Dyfodol cyfraith Cymru: adroddiad blynyddol 2023 i 2024
Adroddiad 2023 i 2024 ar gynnydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
A thrwy gyngor a chytundeb y doethion a ddaeth yno, archwiliwyd yr hen gyfreithiau, gadawyd rhai ohonynt i barhau, diwygiwyd eraill, a dilëwyd eraill yn gyfan gwbl, a gosodwyd rhai eraill o’r newydd.
Llyfr Iorwerth 1240
Diben yr adroddiad
1. Dyma’r trydydd adroddiad blynyddol i’w lunio o dan adran 2(7) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae’n disgrifio’r cynnydd a wnaed o 1 Hydref 2023 i 30 Medi 2024 o dan raglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru: Dyfodol Cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026 (diwygiwyd Ionawr 2024).
Dosbarthu Cyfraith Cymru
2. Mae’r Archifau Gwladol yn bwriadu datblygu system ddosbarthu yn ôl pwnc ar gyfer pob ddeddfwriaeth a gyhoeddir ar wefan legislation.gov.uk, gan gynnwys cyfraith Cymru. Golyga hyn nad oes ganddynt, ar hyn o bryd, unrhyw fwriad i ddatblygu strwythur dosbarthu ar gyfer cyfraith Cymru yn unig, fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Byddwn yn parhau i gydweithio â nhw ar y mater hwn.
Cydgrynhoi cyfraith Cymru
Cydgrynhoi cyfraith cynllunio ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig
3. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, parhawyd i wneud cynnydd ar gydgrynhoi’r prif Ddeddfau sy’n ffurfio fframwaith deddfwriaethol y system gynllunio yng Nghymru, yn ogystal â rhai darpariaethau sydd â chyswllt agos â chynllunio a geir mewn Deddfau eraill ar hyn o bryd.
4. Disgwylir i’r ymarfer cydgrynhoi greu Bil mawr iawn (tua 450 tudalen ym mhob iaith). Bydd angen gwneud cyfres o ddiwygiadau canlyniadol a diddymu deddfiadau eraill hefyd, yn ogystal â darparu ar gyfer darpariaethau trosiannol ac arbedion penodol. Yn hytrach na chynnwys y materion hyn mewn Atodlen i’r prif Fil, mae gwaith ar y gweill i baratoi ail Fil “darpariaethau canlyniadol”. Bwriedir cyflwyno hwn i’r Senedd ar yr un pryd â’r prif Fil, fel bod y Senedd yn gallu ystyried y darlun llawn. Bwriad gwneud hyn yw sicrhau bod y darpariaethau o sylwedd (a’r rhai a ddefnyddir amlaf) yn rhydd o Atodlenni hir o ddarpariaethau canlyniadol a throsiannol. Mae hyn yn debyg i’r hyn a wnaed yn 1990 pan gafodd y gyfraith ym maes cynllunio ei chydgrynhoi ddiwethaf.
5. Yn unol â datganiad deddfwriaethol y Llywodraeth a gyhoeddwyd ar 9 Gorffennaf 2024, bwriedir cyflwyno’r Biliau cydgrynhoi y flwyddyn nesaf (2025). Cyn hynny, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu’r is-ddeddfwriaeth i roi’r Bil ar waith. Rhaglen waith hirdymor yw hon, o ystyried cwmpas a nifer tebygol yr offerynnau, felly mae’r gwaith wedi dechrau cyn cyflwyno’r Biliau.
Bil i ddiddymu darpariaethau sydd wedi darfod ac wedi eu disbyddu
6. Nododd y rhaglen ddiwygiedig y byddai Bil “diddymu” yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Roedd datganiad deddfwriaethol diwethaf y Llywodraeth yn diweddaru’r Senedd i’w hysbysu y byddai’r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth i ffurfioli’r system o wneud a chyhoeddi offerynnau statudol Cymru. Cwblhawyd y Bil yn ystod y cyfnod adrodd a bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn manylu ar ganlyniad ystyriaeth y Senedd1 o’r Bil. (Diweddariad ar ôl y cyfnod adrodd: cyflwynwyd Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) i'r Senedd ar 21 Hydref 2024)
Pennu cwmpas pynciau eraill ar gyfer cydgrynhoi
7. Yn ystod y cyfnod adrodd cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymarfer mewnol i ystyried cydgrynhoi’r gyfraith sy’n ymwneud â rhandiroedd. Nododd y gwaith hwn y gallai hyn fod yn fater addas ar gyfer ymarfer cydgrynhoi yn y dyfodol, ond gorffen y gwaith ar gyfraith cynllunio yw’r flaenoriaeth o hyd. Bydd yr adroddiad cwmpasu hwn felly’n dod yn rhan o’r ystyriaethau ar gyfer rhaglen nesaf y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
8. Gwnaed gwaith cwmpasu cychwynnol hefyd ar addasrwydd cydgrynhoi cyfraith bywyd gwyllt a chyfraith coedwigaeth. Dangosodd hyn y byddai angen gwneud darn o waith mwy hirdymor ac fe ddylai unrhyw benderfyniad ynglŷn â hynny hefyd fod yn rhan o’r ystyriaethau ar gyfer rhaglen nesaf y Llywodraeth.
9. Ers yr adroddiad diwethaf mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith ystyried a oes modd moderneiddio, symleiddio a gwella hygyrchedd y gyfraith ym maes amaethyddiaeth drwy gydgrynhoi a chodeiddio, a sut y gellid gwneud hynny. Dechreuodd y prosiect hwn yng ngwanwyn 2024 ac yn wreiddiol roedd disgwyl iddynt adrodd arno yng ngwanwyn 2025. Yn ddiweddar cytunwyd y bydd yr adroddiad ar gael yn yr hydref 2025, ond bydd diweddariad pellach yn yr adroddiad blynyddol nesaf. Gofynnwyd i'r Comisiwn ystyried:
- pa ddeddfwriaeth ddylai fod yn rhan o god y gyfraith ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, a
- pa newidiadau neu addasiadau technegol i'r gyfraith sy'n ddymunol neu'n angenrheidiol er mwyn symleiddio a moderneiddio'r gyfraith i ffurfio cod o'r fath.
Gan mai’r bwriad ar hyn o bryd yw y bydd unrhyw waith yn y dyfodol yn cael ei ddatblygu fel prosiect cydgrynhoi, ni fydd ystyriaethau Comisiwn y Gyfraith yn cynnwys awgrymu cynigion ar gyfer diwygio’r gyfraith nac adolygu sylwedd polisi amaethyddol Cymru.
10. Cyflwynodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adroddiad ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ym mis Mawrth 2024 gan argymell bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn trafod y flaenoriaeth y dylid ei rhoi i gydgrynhoi'r gyfraith ar drethiant lleol gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Cabinet. Roedd ymateb y Llywodraeth yn nodi bod ystod o opsiynau deddfwriaethol wedi eu hystyried a'u trafod gyda'r Cwnsler Cyffredinol cyn drafftio’r Bil, a chaiff canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor eu hystyried wrth ddatblygu cynigion ar gyfer prosiectau cydgrynhoi yn y dyfodol.
Gweithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig
11. Roedd Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (Cychwyn) 2024, a wnaed ar 19 Awst 2024, yn pennu 4 Tachwedd 2024 fel dyddiad cychwyn cyffredinol y Ddeddf. Roedd hefyd yn cychwyn cyfres o bwerau i wneud rheoliadau ar 9 Medi 2024 fel y gellid gwneud rheoliadau ategol cyn cychwyn y Ddeddf.
12. Gosodwyd pum set o reoliadau gerbron Senedd Cymru ar 18 Medi 2024 (pob un yn dod i rym ar 4 Tachwedd 2024):
- Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig (Cymru) 2024
- Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
- Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024.
13. Gan fod y pum set hon o reoliadau yn cynnwys cyfraith weithredol sy’n effeithio ar amgylchedd hanesyddol Cymru byddant, fel y Ddeddf, yn ffurfio rhan o God yr Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer Cymru. Mae pob set o reoliadau yn datgan hyn.
14. Daw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 i rym ar 4 Tachwedd 2025 hefyd. Ond gan mai dim ond diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ganlyniadol ar y Ddeddf y mae’r Rheoliadau hyn yn eu gwneud, nid ydynt wedi eu cynnwys yng Nghod yr Amgylchedd Hanesyddol. Dyna a wneir hefyd gyda Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024, sy’n ymwneud â diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i’r Ddeddf.
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007
15. Mae Gorchymyn newydd (y disgwylir iddo gael ei alw’n Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025) wedi ei lunio. Bwriedir ymgynghori arno ddiwedd 2024 gyda’r nod o’i wneud yn ystod haf 2025. Yn ogystal â bod y fersiwn ddwyieithog gyntaf o’r ddeddfwriaeth hon, bydd hefyd yn cynnwys cyfeiriadau ac iaith wedi eu diweddaru i wella ei hygyrchedd. Bydd y Gorchymyn yn cynnwys y newidiadau sydd eu hangen yn sgil Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Codeiddio cyfraith Cymru
16. Bydd y prosiect i gydgrynhoi cyfraith cynllunio yn arwain at greu Cod y gyfraith ar gyfer cynllunio yng Nghymru. O gael cymeradwyaeth y Senedd, bydd yr is-ddeddfwriaeth a wneir maes o law o dan y Ddeddf Cynllunio (Cymru) newydd hefyd yn rhan o’r Cod hwn.
Cyfathrebu cyfraith Cymru
Sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael ar ffurf gyfoes ar legislation.gov.uk
17. Mae’r Swyddfa Codau Deddfwriaethol yn Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol wedi parhau i weithio ar y prosiect hwn, ochr yn ochr â’r tîm golygyddol yn Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yr Archifau Gwladol. Yn unol â’r blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol diwethaf, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar y canlynol:
- diweddaru deddfwriaeth sylfaenol yn y ddwy iaith a’i chynnal felly wrth i ddiwygiadau pellach gael eu gwneud
- diweddaru offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru, gan weithio’n ôl o eleni, ac unwaith eto cynnal yr offerynnau hynny wrth i ddiwygiadau pellach gael eu gwneud.
Y bwriad gyda’r offerynnau statudol yw cwblhau un flwyddyn cyn dechrau gweithio ar y flwyddyn nesaf, ond mae hyn yn golygu y gall yr offerynnau y mae defnyddwyr yn eu cyrchu amlaf fod wedi dyddio am gyfnod hwy. Rydym felly wedi blaenoriaethu rhai o’r offerynnau sy’n cael eu cyrchu amlaf hefyd fel bod defnyddwyr yn gallu eu gweld ar ffurf wedi ei diweddaru.
18. Dyma’r sefyllfa ar ddiwedd y cyfnod adrodd:
- roedd 93.5% o Ddeddfau a Mesurau Cymru wedi eu diweddaru yn y ddwy iaith. Roedd ychydig dros 200 o ‘effeithiau’ (newidiadau i ddeddfwriaeth) i gael eu cymhwyso, sy’n cynrychioli 0.59% o gyfanswm y diwygiadau a wnaed i Ddeddfau a Mesurau
- drwyddi draw roedd 76.8% o offerynnau statudol a wnaed gan Weinidogion Cymru wedi eu diweddaru yn y ddwy iaith (sef 71.3% o’r testunau Cymraeg ac 82.4% o’r testunau Saesneg)
- roedd yr holl offerynnau statudol a wnaed hyd at ddiwedd y cyfnod adrodd yn 2024 wedi eu diweddaru, a phob un a wnaed yn 2023. Mae pob un ond dau o offerynnau 2022 wedi eu diweddaru a gwnaed cynnydd sylweddol ar offerynnau 2021
- cymhwyswyd dros 17,700 o effeithiau i ddeddfwriaeth Cymru yn ystod y cyfnod adrodd, ond yn ystod yr un cyfnod gwnaed ychydig o dan 15,500 o ddiwygiadau ychwanegol. Ar ddiwedd y cyfnod adrodd diwethaf roedd 59.7% o’r holl ddiwygiadau wedi eu cwblhau; 67.4% yw’r ffigwr ar ddiwedd y cyfnod adrodd hwn.
Ehangu a gwella gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales
19. Yn ystod y flwyddyn datblygwyd adran newydd o’r wefan, Deddfwriaeth yng Nghymru. Mae’n cynnwys tudalen benodol ar gyfer pob darn o ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan y Senedd ers datganoli. Ychwanegir tudalen newydd bob tro y caiff Deddf newydd ei phasio fel bod cofnod llawn ar gael i’r cyhoedd.
20. Ar bob tudalen ceir crynodeb o’r hyn mae’r Ddeddf yn ei wneud, dolenni iddi ac i’w deunyddiau esboniadol, hanes cyflwyno’r Bil a’i hynt drwy’r Senedd a dolenni i’r offerynnau statudol a wnaed o dan y Ddeddf hyd yma. Caiff offerynnau statudol newydd a wneir o dan Ddeddfau Cymru eu hychwanegu’n rheolaidd, fel bod yr wybodaeth bob amser yn gyfoes.
21. Yn adroddiad blynyddol 2022-2023 nodwyd y câi fersiwn derfynol y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â phob Bil ei gyhoeddi ar wefan y Senedd, ac y byddai tudalennau’r Deddfau ar Cyfraith Cymru/Law Wales yn cynnwys dolenni i’r fersiynau terfynol hynny. Ar ôl ystyried y mater ymhellach daeth Comisiwn y Senedd i’r casgliad na fyddai’r tudalennau ar wefan y Senedd sy’n amlinellu hynt pob Bil yn addas ar gyfer storio’r rhain yn barhaol. Yr arfer yn awr, felly, yw bod fersiynau terfynol Memoranda Esboniadol yn ymddangos ar dudalen y Ddeddf berthnasol ar Cyfraith Cymru/Law Wales, ble byddant ar gael yn barhaol.
Nodi cyfleoedd i wella hygyrchedd digidol deddfwriaeth
22. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Archifau Gwladol ynglŷn â rhoi’r gorau i ddefnyddio’r fformat dwy golofn wrth lunio a chyhoeddi offerynnau statudol dwyieithog. Rydym yn ystyried defnyddio fformat tebycach i Ddeddfau Senedd Cymru i’w cyhoeddi.
Cryfhau’r trefniadau ar gyfer cyhoeddi is-ddeddfwriaeth a wneir ar ffurf heblaw offeryn statudol Cymreig
23. Mae Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) yn cynnwys darpariaeth ynghylch cyhoeddi is-ddeddfwriaeth a wneir ar ffurf heblaw offeryn statudol Cymreig. Bydd mwy o fanylion am hyn mewn adroddiadau pellach. Ond er mwyn achub y blaen ar y ddarpariaeth ddeddfwriaethol hon, yn ystod y cyfnod adrodd hwn buom yn archwilio’r gwahanol opsiynau ar gyfer gwella arferion cofnodi, cyhoeddi a chadw is-ddeddfwriaeth a wneir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru ar ffurf heblaw offeryn statudol. Rydym hefyd wedi dechrau casglu is-ddeddfwriaeth o’r math hwn nad yw ar gael ar wefan LLYW.CYMRU, er mwyn mynd ati’n ôl-weithredol i’w chofnodi a’i chyhoeddi fel bod cofnod llawn ar gael.
24. Mae’r gwaith o ystyried sut y gellir cryfhau hygyrchedd yr hyn a elwir yn “offerynnau traffig ffyrdd” wedi dechrau hefyd. Ar hyn o bryd caiff gorchmynion a wneir ar ffurf offeryn statudol, yn ogystal â “gorchmynion cau priffyrdd” (nad ydynt yn cael eu gwneud ar ffurf offeryn statudol) a gorchmynion ffyrdd eraill i gyd eu cyhoeddi ar wefan LLYW.CYMRU. Er mai’r bwriad yw bod hyn yn parhau, gall gwell ffyrdd o chwilio a rhestru’r cofnodion hyn wella hygyrchedd.
Datblygu’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn llunio deddfwriaeth ddwyieithog
25. Rhoddwyd system cof cyfieithu a rheoli terminoleg y Gwasanaeth Cyfieithu ar waith yn llwyr yn ystod y flwyddyn. Mae’r system cof cyfieithu yn gwneud cyfieithu yn fwy effeithiol a chyson. Mae’r system rheoli terminoleg eisoes wedi hwyluso’r gwaith o wella cysondeb y gronfa ddata er mwyn gwella ansawdd y cofnodion sydd ar gael i gyfieithwyr mewnol a’r cyhoedd. Mae gwelliannau pellach ar y gweill er mwyn gallu mabwysiadu dulliau mwy cyson o ymchwilio i derminoleg, ei safoni ac ymgynghori arni.
26. Mae’r prosesau safoni terminoleg arferol sy’n gysylltiedig â Biliau wedi parhau yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gwnaed gwaith sylweddol ar derminoleg cynllunio wrth gydgrynhoi’r gyfraith yn y maes, gan arwain at 147 o dermau newydd, termau diwygiedig neu dermau wedi eu cadarnhau yng nghronfa ddata TermCymru.
27. Fel rhan o’i orchwyl o ddatblygu canllawiau iaith ac arddull mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn datblygu canllawiau ar sillafu termau benthyg gwyddonol h.y. termau benthyg ym meysydd ffiseg, bioleg a chemeg (gan gynnwys enwau elfennau a chyfansoddion cemegol) a meysydd cymwysedig cysylltiedig fel meddygaeth a pheirianneg. Bydd hyn yn gwella cysondeb o fewn deddfwriaeth a rhwng deddfwriaeth a thestunau eraill.
28. Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu wedi defnyddio gwasanaethau cyflenwyr ar Gytundeb Fframwaith Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Llywodraeth Cymru yn gyson yn ystod y cyfnod adrodd, yn enwedig y rhai ar yr is-lot penodol a sefydlwyd ar gyfer deddfwriaeth. Rhoddwyd adborth ar eu gwaith i ddarparwyr allanol fel ffordd o feithrin sgiliau arbenigol a chynhaliwyd cyfarfodydd unigol gyda’r holl ddarparwyr dros yr haf er mwyn adolygu’r trefniadau a sicrhau bod defnydd llawn yn cael ei wneud o’r ddarpariaeth.
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
29. Yn gynnar yn ystod y cyfnod cynllunio mynegodd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol ar y pryd am Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), Jeremy Miles AS, ei fod am i swyddogion gynnal y prosiect drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Roedd y Gweinidog a thîm y Bil o’r farn y byddai Bil y Gymraeg ac Addysg yn brosiect peilot deddfwriaethol da gan fod y tîm polisi a oedd yn gweithio ar y Bil i gyd yn medru’r Gymraeg ac yn meddu ar brofiad helaeth o weithio’n ddwyieithog. At hynny, roedd pwnc ac uchelgais y Bil yn creu disgwyliad naturiol y byddent yn delio â’r pwnc yn Gymraeg. Roedd yn addas, felly, i fod y prosiect deddfwriaeth sylfaenol cyntaf i gael ei weinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg yn llwyr (mae gweithio dwyieithog yn gyffredin ond arwyddocâd hyn yw bod bron pob elfen o’r gwaith mewnol yn cael ei gwblhau yn Gymraeg).
30. Drafftiwyd y Bil yn Gymraeg ac yn Saesneg gan Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol gyda’r Gwasanaeth Cyfieithu yn cyflawni swyddogaeth olygyddol.
31. Cyflwynwyd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) i’r Senedd graffu arno ar 15 Gorffennaf 2024.
Adolygu a diweddaru canllawiau ar lunio deddfwriaeth sylfaenol
32. Mae’r gwaith o adolygu a diweddaru canllawiau mewnol Llywodraeth Cymru ar ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn parhau. Gwnaed amryw o ddiweddariadau interim i’r Llawlyfr Deddfwriaeth ar Filiau’r Senedd a chyhoeddwyd rhifyn diwygiedig ym mis Mehefin 2024. Bwriedir cynnal adolygiad llawnach.
Prosiectau eraill a materion i’w nodi
Gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith
33. Nid yw Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi ei gynigion ar gyfer ei 14eg Rhaglen Diwygio’r Gyfraith, ond mae’n dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yng Nghymru i ganfod prosiectau addas.
34. Fel y nodwyd uchod, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfeirio’r prosiect ar gyfraith amaeth i’r Comisiwn yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
35. Gosododd Gweinidogion Cymru eu nawfed adroddiad blynyddol ar Weithredu Cynigion Comisiwn y Gyfraith gerbron y Senedd ar 19 Chwefror 2024
Cywiriadau i Offerynnau Statudol Cymru
36. Yn ystod y cyfnod adrodd bu gohebiaeth bellach rhwng y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Cwnsler Cyffredinol ynghylch cywiro offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru.
Cyfarfodydd rhwng swyddfeydd i drafod dulliau o ymdrin â deddfwriaeth ar draws y DU
37. Cyflwynodd y grŵp cyfnod penodol a sefydlwyd yn Chwefror 2023 bapur cynigion i Benaethiaid y Swyddfeydd Drafftio yn Ionawr 2024. Mae hefyd wedi gofyn i’r Archifau Gwladol edrych yn fanylach ar y posibiliadau technegol ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth a rhannu ei ymchwil ar y pwnc.
Diwygiadau i’r rhaglen
38. Mae adran 2(6) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn caniatáu i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen. Fel y nodwyd uchod gosodwyd rhaglen ddiwygiedig gerbron y Senedd yn Ionawr 2024.