Dyletswydd i ddiogelu, gwarchod ac adfer safleoedd Ewropeaidd
Rhaid i awdurdodau cymwys gymryd camau i helpu i ddiogelu, gwarchod ac adfer cynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig safleoedd Ewropeaidd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn berthnasol i: Cymru a Lloegr
Yr awdurdodau cymwys yw:
- cyrff cyhoeddus, megis yr awdurdod lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Coedwigaeth Lloegr ac Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau
- y cyrff cadwraeth natur statudol – Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- ymgymerwyr statudol, megis cwmni dŵr, awdurdod porthladd, darparwr ynni
- gweinidogion neu adrannau llywodraeth
- unrhyw un sy’n dal swydd gyhoeddus, fel aelodau pwyllgorau cynllunio neu gynghorwyr
Mae’r canllaw hwn yn gymwys i’r safleoedd Ewropeaidd canlynol:
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
Mae’n cynnwys eu dyfroedd glannau o fewn 12 milltir forol i’r arfordir.
Dewch o hyd i’r safleoedd hyn ar y map hud.
Dyletswydd i warchod safleoedd Ewropeaidd
Fel awdurdod cymwys, mae gennych ddyletswydd i helpu i ddiogelu, gwarchod ac adfer safleoedd Ewropeaidd. Mae’r ddyletswydd yn berthnasol pan fyddwch:
- yn rheoli safle rydych yn berchennog neu’n ddeiliaid arno
- yn gwneud penderfyniadau a allai effeithio ar safle
- yn cael cais gan drydydd parti i ddefnyddio’ch pwerau i ddiogelu safle
- yn cyflawni eich gwaith statudol sy’n effeithio ar safle
Os gallwch weithredu ond yn penderfynu peidio â gwneud hynny, dylech allu rhoi rhesymau clir a phriodol pam rydych wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Mae’n bosibl y bydd y corff cadwraeth natur statudol, y llywodraeth neu’r trydydd parti yn gofyn i chi roi rhesymau.
Mae gennych ddyletswydd i ystyried sut y gallwch helpu:
- i ddiogelu, gwarchod neu adfer nodweddion dynodedig y safle i gyflawni eu hamcanion cadwraeth
- i atal dirywiad cynefinoedd y safle rhag gweithgarwch dynol neu newidiadau naturiol, gan gynnwys cynefinoedd sy’n cefnogi rhywogaethau dynodedig
- i atal tarfu sylweddol ar rywogaethau dynodedig y safle rhag gweithgarwch dynol neu newidiadau naturiol
Gweithio gydag awdurdodau cymwys eraill
Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio gydag awdurdodau cymwys eraill yn eich ardal a chydlynu’r defnydd o’ch pwerau i ddiogelu, gwarchod neu adfer safle.
Dyletswydd o ran Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Bydd safleoedd Ewropeaidd ar dir hefyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Pan fydd y safle, neu unrhyw ran ohono, yn SoDdGA, mae gennych ddyletswyddau eraill tuag at y safle hefyd. Darllenwch y canllawiau ar gyfrifoldebau cyrff cyhoeddus tuag at SoDdGA.
Pan mae angen i chi wneud Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Os yw cynllun neu brosiect yn gallu effeithio ar nodweddion safle Ewropeaidd, rhaid i chi gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Mae’r ARhC yn eich helpu i benderfynu a all cynllun neu brosiect fynd rhagddo ai peidio. Mae’n berthnasol i’ch cynigion eich hun, a’r cynigion y mae angen i chi eu hawdurdodi. Darllenwch y canllaw ar sut i gynnal ARhC.
Bodloni amcanion cadwraeth
Disgwylir i chi helpu i gyflawni amcanion cadwraeth safle Ewropeaidd.
Mae’r cyrff cadwraeth natur statudol wedi cyhoeddi amcanion cadwraeth ar gyfer pob safle:
Rhaid i chi ystyried amcanion cadwraeth y safle pan fyddwch:
- yn datblygu, cynnig neu asesu gweithgaredd, cynllun neu brosiect a allai effeithio ar y safle
- yn nodi mesurau i ddiogelu a gwarchod y safle
Rhaid i chi hefyd ystyried unrhyw gyngor atodol a chyngor sy’n benodol i achos a roddir gan y corff cadwraeth natur statudol.
Mae amcanion cadwraeth y safle yn eich helpu i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud:
- i warchod y safle
- i adfer y safle
- i atal dirywiad neu darfu sylweddol ar ei nodweddion cymhwyso
Drwy gyflawni’r amcanion, bydd y safle’n cyfrannu at Statws Cadwraeth Ffafriol (SCFf) ar gyfer y math hwnnw o rywogaeth neu gynefin ar lefel y DU.
Mae statws cadwraeth cynefin naturiol yn ffafriol pan:
- mae ei amrywiaeth naturiol a’i arwynebedd yn sefydlog neu’n cynyddu
- mae’r prosesau sy’n cynnal strwythur a swyddogaeth y cynefin yn debygol o barhau ar sail hirdymor
- mae ei rywogaethau nodweddiadol yn sefydlog neu’n gwella
Mae statws cadwraeth rhywogaeth yn ffafriol pan:
- mae’r boblogaeth yn cynnal ei hun ar sail hirdymor
- mae ystod naturiol y rhywogaeth yn sefydlog neu’n gwella
- mae ei gynefin yn sefydlog neu’n gwella ac yn gallu cynnal y rhywogaeth ar sail hirdymor.
Nodi pan fydd angen i chi weithredu
Rhaid i chi ystyried sut y gallwch ddefnyddio eich pwerau statudol i helpu safleoedd Ewropeaidd i gyflawni eu hamcanion cadwraeth. Gelwir y camau hyn yn fesurau cadwraeth.
Pan fyddwch chi’n ystyried pa fesurau cadwraeth a allai fod yn angenrheidiol, mae angen i chi:
- ragweld y niwed tebygol y gallai gweithgaredd ei wneud i safle, boed yn weithgarwch dynol neu brosesau naturiol
- chwilio am dystiolaeth o ddirywiad neu darfu
- ystyried sut y gallai eich penderfyniadau eich hun effeithio ar amcanion cadwraeth safle
Ni ddylech aros nes bod safle’n cael ei niweidio i roi mesurau cadwraeth ar waith.
Rhagweld niwed tebygol
Gall gweithgareddau yn y gorffennol neu’r presennol gael effaith negyddol ar safle nawr neu yn y dyfodol. Er enghraifft, pysgota, amaethyddiaeth neu weithgareddau hamdden. Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio’ch pwerau i gyfyngu, atal neu newid y gweithgareddau hynny. Gall hynny gynnwys gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle a thu hwnt i ffin safle.
Dylech geisio atal niwed i safle rhag trychinebau naturiol. Er enghraifft, ystyriwch beth allwch chi ei wneud i leihau:
- perygl llifogydd yn sgil glaw trwm
- perygl tân mewn cyfnodau o sychder
Gall newidiadau naturiol effeithio ar safle. Er enghraifft, coed a phrysgwydd yn goresgyn rhostir, glaswelltir neu dwyni tywod. Mae’n bosibl y bydd angen i chi atal hyn rhag digwydd os yw’n niweidio nodweddion dynodedig safle sydd dan eich rheolaeth chi neu y gallwch helpu i’w rheoli.
Gallech gael cyngor gan:
- ecolegydd i’ch helpu i ragweld niwed tebygol
- y corff cadwraeth natur statudol am y risg o newidiadau niweidiol a sut y gallech helpu i ddiogelu’r safle
Edrych am arwyddion o ddirywiad neu darfu
Mae angen i chi chwilio am arwyddion o ddirywiad neu darfu ar safleoedd Ewropeaidd rydych yn gyfrifol amdanynt.
Gall dirywiad safle:
- achosi iddo golli ei nodweddion ecolegol hanfodol
- lleihau maint neu ansawdd ei gynefinoedd
- gwanhau ei allu i gynnal ei rywogaethau dynodedig, fel yr amodau ar gyfer bridio
Gall tarfu ar safle achosi:
- dirywiad ei rywogaethau
- gostyngiad yn yr amrywiaeth o rywogaethau
Gallech gael cyngor ecolegol neu ofyn i’r corff cadwraeth natur statudol roi gwybod i chi am unrhyw arwyddion o ddirywiad neu darfu ar eich safleoedd.
Rhoi mesurau cadwraeth ar waith
Rhaid i chi ystyried cyflwyno mesurau cadwraeth priodol os ydych:
- yn gallu helpu i warchod neu adfer safle
- wedi canfod dirywiad neu darfu, neu berygl y bydd yn digwydd
Bydd y mesurau hyn yn eich helpu i ddiogelu a gwarchod y safle a bodloni’r amcanion cadwraeth.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi gymryd camau cadwraeth y tu hwnt i ffin y safle, neu ar draws mwy nag un safle. Er enghraifft:
- pan mae pysgota’n effeithio ar safleoedd morol
- pan mae rhywogaethau ar safle, fel adar a mamaliaid, yn symud o gwmpas a defnyddio cynefinoedd y tu allan i’r safle
Rhaid i fesurau cadwraeth fod yn hyblyg er mwyn ymateb i newidiadau mewn amodau, megis:
- newidiadau dros amser i statws cynefinoedd neu rywogaethau gwarchodedig ar y safle
- bygythiadau newydd i nodweddion y safle
- gwybodaeth ecolegol newydd am y safle
- anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd lleol
Rhaid i fesurau cadwraeth fod:
- yn fesurau cadarnhaol a rhagweithiol
- yn seiliedig ar ofynion ecolegol nodweddion dynodedig y safle
- yn gallu aros ar waith cyhyd ag y bo’u hangen
Gallwch ddefnyddio eich pwerau i lunio mesurau cadwraeth, er enghraifft:
- newid sut mae gweithgaredd yn cael ei wneud ar y safle neu’n agos ato
- newid neu ddirymu caniatâd neu drwyddedau rydych wedi’u rhoi ar y safle
- cymryd camau gorfodi yn erbyn rhywun sy’n cyflawni gweithgaredd niweidiol
- atgyweirio unrhyw ddifrod a achosir i safle
Pan fyddwch yn ystyried cyflwyno mesurau cadwraeth, dylech ddefnyddio’r canlynol:
- amcanion cadwraeth y safle
- ar gyfer SoDdGA yn Lloegr, datganiadau rheoli
- ar gyfer SoDdGA yng Nghymru, datganiadau rheoli y safle
- cynllun gwella safle ar gyfer safle yn Lloegr
- cynllun rheoli craidd ar gyfer safle yng Nghymru
- fframwaith gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer pob safle Ewropeaidd yn y DU
Cymorth a chyngor
Gall y cyrff cadwraeth natur statudol roi cyngor ar sut i ddiogelu, gwarchod ac adfer safleoedd Ewropeaidd.
Cysylltwch â Natural England am help yn Lloegr.
Cysylltwch â CNC am help yng Nghymru.