Neidio i'r prif gynnwy

Mae Recresco, cwmni ailgylchu o Gwmbrân, yn cynyddu ei gynhyrchiant ac yn creu swyddi newydd diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru gwerth £250,000.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Recresco yw'r cwmni ailgylchu gwydr mwyaf yng Nghymru, a bydd yr arian yn helpu'r cwmni i uwchraddio peiriannau a fydd yn gwella’r broses ar gyfer didoli a gwahanu gwydr, ac yn y pen draw yn cynyddu cynhyrchiant ar y safle.

Bydd y buddsoddiad mewn offer sychu a gwahanu mecanyddol yn sicrhau bod gwydr yn cael ei brosesu heb achosi rhwystrau, gan gynnwys ar gludfeltiau.

Bydd y cymorth, sy’n dod o Gronfa Dyfodol Economaidd Llywodraeth Cymru, yn allweddol i greu cyfleoedd ar gyfer swyddi newydd a diogelu dyfodol hirdymor y safle.

Mae'r cyllid yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach y cwmni.

Dywedodd Cyfarwyddwr Recresco, Tim Gent:

"Rydyn ni wrth ein boddau ac yn falch o dderbyn y cyllid grant hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y dyfarniad yn cyfrannu at ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer safle Cwmbrân wrth ar yr un pryd helpu i sicrhau swyddi a darparu cyfleoedd datblygu ar gyfer ein staff. Mae Recresco wedi ymrwymo'n llwyr i bresenoldeb hirdymor yng Nghwmbrân, ac rydyn ni’n frwd dros weithio gyda busnesau lleol a chefnogi swyddi lleol.

"Byddwn ni’n defnyddio'r cyllid i gyfrannu at fuddsoddi mewn offer sychu newydd o'r radd flaenaf, ac uwchraddio ein prif weithrediadau drwy osod technoleg offer gwahanu mecanyddol sy'n arwain y farchnad sy'n gallu prosesu cyfaint uwch o ddeunyddiau a chynnig cynnyrch terfynol o'r ansawdd uchaf i'n cwsmeriaid.

"Hoffen ni ddiolch i Lywodraeth Cymru am gefnogi dyfodol Recresco yng Nghwmbrân ac rydyn ni’n edrych ymlaen at roi ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y safle ar waith.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae'n newyddion gwych bod Recresco yn buddsoddi yn ei ddyfodol yng Nghwmbrân ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau'r cwmni.

"Mae Recresco yn gyflogwr pwysig yn yr ardal ac rwy'n falch iawn bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at swyddi newydd yn cael eu creu. Mae hyn yn hwb gwirioneddol i'r ardal mewn cyfnod economaidd mor anodd.

"Mae'r cwmni wedi gweithio'n galed i oroesi’r storm yn ystod blwyddyn a fu’n hynod heriol ac mae mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau a chyfleoedd y dyfodol.

"Mae ein Cronfa Dyfodol Economaidd yn parhau i fod yn hanfodol i gefnogi busnesau ledled Cymru a bydd yn allweddol i helpu Recresco i dyfu.