Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am ddatblygu'r safle ym Mae Baglan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth rydym yn ei wneud

Rydym wedi caffael hen safle BP Chemicals ym Mae Baglan i alluogi creu safle datblygu strategol mawr ar gyfer Port Talbot a de-orllewin Cymru.

Pam rydym yn gwneud y gwaith

Mae safle Baglan yn cynnig cyfle i hybu adfywio yn ne-orllewin Cymru a thu hwnt.

Mae ei faint a'i leoliad yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Y safle yw:

  • yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe
  • yn agos at Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • yn agos at fusnesau mawr cyfagos fel Tata Steel

Gallai ailddatblygu'r safle:

  • helpu i greu swyddi o ansawdd uchel
  • cefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi
  • gwella bioamrywiaeth a mynediad at asedau naturiol

Hanes y safle

Mae gan y safle hanes diwydiannol hir. Roedd yn gartref i waith cemegol BP, a oedd yn gweithredu o ddechrau'r 1960au tan iddo gau yn 2004. Pan oedd yn weithredol, roedd yn un o'r cyfleusterau petrocemegol mwyaf yn Ewrop.

Archwilio cyfleoedd

Mae gan safle Baglan y potensial i drawsnewid yr ardal drwy greu swyddi a hyfforddiant mewn diwydiannau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, megis:

  • weithgynhyrchu uchel ei werth
  • cynhyrchu ynni gwyrdd, yn unol â'n Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu
  • cyfleoedd sero net, gan gynnwys hydrogen a gwynt alltraeth arnofiol

Rydym yn ystyried amrywiaeth o sefyllfaoedd datblygu. Mae'r rhain yn ystyried:

  • ffactorau polisi, amgylcheddol ac economaidd
  • y gwaith adfer sy'n ofynnol ar gyfer safle tir llwyd mawr

Mae'r rhaglen yn cael ei harwain gan sawl un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r nodau hyn yn sail i'r prosiect a'r rhaglen adfywio, gan gynnwys:

  • ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd a ddatganwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru
  • creu tirweddau newydd sy'n adlewyrchu cymeriad yr ardal

Cyfleoedd rydyn ni'n eu harchwilio

Rydym yn archwilio cyfleoedd i:

  • ddarparu defnydd terfynol sy'n rhoi swyddi a chyfleoedd o ansawdd uchel a chynhyrchiol ar gyfer ymchwil a datblygu
  • arallgyfeirio gweithgarwch economaidd i ffwrdd o ddibyniaeth ar ddiwydiant trwm i gynyddu gwytnwch economaidd  
  • creu amgylchedd diogel ac o ansawdd uwch i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo
  • creu cyfleoedd cynhwysol i bobl leol o ran sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth, sy'n lleihau'r anghydraddoldebau presennol
  • darparu cyfleoedd hygyrch a chysylltiedig
  • diogelu treftadaeth a hunaniaeth yr ardal, a hyrwyddo defnydd hamdden
  • ymgorffori egwyddorion yr economi gylchol drwy gydol y gwaith datblygu a manteisio ar adnoddau naturiol
  • cyflawni amcanion a pholisïau ehangach LlC megis creu lleoedd, dylunio ansawdd a datblygu lle newydd yn y rhanbarth

Hynt y gwaith

Rydym yn gwneud gwaith i ddeall yr heriau sy'n gysylltiedig â hanes diwydiannol y safle. Mae hyn yn cynnwys:

  • arolygon ecolegol
  • monitro dŵr daear
  • ymchwiliadau tir

Bydd y canfyddiadau'n helpu i lywio strategaeth adfer ar gyfer y safle.

Bydd y strategaeth adfer yn arwain opsiynau ar gyfer adfywio ac ailddatblygu yn y dyfodol, gan gynnwys creu:

  • strategaeth ddatblygu
  • strategaeth ynni

Sut rydym yn ymgysylltu

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwaddol ystyrlon, hirdymor i'r gymuned leol. Wrth i'r cynlluniau symud ymlaen ar gyfer cyflwyno’r gwaith yn raddol ac uwchgynllunio, byddwn yn:

  • cynnwys cymunedau lleol
  • cydweithio â rhanddeiliaid allweddol

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer proses ymgynghori gyda rhanddeiliaid a chymunedau lleol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar nodi'r opsiynau gorau ar gyfer sut i ddefnyddio'r safle yn y dyfodol, gan anelu at:

  • fynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol lleol
  • cefnogi Port Talbot a’r ardal ehangach i bontio i economi carbon isel, sero net

Amserlen

Gwaith ymchwilio i'r safle: dechrau 2025 i ganol 2026
Strategaeth adfer a gwaith cyn datblygu: dechrau 2023 i ddechrau 2027