Neidio i'r prif gynnwy

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw bod Cymru’n datblygu yn genedl amlieithog ac yn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn profi’r manteision o ddysgu ieithoedd rhyngwladol wrth iddynt ddatblygu yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.

Ein strategaeth

Mae ein strategaeth yn cefnogi pob dysgwr i ddod yn ddinasyddion byd-eang, sy’n gallu cyfathrebu mewn ieithoedd rhyngwladol, sy’n deall a gwerthfawrogi eu diwylliant ei hunain a diwylliannau eraill ac yn gallu cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd yma yng Nghymru a ledled y byd.

Ein nodau

Dyma ein nodau strategol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf:

  • cynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd ar bob lefel ac ar draws pob sector
  •  darparu canllawiau ac egwyddorion clir, a chodi ymwybyddiaeth ym mhob sector er mwyn cefnogi amlieithrwydd mewn ysgolion yng Nghymru
  • cefnogi addysgu a dysgu ardderchog i bob dysgwr mewn perthynas ag ieithoedd rhyngwladol.

Cefnogir pob nod gan gamau strategol, a fydd yn cael eu cyflawni gennym ni a’n partneriaid Dyfodol Byd-eang.

Y cyd-destun

Bydd 'Dyfodol Byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru 2020 i 2022' yn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod trosglwyddo i’r cwricwlwm newydd. Bydd y Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cefnogi dysgu iaith gan gyflwyno ieithoedd ychwanegol yn gynt o lawer, er mwyn tanio brwdfrydedd y dysgwyr mewn cymryd diddordeb gydol oes mewn ieithoedd rhyngwladol, sy’n agor y drws i ddiwylliannau pobl eraill.

Mae Llywodraeth Cymru am i'n holl ysgolion fod yn amgylcheddau dysgu iaith cyfoethog ac am eu cefnogi i ddeall y bydd gallu siarad un neu fwy o ieithoedd rhyngwladol, ar y cyd â sgiliau eraill, yn cynorthwyo dysgwyr i agor drysau i bosibiliadau gwaith cyffrous yn ogystal â chael bywydau personol cyfoethocach.

Mae'r cynllun hwn yn gosod fframwaith ar gyfer ein gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.

Ein partneriaid Dyfodol Byd-eang

Mae'r cynllun hwn yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru, consortia addysg rhanbarthol a'n partneriaid Dyfodol Byd-eang yn eu cymryd i gyflawni ein nodau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth, eu harbenigedd a'u profiad o gefnogi athrawon a dysgwyr.

I oruchwylio'r cynllun a'r rhaglen hon, byddwn yn parhau i weithio gyda'n Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o’r cyrff canlynol:

  • ysgolion
  • consortia addysg rhanbarthol
  • prifysgolion yng Nghymru
  • Goethe-Institut
  • Institut Français
  • Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen
  • Adran Addysg Swyddfa Is-gennad Cyffredinol yr Eidal yn Llundain
  • Sefydliadau Confucius
  • British Council Cymru
  • Estyn
  • Llwybrau at Ieithoedd Cymru
  • y Brifysgol Agored yng Nghymru
  • Cyswllt Ysgolion Rhyngwladol, Cyngor Dinas Caerdydd
  • BBC Cymru
  • Gyrfa Cymru
  • Cymwysterau Cymru

Nod strategol 1: Cynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd ar bob lefel ac ar draws pob sector

Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi dysgu iaith newydd mewn un Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn cyd-fynd ag ethos y cwricwlwm newydd, sy’n canolbwyntio ar ystod ehangach o gyfleoedd a phrofiadau i ddysgwyr.

Mae’r MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn nodi bod disgwyl i bob dysgwr ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol yn yr ysgol gynradd (dangosir dilyniant yn y disgrifiadau dysgu o Gam dilyniant 3, sydd yn fras yn cyfateb i 11 oed).

Bydd y cynllun diwygiedig yn cefnogi athrawon i roi’r cyfle gorau i’n dysgwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu mewn ieithoedd rhyngwladol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Byddwn hefyd yn cynnwys gwerthusiad yn nwy flynedd y rhaglen. Mae angen inni gael targed clir a mesuradwy ar gyfer y cynnydd a rhoi syniad cryf o'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud, gan gynnwys darparu sicrwydd gweladwy y bydd nifer y dysgwyr sy'n dilyn cymhwyster yn cynyddu ymhen amser.

Mae'r camau gweithredu strategol a ganlyn yn nodi sut y byddwn yn cyflawni'r nod hwnnw. 

Cam strategol 1: Cynorthwyo ysgolion cynradd i gynllunio eu darpariaeth iaith ryngwladol.

Er mwyn cyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd ym Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, bydd angen pennu cyfrifoldebau clir a darparu adnoddau i bawb sy'n ymwneud â'r broses a sicrhau eu bod yn cydweithio â'i gilydd. 

Gwyddom fod llawer o frwdfrydedd yn ein hysgolion cynradd dros ieithoedd rhyngwladol a'u bod eisoes yn gwneud llawer o waith da i'w hyrwyddo a hynny drwy'r gwaith y mae ysgolion wedi'i dreialu. Rydym am adeiladu ar hyn a, dros amser, gynyddu nifer y dysgwyr sy'n parhau i ddysgu ieithoedd ar hyd eu teithiau addysgol. 

Er mwyn helpu i feithrin gallu a sicrhau bod ieithoedd rhyngwladol yn cael eu cyflwyno'n effeithiol, byddwn yn gwneud y canlynol.

Llywodraeth Cymru

Byddwn yn datblygu canllawiau er mwyn helpu ysgolion cynradd i gynnwys ieithoedd yn y gwaith o gynllunio eu cwricwlwm. 

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn canolbwyntio ar anghenion athrawon a dysgwyr mewn perthynas ag ieithoedd rhyngwladol ac yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar ei hopsiynau wrth inni baratoi ar gyfer addysgu'r MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu am y tro cyntaf.

Byddwn yn datblygu ac yn comisiynu adnoddau ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cefnogi ymarferwyr mewn ysgolion cynradd.

Byddwn yn darparu adnoddau ar ffurf astudiaethau achos o gyflwyno ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd mewn rhanbarthau a chyd-destunau gwahanol a fydd ar gael yn un o restrau chwarae Hwb. Bydd yr adnoddau hyn yn canolbwyntio ar y ffordd y mae ysgolion wedi mynd ati i gynllunio'n strategol, strwythuro eu darpariaeth a threfnu dysgu proffesiynol staff.

Consortia rhanbarthol

Bydd EAS yn gweithio gyda nifer cynyddol o glystyrau rhanbarthol i ddatblygu ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys cefnogi a hwyluso modelau pontio effeithiol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.

Byddwn yn parhau i helpu ein hymarferwyr i ddatblygu ieithoedd rhyngwladol drwy daith dysgu proffesiynol Cwricwlwm i Gymru.

Byddwn yn helpu ysgolion cynradd amlieithog arweiniol i ddatblygu a rhannu arferion da drwy ddysgu proffesiynol EAS drwy Microsoft Teams, gweminarau a sesiynau wyneb yn wyneb.

Bydd CSC yn datblygu rhwydwaith dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon cynradd ym mhob rhan o'r consortiwm er mwyn rhannu arferion gorau ym maes addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol. Bydd y rhwydwaith cynradd hwn yn cynnwys prif gydlynydd ieithoedd rhyngwladol ac ymarferwyr arweiniol ar gyfer Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg yn y lleoliad cynradd. 

Prif nodau'r rhwydweithiau fydd datblygu e-adnoddau cynradd ar gyfer ieithoedd rhyngwladol, cyflwyno rhaglenni dysgu proffesiynol, datblygu Pasbort Ieithoedd a chefnogi'r broses strategol o roi'r trefniadau ar gyfer addysgu ieithoedd rhyngwladol yng nghwricwlwm ysgol gynradd ar waith.

Bydd GwE yn gweithio gydag arweinydd a thimau cynradd GwE i ddatblygu eu dealltwriaeth o ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd. Byddwn yn sefydlu rhwydwaith cymorth cynradd ac yn cydweithio ag arweinwyr clystyrau cynradd i rannu syniadau ac arferion gorau yn y consortiwm. 

Byddwn yn trefnu digwyddiadau digidol er mwyn rhannu arferion da, egwyddorion a syniadau. Byddwn yn trefnu gweithgorau i ddatblygu adnoddau, y bydd eu haelodau yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.

ERW 
Byddwn yn ymestyn ein rhaglen Dysgu Arweinwyr Canol i gynnwys clystyrau eraill yn y rhanbarth. Byddwn yn parhau i gefnogi myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen gynradd TEachers Learning to Teach languages (TELT) y Brifysgol Agored. 

Byddwn yn parhau i helpu ysgolion i gymryd rhan yn rhaglen Cerdd Iaith y British Council (dysgu iaith drwy'r celfyddydau mynegiannol).

Byddwn yn datblygu gweithdai i ysgolion ar y Cwricwlwm i Gymru.

Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Byddwn yn datblygu ‘pecyn cymorth Ieithoedd Rhyngwladol cynradd’ er mwyn cefnogi athrawon sydd â rhywfaint o wybodaeth am sut i gyflwyno darpariaeth ieithoedd ar lefel gynradd neu athrawon nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth am sut i wneud hynny. 

Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys pecyn adnoddau a chanllaw addysgegol ar sut i ddefnyddio'r adnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm newydd.

Sefydliadau iaith

Byddwn yn parhau i ddarparu arbenigedd a chymorth i ysgolion ledled Cymru, e.e. bydd ein pum ysgol sy'n rhan o gynllun Ystafelloedd Dosbarth Confucius yn datblygu adnoddau y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ar gyfer dysgu cyfunol. Byddwn hefyd yn gweld cynnydd yn nifer yr oriau sydd ar gael i ysgolion gefnogi dysgu Eidaleg yn ein hysgolion. Bydd yr Institut français yn cefnogi ysgolion ac athrawon gyda chyfleoedd DPP, mynediad at ddeunyddiau addysgu, gan gynnwys adnoddau iaith a diwylliant Ffrangeg dilys, a chyfleoedd cyfnewid gydag ysgolion yn Ffrainc. Byddant yn hyrwyddo diploma Prim DELF i helpu ysgolion i gynnig cymwysterau iaith Ffrangeg rhyngwladol i'w disgyblion. Mae cymorth hefyd ar gael gan ein partneriaid Dyfodol Byd-eang.

Cam strategol 2: Cynyddu'r cyfleoedd i ddysgwyr gael profiad o ieithoedd ar y cyd â chyrsiau sy’n cael eu harholi.

Mae amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau iaith ar gael i ddysgwyr er mwyn ehangu eu hopsiynau presennol o ran cymwysterau a gwella dysgu.

Consortia rhanbarthol

EAS 
Byddwn yn parhau i gydweithio â'n cydweithwyr yn y sefydliadau iaith a chefnogi eu gwaith ym mhob rhan o'r rhanbarth. 

Byddwn yn parhau i gefnogi cymwysterau Mandarin y Prawf Tsieineeg i Bobl Ifanc/y Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCCh), FfCCh Eidaleg a Goethe-Institut Llundain, a chymwysterau sefydliadau iaith eraill ledled y rhanbarthau. 

Byddwn yn ystyried posibiliadau ar gyfer dysgu ieithoedd gydag Ysgolion Rhwydwaith Dysgu.

CSC 
Byddwn yn hwyluso digwyddiadau iaith sy'n dathlu pwysigrwydd dysgu ieithoedd gydol oes yn y gweithle byd-eang, megis cynadleddau iaith i ddysgwyr sy’n edrych ar y sgiliau allweddol y bydd dysgu iaith yn eu rhoi iddynt.

Byddwn yn datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr iaith Busnes Cymru sy'n defnyddio ieithoedd yn eu gweithle.

GwE 
Byddwn yn helpu i ddatblygu digwyddiadau rhithwir a gynhelir gan wahanol asiantaethau a sicrhau bod ysgolion yn cymryd rhan ynddynt.

Byddwn yn llunio tiwtorialau rhithwir wedi'u recordio ar gyfer athrawon a myfyrwyr.

Bydd ein tîm Dyfodol Byd-eang yn gweithio gyda'r Institut français du Royaume-Uni ac yn llunio sesiynau sgiliau wedi'u recordio ar gyfer myfyrwyr Blynyddoedd 12/13.

ERW 
Byddwn yn hyrwyddo dosbarthiadau meistr ar gyfer dysgu ieithoedd ac yn parhau i'w darparu. Byddwn yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd a gynigir gan y sefydliadau iaith ac yn hysbysu ein hysgolion am y cyfleoedd hyn. Os byddant am fanteisio ar y cynigion amgen hyn, byddwn yn darparu cymorth yn ôl yr angen.

Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen – Rhaglen Cymru (SEEO-WP)

Byddwn yn parhau i gyflwyno gweithdai ar iaith a diwylliant Sbaen i ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys gweithdai ar bynciau TGAU a Safon Uwch, ar y cyd ag Instituto Cervantes.
 
Byddwn yn cyflwyno gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar addysgeg ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys ar bynciau TGAU a Safon Uwch, ymarfer siarad a diwylliant Sbaen, ar y cyd ag Instituto Cervantes.

Adran Addysg Swyddfa Is-gennad Cyffredinol yr Eidal yn Llundain

Byddwn yn nodi ac yn hyrwyddo cyfleoedd a phrofiadau mewn ysgolion i hyrwyddo iaith a diwylliant yr Eidal. 

Byddwn yn cynyddu nifer yr oriau addysgu sydd ar gael i ysgolion. 

Byddwn yn darparu athrawon proffesiynol a chymwys i ysgolion yng Nghymru. Byddwn yn cynyddu nifer yr athrawon. Byddwn yn cynnig arweiniad a chymorth mewn perthynas ag iaith a diwylliant yr Eidal i athrawon ysgol gynradd fel rhan o'u gwaith o gynllunio'r cwricwlwm a'i roi ar waith.

Goethe-Institut

Byddwn yn parhau i ddarparu adnoddau a deunyddiau ar-lein am ddim, sy'n cefnogi'r broses o addysgu a dysgu Almaeneg ar lefel TGAU a Safon Uwch.

Gall myfyrwyr sy'n 16–18 oed ac sydd â chymhwyster TGAU mewn Almaeneg wneud cais i gymryd rhan yn y rhaglen cysgodi gwaith yn Neuadd Schwäbisch, wythnos o gysgodi gwaith a rhaglen ddiwylliannol ddyddiol a ariennir yn llawn yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref bob blwyddyn.

Mae ap newydd i ysgolion uwchradd, sef German Quiz Challenge, yn asesiad di-straen ac yn adnodd ysgogiadol i bobl ifanc 13 i 16 oed y gall athrawon ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth i olrhain datblygiad gwybodaeth eu myfyrwyr ym meysydd darllen, ysgrifennu a gwrando. Mae Goethe-Institut yn cynnig gweithdai hyfforddiant am ddim yn lleol am yr ap a sut i'w ddefnyddio yn y dosbarth.

Institut français

Byddwn yn rhoi mynediad i ddisgyblion Cymraeg at adnoddau iaith a diwylliant Ffrangeg dilys, prosiectau a chystadlaethau iaith Ffrangeg ledled y wlad, yn ogystal â hyrwyddo diplomâu DELF Prim ac Iau i helpu ysgolion i gynnig cymwysterau Ffrangeg rhyngwladol i'w disgyblion.

Sefydliadau Confucius yng Nghymru

Byddwn yn parhau i ddarparu dosbarthiadau a chymorth i ysgolion er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad Mandarin safon TGAU, prawf hyfedredd mewn Tsieineeg HSK (Hanyu Shuiping Kaoshi) a'r Prawf Tsieinëeg i Bobl Ifanc.

Byddwn yn parhau i drefnu digwyddiadau diwylliannol o fewn amserlenni ysgolion a'r tu allan iddi (gwyliau Tsieineaidd) yn ogystal â sesiynau blasu iaith.

Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Byddwn yn parhau i drefnu digwyddiadau cyfoethogi, sesiynau hyfforddi i Ddisgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith a digwyddiadau i ysgolion. Am y tro, caiff pob un o'r sesiynau hyn eu cyflwyno'n rhithwir. 

Bydd ein Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru hefyd yn ymgysylltu ag ysgolion cynradd ac uwchradd yn rhithwir.

Cam strategol 3: Gweithio i leihau achosion o wthio ieithoedd i’r cyrion.

Rhan hanfodol o godi dyheadau a mynd i'r afael â bylchau mewn cyrhaeddiad yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd i gyflawni pedwar diben y cwricwlwm newydd, drwy gwricwlwm eang a chytbwys o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru. 

Mae'n bwysig bod ysgolion yn cydnabod bod y gallu i siarad un iaith ryngwladol neu fwy ar y cyd â sgiliau eraill yn cynorthwyo dysgwyr drwy agor drysau i bosibiliadau gwaith cyffrous yn ogystal â chyfoethogi eu bywydau personol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i'n hysgolion fod yn amgylcheddau dysgu iaith cyfoethog i bob dysgwr ac, er mwyn meithrin dealltwriaeth ysgolion a’u dewisiadau ehangach, mae'n hanfodol bod ysgolion yn deall y newidiadau i'r system atebolrwydd.

Llywodraeth Cymru

Byddwn yn helpu pob ysgol i ddeall y trefniadau gwerthuso a gwella diwygiedig a fydd yn hyrwyddo'r canlynol: 

  • defnyddio amrywiaeth ehangach o dystiolaeth a gwybodaeth ynghylch holl weithgarwch yr ysgol – gan gynnwys cynnydd dysgwyr a chyflawni'r pedwar diben – wrth bennu blaenoriaethau ar gyfer gwella’r ysgol
  • pwysigrwydd cynnig cwricwlwm eang a chytbwys, a sicrhau bod cynnydd pob dysgwr yn flaenoriaeth 
  • osgoi defnyddio data arholiadau allanol allan o’i gyd-destun, at ddibenion atebolrwydd, a lleihau'r ffocws cul ar un neu ddau ddeilliant cyrhaeddiad ar ddiwedd cyfnod ysgolion lle mae ieithoedd tramor modern wedi'u gwthio i'r cyrion dros y blynyddoedd diwethaf.
Consortia rhanbarthol

Byddwn yn atgyfnerthu negeseuon i benaethiaid ac uwch-arweinwyr er mwyn eu helpu i ddeall y newidiadau i'r trefniadau gwerthuso a gwella a phwysigrwydd ieithoedd yn y cwricwlwm yn well, a sicrhau bod yr un opsiynau ar gael i bawb ddewis ohonynt. 

Bydd EAS yn ymgysylltu â phenaethiaid ac uwch-arweinwyr drwy raglenni datblygu'r Cwricwlwm i Gymru, cymorth i ysgolion a threfniadau ar gyfer rhannu arferion gorau rhwng ysgolion.

Bydd CSC yn ymgysylltu â phenaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn cyfarfodydd clwstwr er mwyn sicrhau bod ieithoedd rhyngwladol ar yr agenda ac yn cael eu cydnabod wrth arwain a monitro gwaith cynllunio strategol ar gyfer yr ysgol gyfan.

Bydd GwE yn ymgysylltu â phenaethiaid er mwyn sicrhau bod lle pwysig i ieithoedd tramor modern ar agendâu ysgolion a monitro ymdrechion ysgolion i hyrwyddo ieithoedd a chynyddu nifer y myfyrwyr sy'n eu hastudio, gan gefnogi ysgolion lle mae'r ddarpariaeth yn fach neu lle nad oes llawer o fyfyrwyr yn astudio ieithoedd. 

Bydd ERW yn hyrwyddo ieithoedd drwy ddefnyddio ymweliadau ag ysgolion gan y gymuned fusnes, neu drwy fideos a chyflwyniadau rhithwir.

Estyn

Wrth iddynt symud tuag at drefniadau'r cwricwlwm newydd, byddwn yn darparu negeseuon allweddol i ysgolion ar yr angen am:

  • ddull mwy cytbwys o ddefnyddio tystiolaeth, data a gwybodaeth ehangach
  • ystyried amrywiaeth ehangach o ffactorau o ran sut y gall ysgol fod yn effeithiol, megis ble i ganolbwyntio adnoddau ar gyfer gwella.
Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Bydd Pecyn Cymorth y Llywodraethwyr ar wefan Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn darparu gwybodaeth i gyrff llywodraethu ac arweinwyr ysgolion am sut i asesu iechyd ieithoedd yn eu hysgolion, yn ogystal â rhoi enghreifftiau o arferion gorau o ran sut i gefnogi ieithoedd.

Cam strategol 4: Cynnal gwerthusiad allanol o raglen Dyfodol Byd-eang.

Un o nodau’r gwerthusiad fydd sefydlu llinell sylfaen gywir ar gyfer darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru. Y bwriad yw pennu llinell sylfaen glir ar gyfer nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd a datblygu targedau y gellir eu cyflawni. Bydd hefyd yn sefydlu dulliau adrodd cyson i’r dyfodol.

Llywodraeth Cymru

Byddwn yn datblygu ac yn cynnal gwerthusiad allanol ar gyfer dwy flynedd nesaf y rhaglen. 

Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith rhaglen Dyfodol Byd- eang ar ysgolion ac yn darparu tystiolaeth i'w defnyddio yn genedlaethol.

Pawb

Bydd grŵp llywio Dyfodol Byd-eang yn cefnogi'r gwerthusiad ac yn darparu tystiolaeth drwy'r broses.

Bydd partneriaid Dyfodol Byd-eang yn adrodd ar eu camau gweithredu unigol gan ddarparu gwybodaeth glir am y cynnydd sydd wedi'i wneud wrth gyflawni'r nodau strategol.

Nod strategol 2: Darparu canllawiau ac egwyddorion clir, a chodi ymwybyddiaeth ym mhob sector er mwyn cefnogi amlieithrwydd mewn ysgolion yng Nghymru

Ceir tystiolaeth glir bod y materion sy’n ymwneud â’r nifer sy’n manteisio ar astudio ieithoedd i'w priodoli'n rhannol i ddiffyg dealltwriaeth dysgwyr a rhieni/gofalwyr o werth ieithoedd am waith a bywyd personol, yn ogystal â diffyg cefnogaeth ar ran uwch-reolwyr i bwysigrwydd ieithoedd fel rhan o’r cwricwlwm. Mae'r camau gweithredu strategol a ganlyn yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn.

Cam strategol 5: Cyflwyno ymgyrch genedlaethol sy'n mynd i'r afael â chanfyddiadau negyddol o ddysgu iaith.

Bydd Dyfodol Byd-eang yn datblygu dull o herio'r canfyddiadau negyddol o ddysgu iaith a mynd i'r afael â'r diffyg blaenoriaeth a roddir i ieithoedd mewn gweithgarwch cynllunio ar lefel ysgol.

Llywodraeth Cymru

Byddwn yn cydgysylltu ymgyrch genedlaethol i fynd i'r afael â'r canfyddiadau negyddol o ddysgu iaith a nodi'n glir fanteision dysgu ieithoedd rhyngwladol i ddysgwyr a rhieni/gofalwyr.

EAS

Byddwn yn darparu cymorth rhanbarthol ac yn lledaenu negeseuon allweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn atgyfnerthu brand a chyrhaeddiad Dyfodol Byd-eang. Byddwn yn atgyfnerthu hyn drwy ohebiaeth EAS a llwyfannau rhwydweithio EAS ar Hwb.

Byddwn yn rhoi enghreifftiau ac yn rhannu astudiaethau achos sy'n dangos arferion da a chyflwyniadau gan ysgolion sy'n datblygu canfyddiadau cadarnhaol o ddysgu iaith a dysgu am ddiwylliant ymhlith eu cymunedau ysgol.

CSC

Bydd gwefan Ieithoedd Rhyngwladol CSC yn rhoi manylion am gymorth sydd ar gael i'r rhwydwaith dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn y rhanbarth, gyda manylion cyswllt allweddol ar gyfer y sefydliadau iaith.

Mae gwefan CSC yn cynnwys yr holl ddeunydd addysgu a dysgu a ddatblygir gan ymarferwyr arweiniol ar lefel uwchradd a chynradd.

Bydd ymarferwyr arweiniol cynradd yn datblygu cyfres o chwe gwers a gaiff eu cyflwyno i athrawon cynradd yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg. Bydd y gwersi hyn yn edrych yn benodol ar chwalu rhwystrau bod dysgu iaith yn anodd i athrawon cynradd ac, yn eu tro, eu dysgwyr. Bydd y gwersi hyn yn ystyried addysgeg dysgu iaith, yn rhannu arferion gorau o ran addysgu a dysgu, cymwysiadau TG a meddalwedd i gefnogi dysgu iaith.

GwE

Byddwn yn parhau i gyfleu negeseuon allweddol gan Lywodraeth Cymru i ysgolion, rhieni/gofalwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.
    
Byddwn yn datblygu lle mwy gweladwy i ddigwyddiadau Dyfodol Byd-eang ar wefan GwE ac yn ei gylchlythyr.

Byddwn yn llunio cyflwyniadau PowerPoint a fydd yn cynnwys negeseuon allweddol y gellir eu defnyddio yn ystod diwrnodau HMS, gwasanaethau a digwyddiadau i rieni/gofalwyr, yn ogystal â’u rhannu ag ysgolion i'w defnyddio ym mhob grŵp blwyddyn.

ERW

Byddwn yn cyfrannu at nodau ymgyrch genedlaethol ac yn lledaenu negeseuon allweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn atgyfnerthu brand a chyrhaeddiad Dyfodol Byd-eang.

Byddwn yn parhau i gynnig cymorth drwy hyfforddi Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith.

Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Drwy gynllun Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru, bydd myfyrwyr israddedig/ôl-raddedig yn annerch disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd gan sôn am fanteision dysgu iaith.

Bydd cynlluniau Hyfforddi Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith (Uwchradd) ac Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol (Cynradd) yn helpu adrannau ieithoedd rhyngwladol i atal honiadau negyddol a hyrwyddo agwedd gadarnhaol a chodi proffil ieithoedd rhyngwladol ar lefel ysgol.

SEEO-WP

Byddwn yn parhau i hyrwyddo ymgyrchoedd i gefnogi iaith a diwylliant Sbaen (e.e. ffeiriau iaith, gweithdai, cynadleddau, sgyrsiau i fyfyrwyr ac athrawon) ar y cyd â'r consortia addysg rhanbarthol a phrifysgolion Cymru. 

Byddwn yn parhau i gefnogi Sbaeneg yn nigwyddiadau Llwybrau at Ieithoedd Cymru/consortia partner drwy gydol y flwyddyn, er mwyn cymell dysgwyr i astudio ieithoedd ar lefel TGAU a thu hwnt.

Mae Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen yn cynnig sesiynau hyfforddi i Ddisgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith ym mhob digwyddiad a drefnir gan fenter Llwybrau at Ieithoedd Cymru/consortia.

Adran Addysg Swyddfa Is-gennad Cyffredinol yr Eidal yn Llundain

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid grŵp llywio Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i ystyried meysydd lle y gallwn gydweithio i ddylanwadu ar nodau'r rhaglen a'u hyrwyddo.

British Council Cymru

Byddwn yn defnyddio ymchwil sydd eisoes yn bodoli neu'n comisiynu ymchwil newydd sy'n dangos manteision dysgu ieithoedd/amlieithrwydd.

Goethe-Institut

Gall Goethe-Institut gynnig cyflwyniadau gan siaradwyr ysgogol ar thema ‘Almaeneg a Byd Gwaith’ ac mae'n cynnig anerchiadau ar fanteision dysgu yn rheolaidd. 

Byddwn yn parhau i gefnogi Almaeneg yn holl ddigwyddiadau Llwybrau at Ieithoedd Cymru/consortia partner drwy'r flwyddyn, er mwyn cymell dysgwyr i astudio ieithoedd ar lefel TGAU a thu hwnt.

Cynigir sesiynau hyfforddi a ddarperir gan Goethe-Institut i Ddisgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith ym mhob digwyddiad a drefnir gan fenter Llwybrau at Ieithoedd Cymru/consortia.

Sefydliad Confucius

Byddwn yn parhau i drefnu teithiau i Tsieina ar gyfer penaethiaid, uwch-arweinwyr ysgolion ac athrawon.

Cam strategol 6: Darparu canllawiau i ysgolion sy'n nodi dulliau o gynllunio a blaenoriaethu ieithoedd. Bydd y canllawiau’n berthnasol i'r cwricwlwm presennol ond byddant hefyd yn cefnogi ysgolion wrth iddynt drosglwyddo i'r cwricwlwm newydd.

Llywodraeth Cymru

Byddwn yn datblygu deunyddiau i gefnogi gwaith cynllunio ar lefel ysgol fel rhan o'r Rhwydwaith Cenedlaethol newydd.

Bydd canllawiau ar y fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, ynghyd â'r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol, yn ategu prosesau hunanwerthuso ysgolion a’u cynlluniau gwella. Bydd hyn yn cynnwys helpu ysgolion i werthuso pa mor briodol yw eu darpariaeth gwricwlaidd a sut maent yn diwallu anghenion dysgwyr unigol.

Mae’r canllawiau yn amlinellu’r newid diwylliannol sydd ei angen yn system ysgolion o drefniant atebolrwydd a all fod wedi canolbwyntio'n anghymesur ar ganlyniadau arholiadau allanol neu un neu ddau fesur perfformiad cul.

Holl bartneriaid Dyfodol Byd-eang

EAS 
Gan weithio ar draws consortia, byddwn yn datblygu enghreifftiau ymarferol o ddulliau gweithredu o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru megis sut mae cynllunio a blaenoriaethu yn gweithio'n ymarferol? Beth yw arferion da?

Byddwn yn creu ardal i bob consortiwm ar Hwb er mwyn rhannu canllawiau arfer da, adnoddau ac enghreifftiau, yn ogystal â lleoedd gwe rhanbarthol unigol.

Byddwn yn helpu i ddatblygu ieithoedd rhyngwladol (ranbarthol) drwy fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Datblygiad Proffesiynol ym maes Ieithoedd Rhyngwladol.

CSC 
Byddwn yn datblygu Pasbort Ieithoedd drwy gynllun peilot gydag ysgolion cynradd ac uwchradd clwstwr ledled y rhanbarth.

Byddwn hefyd yn datblygu canllawiau strategol i'r sector cynradd a'r sector uwchradd er mwyn helpu i gynllunio a blaenoriaethu ieithoedd gyda hyperddolenni i adnoddau a fideos ar wefan benodol ar gyfer ieithoedd rhyngwladol a gynhelir ar Hwb a Cronfa.

GwE 
Byddwn yn anelu at ddatblygu dulliau newydd o addysgu ieithoedd a chynllunio. Byddwn yn defnyddio ymchwil a chydweithredu yn y consortiwm ac ar draws consortia i enghreifftio modelau cynllunio, a datblygu deunyddiau er mwyn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru o fewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Bydd cydweithio â thimau Meysydd Dysgu a Phrofiad rhanbarthol yn sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu i bob rhanddeiliad sy'n ymwneud â chynllunio'r cwricwlwm. 

ERW 
Byddwn yn helpu awdurdodau lleol i hyfforddi llywodraethwyr ac yn cefnogi penaethiaid, lle y bo angen, yng ngohebiaeth a chyfarfodydd ERW.

British Council Cymru

Rydym yn darparu adnoddau ar-lein am ddim er mwyn helpu i ddatblygu'r cwricwlwm newydd, e.e. pecyn addysg blynyddol ar y flwyddyn newydd Tsieineaidd. Byddwn yn datblygu adnoddau rhyngddisgyblaethol, a gaiff eu lansio adeg pencampwriaeth bêl-droed Ewrop 2022, a byddant wedi'u teilwra ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Bydd Pecyn Cymorth y Llywodraethwyr Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn rhannu arferion da ar sut y gellir blaenoriaethu a hyrwyddo ieithoedd mewn ysgolion. Bydd Pecyn Cymorth Cynradd Llwybrau Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno ieithoedd rhyngwladol gydag adnoddau a dulliau addysgegol posibl.

Nod strategol 3: Cefnogi addysgu a dysgu ardderchog i bob dysgwr mewn perthynas ag ieithoedd rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ychwanegu at y cymorth uniongyrchol y mae ein partneriaid yn ei roi i bob ysgol i'w helpu i addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol.

Cam strategol 7: Rhoi cymorth uniongyrchol i ysgolion uwchradd drwy Gynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern 2020–21 a arweinir gan Brifysgol Caerdydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gynnig ymyriadau wedi'u targedu ar fanteision amlieithrwydd a chynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU.

Prifysgol Caerdydd (mewn partneriaeth â phrifysgolion hyb Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, a'r pedwar consortiwm addysg)

Byddwn yn rhoi cymorth uniongyrchol i ysgolion uwchradd drwy Gynllun Monitro Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern 2020–21 a arweinir gan Brifysgol Caerdydd. Mae'r prosiect yn cynnwys pob iaith drwy gynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am ieithoedd a diwylliannau y tu hwnt i ofynion y cwricwlwm ac arholiadau. Ei nod yw helpu ysgolion i drosglwyddo i'r Cwricwlwm i Gymru.

  • Ffrwd 1: Cyflwyno dau gylch mentora digidol chwe wythnos ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 8 a 9 mewn hyd at 65 o ysgolion (gan gynnwys treialu partneriaeth â Campws Cyntaf/First Campus). 
  • Ffrwd 2: Datblygu adnoddau i athrawon er mwyn cefnogi'r broses o drosglwyddo i'r Cwricwlwm i Gymru, gan gyrraedd o leiaf 20 o ysgolion. 
  • Ffrwd 3: Cyflwyno dau gylch o weithgareddau ymgysylltu ar gyfer Blynyddoedd 11, 12 a 13.
Goethe-Institut

Cynigir cyrsiau DPP dysgu cyfunol (Deutsch Lehren Lernen – DLL) i athrawon gan bresenoldeb Goethe-Institut Llundain ym Mhrifysgol Caerdydd ar sail angen er mwyn helpu athrawon i ddatblygu eu methodoleg a gwneud ymchwil weithredu yn yr ystafell ddosbarth. Ar hyn o bryd, mae un hyfforddwr/tiwtor athrawon DLL a all helpu i gyflwyno'r rhaglen yng Nghymru sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan Goethe-Institut Llundain a Phrifysgol Caerdydd gytundeb partneriaeth ynghylch presenoldeb Goethe-Institut yn y brifysgol. Nod y cydweithrediad yw cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i ddysgwyr sy'n tanio eu hawydd i ddysgu ieithoedd a pharhau i mewn i addysg uwch, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau'r Adran Almaeneg ar gyfer israddedigion.

Sefydliad Confucius

Mae un o'r tri Sefydliad Confucius yng Nghymru wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd; dyma lle y caiff Prosiect Ysgolion Tsieina Cymru ei reoli a'i gydgysylltu. Cynigir cyrsiau DPP dysgu cyfunol i athrawon yn rheolaidd, gan gynnwys dysgu Mandarin.

Consortia

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r rhaglen mentora myfyrwyr, annog ysgolion i gymryd rhan yn y rhaglen a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod am yr holl gymorth a ddarperir gan y rhaglen a chyfleoedd i fanteisio ar y cymorth hwnnw.

Cam strategol 8: Rhoi cymorth uniongyrchol i athrawon ysgolion cynradd drwy raglen TEachers Learning to Teach languages (TELT) y Brifysgol Agored.

Bydd Llywodraeth Cymru a'r consortia rhanbarthol yn parhau i weithio gyda rhaglen TELT y Brifysgol Agored sy'n cynnig cyrsiau Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin i athrawon cynradd.

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Gan weithio'n agos gyda'r consortia, byddwn yn parhau i annog mwy o ysgolion yng Nghymru i gymryd rhan yn rhaglen TELT y Brifysgol Agored a helpu athrawon i astudio modiwlau yn Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg a Mandarin. 

Byddwn hefyd yn annog yr athrawon hynny yng Nghymru sydd wedi astudio'r modiwlau cychwynnol i barhau â'r modiwl dilynol. Rhennir gweithdrefnau cofrestru cyn diwedd tymor yr haf ac anogir athrawon i gofrestru.

Consortia rhanbarthol

Byddwn yn parhau i gynnal ymgyrchoedd recriwtio ym mhob rhanbarth er mwyn targedu ymarferwyr cynradd sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau ieithoedd rhyngwladol presennol a helpu'r rhai sy'n llai hyderus i feithrin sgiliau newydd.   

Caiff arferion da a phrofiadau graddedigion TELT y Brifysgol Agored eu rhannu a chaiff athrawon gymorth gyda'r broses gwneud cais, lle y bo angen. 

CSC Bydd Ymarferwyr Arweiniol Cynradd yn datblygu cyfres o chwe gwers a gaiff eu cyflwyno i athrawon cynradd yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg. Bydd y gwersi hyn yn edrych yn benodol ar chwalu rhwystrau i ddysgu iaith a all fod yn anodd i rai athrawon ac, yn eu tro, eu dysgwyr. Bydd y gwersi yn ystyried addysgeg dysgu iaith, yn rhannu arferion gorau o ran addysgu a dysgu, cymwysiadau TG a meddalwedd i gefnogi dysgu iaith.

EAS Mae graddedigion TELT y Brifysgol Agored yn rhoi enghreifftiau o arferion da ym maes addysgu ieithoedd drwy gyfraniadau at ddysgu proffesiynol, gweminarau ac astudiaethau achos rhanbarthol.

Cam strategol 9: Consortia i ddarparu cymorth drwy’r model canolfannau rhanbarthol.

Bydd y consortia yn parhau â model o gydweithio a chydweithredu drwy ganolfannau rhagoriaeth ysgolion.

Consortia

EAS
Mae pum Ysgol Rhwydwaith Dysgu sy'n arwain cymorth rhwng ysgolion ledled y rhanbarth, yn cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol ac yn gwneud ymchwil weithredu.

Rydym yn datblygu ein cymorth ar gyfer ieithoedd rhyngwladol drwy'r model clwstwr gyda chymorth gan arweinydd Ysgolion Rhwydwaith Dysgu ac Ieithoedd Rhyngwladol.

Rydym yn datblygu dysgu proffesiynol rhanbarthol mewn Ysgolion Rhwydwaith Dysgu/trawsgonsortia/mewn Sefydliadau Iaith er mwyn helpu i ddatblygu dulliau dysgu cyfunol a dysgu o bell effeithiol o ansawdd uchel fel rhan o gynllun cenedlaethol Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.

CSC 
Mae gennym rwydwaith dysgu proffesiynol ar gyfer ieithoedd rhyngwladol ar y lefel uwchradd a chynradd. Caiff y rhwydwaith hwn ei gydgysylltu gan arweinydd strategol ieithoedd rhyngwladol a chydgysylltydd cynradd. 

Ar lefel uwchradd, mae tri ymarferydd arweiniol ar gyfer Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg o fewn lleoliad uwchradd. Ar lefel gynradd, mae tri ymarferydd arweiniol ar gyfer Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg o fewn lleoliad cynradd.

Yn ogystal â hyn, mae datblygiad allweddol y Pasbort Ieithoedd i gefnogi addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Ar hyn o bryd, mae'n cael ei dreialu gan 15 o ysgolion ledled rhanbarth CSC.

GwE
Mae'r tair ysgol sy’n canolfannau rhanbarthol wedi creu rhwydwaith ieithoedd tramor modern cryf ar draws y consortia. Caiff adnoddau eu rhannu rhwng y rhanbarthau drwy Hwb. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd bob hanner tymor er mwyn ymateb i anghenion ysgolion a nodwyd drwy ein gweithdrefnau archwilio anghenion. Darperir sesiynau hyfforddi a drefnir drwy weminarau/tiwtorialau/fideo-gynadledda.

Mae gennym ysgol arweiniol ac arweinydd i ddatblygu cysylltiadau pellach a chefnogi ysgolion sy'n cynnig gwersi ieithoedd, yn ogystal ag i hyrwyddo ystod ac amrywiaeth y cymwysterau presennol o ran ieithoedd rhyngwladol, ynghyd â chymorth pellach o ran TGAU. Rydym hefyd yn datblygu rhwydwaith cymorth ar gyfer ein hathrawon newydd gymhwyso er mwyn datblygu arferion da a meithrin hyder wrth ddysgu ieithoedd. 

ERW 
Cynhaliwyd cyfarfodydd o'r rhwydwaith a chynigiwyd cymorth i ysgolion drwy waith y tîm uwchradd.

Byddwn yn penodi ysgol arweiniol ar gyfer ieithoedd rhyngwladol ym mhob awdurdod ar gyfer y sector cynradd a'r sector uwchradd. Bydd hyn yn ein galluogi i sefydlu rhwydweithiau cymorth i ymarferwyr ledled y rhanbarth.

Cam strategol 10: Ehangu’r gwaith a wnawn ar y cyd â phartneriaid Dyfodol Byd-eang.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid presennol ein grŵp llywio yn ogystal â'n partneriaid newydd er mwyn ystyried meysydd lle y gallwn gydweithio a lle y bydd eu gwaith yn dylanwadu ar nodau'r rhaglen.

Gyrfa Cymru

Bydd Gyrfa Cymru yn hyrwyddo'r cyfleoedd amlieithog sydd ar gael drwy gyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd hynny ymhlith dysgwyr, rhieni/gofalwyr ac ysgolion.

Cymwysterau Cymru

Byddwn yn ymgysylltu ag aelodau'r grŵp llywio wrth inni barhau i oruchwylio a monitro'r cymwysterau presennol mewn ieithoedd tramor modern ac wrth inni ddatblygu syniadau ar gyfer yr amrywiaeth o gymwysterau i gefnogi MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu y cwricwlwm newydd yn y dyfodol a dyluniad y cymwysterau hynny.

Consortia

Oherwydd digwyddiadau diweddar, bellach mae mwy o gydweithredu ar draws consortia i ddatblygu cynnig cenedlaethol i ysgolion. Hefyd, fel rhan o'r trefniadau cydweithredu hyn, bydd digwyddiadau yn cael eu hysbysebu gydag arferion gorau a deunyddiau cymorth yn cael eu rhoi ar lwyfan dysgu Hwb a dolenni i hyfforddiant yn cael eu hysbysebu drwy sianeli a gwefannau cyfryngau cymdeithasol y consortia.