Cwmni celfi cain yn Wrecsam yn mynd o nerth i nerth
Bydd cwmni sy’n dylunio a chynhyrchu rhai o gelfi cain ac addurnwaith mewnol gorau’r byd yn ymuno â nifer o fusnesau mewn taith fasnach hollbwysig i Hong Kong a Shanghai fis nesaf, dan nawdd Llywodraeth Cymru.
Mae Silverlining, yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, yn mynd o nerth i nerth. Mae’n bwriadu dyblu’i weithlu o 70 i 130 o bobl dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r cwmni’n unigryw. Mae’n dylunio, dosbarthu a ffitio addurnwaith mewnol, moethus iawn unigryw ac o ganlyniad i’w lwyddiant, mae’n ystyried sefydlu’i academi ei hunan er mwyn hyfforddi ei weithlu ar gyfer y dyfodol.
Mae’n allforio 98% o’i gynhyrchion a bydd yn ymuno â thaith fasnach Llywodraeth Cymru i Hong Kong a Shanghai ym mis Mawrth i arddangos ei gynhyrchion unigryw. Mae eisoes wedi mynd ar nifer o deithiau masnach dan nawdd Llywodraeth Cymru.
Mae Silverlining wedi ennill archebion o bob cwr o’r byd, fel arfer drwy argymhelliad yn sgil gwaith blaenorol neu archebion ychwanegol gan ei gwsmeriaid presennol. Gan amlaf, dros £2 miliwn yw gwerth un prosiect.
Mae’r ffatri’n defnyddio dulliau gweithgynhyrchu uwch yn ogystal â sgiliau traddodiadol y saernïwr celfi. Enghreifftiau o’i waith unigryw yw: plethu mwng ceffylau i wneud seinyddion, lledr patrymog a boglynnog ar gyfer llawr yn Singapore; argaenwaith ar wellt ar draws wyneb sy’n disgleirio o dan orffeniad y gall cymryd blwyddyn i’w gwblhau.
Mae llyfrau archebion y cwmni’n llawn am dros flwyddyn, ac yn aml, mae’n cymryd dros 18 mis i gwblhau un prosiect.
Ar ôl tyfu’n rhy fawr i’w safle blaenorol yn Swydd Caer, symudodd y cwmni i Ystad Diwydiannol Wrecsam ac mae nawr yn ystyried sefydlu academi i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal eu safonau uchel a’i enw da rhyngwladol. Bydd yr Academi yn dysgu sgiliau ymarferol megis gwneud celfi, gwaith cain pren, gwaith lledr a gwaith gorffennu, yn ogystal â sgiliau dylunio, arlunio, rheoli prosiect a busnes, a sgiliau arwain er mwyn cynnal twf y cwmni.
Dywedodd Pennaeth Silverlining, Mark Boddington:
“Dw i wedi ymrwymo i Ogledd Cymru fel pencadlys fy nghwmni a dwi’n hyderus iawn y gall y cwmni barhau i ehangu’n llwyddiannus yma. Mae’r DU wedi ennill ei phlwyf ym maes gweithgynhyrchu uwch arbenigol ac mae angen inni allforio mwy gan ddefnyddio'r sgiliau hyn.
“Pan symudon ni i Gymru, roedd cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru a ymatebodd yn gyflym i’n hanghenion gan ddeall ein huchelgeisiau. Roedd y bobl grefftus angenrheidiol yn byw yn lleol ac ar y cyfan roedd costau’n llai.”
Gan sôn am gynhyrchion unigryw'r cwmni, dywedodd:
“Pe bydden ni’n gwneud gwaith cain pren yn unig, ni fyddai dyfodol inni. Ein bwriad yw bod y gorau yn y byd drwy gyfuno dylunio creadigol, crefftwaith arloesol a deunyddiau a thechnoleg uwch. Ein cred yw y gallwn ni ddod yn Rolls Royce y busnesau celfi dros y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
“Yn amlwg, mae Silverlining yn gwmni rhagorol sydd ar frig y diwydiant celfi. Mae’n dda gweld sut y mae’n cynllunio i ddatblygu sgiliau yma yn y Gogledd er mwyn ehangu ymhellach a sicrhau bod safon eithriadol o uchel ei gynhyrchion yn parhau.
“Dw i’n croesawu’i ymrwymiad i’r rhanbarth a dw i’n falch iawn o weld ei fod yn manteisio ar y cyfleoedd y mae teithiau masnach Llywodraeth Cymru yn eu cynnig. Dw i’n dymuno pob llwyddiant iddo yn Hong Kong a Shanghai”.