Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffactorau sy'n gysylltiedig â phobl yn teimlo bod modd iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n cael effaith ar eu hardal leol ar gyfer Ebrill 2014 i Fawrth 2014.
Roedd pobl yn fwy tebygol o deimlo bod modd iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau os oeddent:
- wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu uwch
- mewn iechyd cyffredinol dda
- yn byw yn ardaloedd Ynys Môn, Caerffili neu Abertawe, o gymharu â Sir Benfro a Blaenau Gwent
- yn cytuno bod pobl yr ardal yn trin ei gilydd â pharch
- yn teimlo mewn rheolaeth o fywyd bob dydd.
Ni welwyd cysylltiad rhwng y canlynol a theimlo bod modd dylanwadu ar benderfyniadau mewn ardal leol:
- oedran
- hunaniaeth genedlaethol
- rhywedd; gwlad enedigol
- crefydd
- statws priodasol
- bod ag anabledd neu salwch cyfyngus hirdymor
- bod â mynediad at y rhyngrwyd ar yr aelwyd
- byw mewn ardal drefol neu wledig
- bod mewn amddifadedd materol
- boddhad cyffredinol â bywyd
- teimlo'n ddiogel yn yr ardal leol.
Adroddiadau
Pwy sy’n debygol o deimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal?, Ebrill 2014 i Fawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 413 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.