi.
Mae ymgynghoriad Cynllun Aer Glân i Gymru, Awyr Iach, Cymru Iach sy'n cael ei gyhoeddi heddiw (Dydd Mawrth 10 Rhagfyr), yn dwyn ynghyd waith ar draws y Llywodraeth a'r sector cyhoeddus. Mae'n cydgrynhoi'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni ac yn cynnig gwahanol gamau gweithredu ac ymrwymiadau newydd. Mae'r rhain yn cynnwys cyllido seilwaith newydd, tynhau rheoliadau presennol a gosod y seiliau ar gyfer Deddf Aer Glân newydd i Gymru.
Amlinella'r Cynllun raglen waith amrywiol iawn ag iddi bedair thema glir:
- diogelu iechyd a llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol
- cefnogi'r amgylchedd, ecosystemau a bioamrywiaeth
- cefnogi Cymru lewyrchus
- cefnogi lleoedd cynaliadwy.
Mae'n cynnwys uchelgeisiau i gyflawni'r gofynion a bennir mewn canllawiau a deddfwriaeth o fewn y DU ac yn rhyngwladol ac i fynd y tu hwnt iddynt lle y bo'n bosibl. Ma hefyd yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn yn ystod Tymor y Cynulliad ar Ddeddf Aer Glân i Gymru.
Mae'r ymgynghoriad dros gyfnod o ddeuddeg wythnos yn gwahodd sylwadau ynghylch ymrwymiadau presennol a chamau gweithredu newydd posibl a nodir yn y Cynllun gan gynnwys:
- cynyddu gwaith monitro ansawdd aer y tu allan i ardaloedd fel ysgolion ac ysbytai er mwyn diogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed rhag allyriadau o drafnidiaeth
- buddsoddi £60 miliwn yn ychwanegol dros 3 blynedd ar gyfer gweithredu'r Ddeddf Teithio Llesol, sy'n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â chymunedau a datblygu rhwydwaith diogel ar gyfer cerdded a beicio
- adolygu dyletswyddau awdurdodau lleol o safbwynt mynd i'r afael ag allyriadau sy'n deillio o losgi tanwyddau solet dan do fel pren a glo
- asesu cyfraniad coelcerthi a thân gwyllt at lefelau o allyriadau niweidiol.
- ymchwilio i fesurau sy'n anelu at leihau'r defnydd o gerbydau personol gan gynnwys prisio ffyrdd, Parthau Aer Glân a/neu Barthau Allyriadau Isel.
- cynyddu cyfran y cerbydau sy'n rhai trydan ac sydd ag allyriadau isel iawn (ULEV)
- plannu coed a llwyni mewn modd strategol ac ehangu coetiroedd sy'n helpu i wella ansawdd yr aer
- cynlluniau ar gyfer gwella dulliau cyfathrebu ac addysg ynghylch ansawdd aer.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Dylai pawb yng Nghymru allu anadlu aer iach, manteisio ar adnoddau naturiol iach a rhai a warchodir a mwynhau twf economaidd cynaliadwy a glân. Mae Cynllun Aer Glân i Gymru, Awyr Iach, Cymru Iach yn cyflwyno fframwaith cenedlaethol a fydd yn galluogi pob rhan o'r gymdeithas i anelu at yr amcanion hyn gyda'i gilydd.
Rydym wedi cyflawni llawer iawn ond mae'n rhaid i ni barhau i wella. Mae'n rhaid i ni wella ansawdd yr aer ar draws Cymru gyfan, nid dim ond yn y mannau sydd â'r lefelau llygredd gwaethaf. Bydd y Cynllun hwn yn cydgrynhoi'r gwaith rydym eisoes wedi'i gyflawni ac yn ein galluogi i fynd gam ymhellach.
Dyma gyfle i ni fynd ati gyda'n gilydd i geisio gwella ansawdd yr aer er lles ein plant a chenedlaethau'r dyfodol. Hoffwn annog pawb i fynegi eu barn ynghylch ein cynlluniau drwy ymateb i'r ymgynghoriad.
Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Aer Glân Cymru a Phennaeth BLF Cymru:
Mae’r Cynllun Aer Glân yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol weithio’n agosach i sicrhau bod ein haer mor lân ag y bo modd. Rydyn ni’n falch o’r hyn rydyn ni wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r cynllun, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant – yn yr oes sydd ohoni ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.