Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth
Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gofyn am dystiolaeth am sut gellir cryfhau cymunedau Cymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Disgrifiad o’r alwad am dystiolaeth
Mae’r alwad am dystiolaeth yn ceisio:
- cynnull ynghyd gwybodaeth a thystiolaeth am gymunedau Cymraeg
- hel syniadau a barn am sut gellid eu cryfhau
- cynorthwyo’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ei waith o lunio argymhellion i Lywodraeth Cymru
Gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Mae cryfhau cymunedau Cymraeg yn ganolog i strategaeth Llywodraeth Cymru o ddyblu defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion a allai helpu cyflawni hyn.
Bydd y comisiwn yn cyflwyno ei argymhellion ar ffurf adroddiad.
Y cymunedau dan sylw
Iaith genedlaethol yw’r Gymraeg sy’n perthyn i bawb. Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn credu y dylid cynyddu’r defnydd ohoni ym mhob rhan o Gymru.
Er mwyn adlewyrchu hyn, bydd dau gam i waith y comisiwn: y cam cyntaf fydd gwneud argymhellion am gymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith y mwyafrif (neu lle bu hyn yn wir tan yn gymharol ddiweddar); yr ail gam fydd edrych ar ddefnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol mewn rhannau eraill o Gymru.
Yn y ddogfen hon, rydym yn gofyn am dystiolaeth am gymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith y mwyafrif (neu lle bu hyn yn wir tan yn gymharol ddiweddar). Cyfeirir at y cymunedau hyn yn y ddogfen hon fel ‘cymunedau Cymraeg’.
Pam gofyn am dystiolaeth?
Bydd derbyn tystiolaeth yn helpu’r comisiwn i baratoi adroddiad a llunio argymhellion.
Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth aelodau o’r cyhoedd, sefydliadau a rhan-ddeiliaid.
Sut y gallwn gyflwyno tystiolaeth?
Rydym yn derbyn sylwadau ar-lein, drwy'r post a drwy e-bost. Mae'r alwad am dystiolaeth wedi cau ers 13 Ionawr 2023.
Cwestiynau i’ch helpu i ymateb
Gallwch gyflwyno tystiolaeth neu safbwynt am unrhyw fater sydd yn eich tyb chi’n berthnasol i les cymunedau Cymraeg.
Ond gan fod y comisiwn yn awyddus i glywed am rai materion penodol, mae wedi llunio rhai cwestiynau i’ch cynorthwyo.
Nid oes rhaid i chi ymateb i bob cwestiwn. Cyflwynwch dystiolaeth lle mae gennych wybodaeth neu farn berthnasol.
Sut dylid ymateb i newidiadau diweddar yng Nghymru?
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi profi sawl newid pellgyrhaeddol. Gadawodd y Deyrnas Gyfunol yr Undeb Ewropeaidd, effeithiodd coronafeirws (COVID-19) ar ein cymunedau, lledaenodd arferion cymdeithasol newydd (fel gweithio o adref), ac mae argyfwng o ran costau byw ac ynni. Mae’n bosib y bydd rhai o’r newidiadau hyn yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg.
- Cwestiwn 1: Pa gamau y dylid eu cymryd er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg (neu’r Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg) o ganlyniad i unrhyw un o’r datblygiadau hyn?
Sut gallwn ni dargedu cefnogaeth ar gyfer cymunedau Cymraeg yn y dull mwyaf effeithiol?
Mae’r Gymraeg o dan bwysau neilltuol mewn rhai rhannau o Gymru. Rydym yn awyddus i glywed syniadau am sut i ddarparu cefnogaeth ar gyfer cymunedau Cymraeg yn y dull mwyaf effeithiol.
- Cwestiwn 2: Sut gallwn ni ddarparu cefnogaeth yn effeithiol ar gyfer cymunedau Cymraeg?
- Cwestiwn 3: Sut gallwn ni ddefnyddio polisïau rhanbarthol neu leol er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg?
- Cwestiwn 4: Pa swyddogaeth ddylai fod gan lywodraeth leol wrth gryfhau cymunedau Cymraeg?
Meysydd polisi
Mae dyfodol y Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar gynaliadwyedd y cymunedau hyn. Golyga hynny fod rhaid i gamau o blaid y Gymraeg fod yn ‘holistaidd’ – mae’n rhaid iddynt ymwneud â sawl gwedd ar fywyd y gymdeithas, a chwmpasu sawl maes polisi.
Mae’r comisiwn yn awyddus felly i dderbyn tystiolaeth am berthynas y Gymraeg â gwahanol feysydd polisi.
Mae nifer o feysydd polisi wedi eu nodi isod. Nid yw pob maes wedi ei grybwyll, a gallwch gyflwyno tystiolaeth am feysydd nad ydynt yn cael eu henwi.
Yn y meysydd canlynol, pa bolisïau y dylid eu cyflwyno er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg?
- Cwestiwn 5: Adfywio
- Cwestiwn 6: Addysg
- Cwestiwn 7: Amaethyddiaeth / Defnydd Tir
- Cwestiwn 8: Cynllunio Gwlad a Thref
- Cwestiwn 9: Datblygu Cymunedol
- Cwestiwn 10: Datblygu Economaidd
- Cwestiwn 11: Tai
- Cwestiwn 12: Unrhyw faes arall
Polisi iaith uniongyrchol
Mae’r comisiwn yn awyddus i dderbyn tystiolaeth am bolisi iaith uniongyrchol mewn cymunedau Cymraeg.
Wrth ‘bolisi iaith uniongyrchol’, rydym yn golygu polisïau sy’n ceisio cryfhau’r Gymraeg fel iaith oddi mewn i gymunedau Cymraeg, yn hytrach na pholisïau sy’n ceisio cryfhau’r cymunedau eu hunain.
- Cwestiwn 13: Pa mor effeithiol yw polisi iaith uniongyrchol mewn cymunedau Cymraeg?
- Cwestiwn 14: Sut gallwn ni gryfhau polisi iaith uniongyrchol mewn cymunedau Cymraeg?
Sut gallwn ni gryfhau cymunedau Cymraeg mewn cytgord â pholisïau eraill Llywodraeth Cymru?
Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn awyddus i dderbyn tystiolaeth am sut i gryfhau cymunedau Cymraeg mewn modd sy’n cydblethu ag amcanion eraill Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn bwysig am fod rhaid i bolisïau o blaid cymunedau Cymraeg gwmpasu sawl maes. O ganlyniad, mae angen iddynt weithio yng nghyd-destun ehangach polisi cyhoeddus, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol ac hefyd i fabwysiadu polisïau amgylcheddol llesol. Yn yr enghraifft hon, byddai gennym ddiddordeb clywed am bolisïau sydd yn ogystal â chryfhau cymunedau Cymraeg hefyd yn llesol i’r amgylchedd.
- Cwestiwn 15: Sut gallwn ni gryfhau cymunedau Cymraeg mewn modd sy’n cydblethu â rhai o amcanion eraill Llywodraeth Cymru?
- Cwestiwn 16: Sut gallwn ni gryfhau cymunedau Cymraeg yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
Pobl ifanc a theuluoedd ifanc mewn cymunedau Cymraeg
Mae diffyg cydbwysedd o ran oedran mewn sawl cymuned Gymraeg. Mae methiant i gadw pobl ifanc neu deuluoedd ifanc yn y cymunedau hyn, neu i ddenu ieuenctid neu deuluoedd i fyw yno, yn tanseilio’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
- Cwestiwn 17: Sut gallwn ni sicrhau cydbwysedd gwell o ran oedran mewn cymunedau Cymraeg, gan greu sefyllfa lle mae mwy o bobl ifanc a theuluoedd ifanc yn byw yno?
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg am weld cymunedau Cymraeg sy’n amrywiol, yn gynhwysol, ac o blaid cydraddoldeb.
- Cwestiwn 18: Sut gallwn ni gryfhau cymunedau Cymraeg mewn ffordd sy’n hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth?
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol.
Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.