Mae gan Dŷ’r Cyffredin gyfle i gydio yn agenda Brexit ac mae angen iddo wneud mwy na’n hatal rhag ymadael heb gytundeb – dylai gymryd camau i orfodi’r Llywodraeth i gyflwyno bil refferendwm cyn diwedd mis Gorffennaf. Dyna mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi’i ddweud heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Rwy’n awgrymu dull gweithredu ymarferol i gydweithwyr yn San Steffan. Yn hytrach na dim ond dweud beth mae’n ei wrthwynebu, mae’n bryd i’r Senedd fynd ati i gyflwyno cynllun cadarnhaol i roi terfyn ar yr ansicrwydd ynglŷn â Brexit.

“Os bydd y Senedd yn llwyddo i reoli’r agenda ar 25 Mehefin, dylai ddeddfu nid yn unig i atal dim cytundeb, ond hefyd i orfodi’r Llywodraeth i gyflwyno bil refferendwm erbyn 31 Gorffennaf. Rhaid i hyn gael ei wneud yn gyflym - allwn ni ddim fforddio’r niwed economaidd sy’n digwydd bob dydd yn sgil yr ansicrwydd ynglŷn â Brexit, a byddai’r Gwasanaeth Sifil yn gallu bwrw ymlaen â’r gwaith o baratoi’r ddeddfwriaeth yn lle bod amser yn cael ei wastraffu i gynnal etholiad am arweinyddiaeth y Torïaid.

“Wrth gwrs, os na fydd y Prif Weinidog nesaf yn barod i dderbyn hyn, bydd dewis arall ar gael - sef galw etholiad cyffredinol.”

Mae Prif Weinidog Cymru ym Mrwsel heddiw yn cwrdd ag arweinwyr gwleidyddol, gan gynnwys Michel Barnier, i drafod safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit a chlywed barn yr Undeb Ewropeaidd am y diffyg cynnydd yn y Senedd a’r ffyrdd posib o symud ymlaen.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Yn ystod fy nghyfarfod gyda Michel Barnier gofynnes i iddo sicrhau bod y Cyngor Ewropeaidd yn rhoi digon o amser inni gynnal refferendwm, a byddai Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Defnyddiodd y Prif Weinidog ei gyfarfodydd ym Mrwsel hefyd i esbonio barn Llywodraeth Cymru - sef bod y rhaniadau llwyr yn y DU, a’r diffyg symud yn y Senedd ynghylch cyfaddawdu ar fath meddalach o Brexit i amddiffyn yr economi a swyddi, yn golygu y dylid rhoi’r penderfyniad yn ôl yn nwylo’r bobl. Mae Llywodraeth Cymru yn credu o hyd mai’r opsiwn gorau i bobl Cymru yw bod y DU yn aros yn yr UE.