Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw ar sut i ddefnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid er mwyn helpu i reoli lefelau awyru mewn lleoliadau addysg.

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn nodi sut y gall lleoliadau addysg ddefnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid er mwyn helpu i reoli lefelau awyru. Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r fframwaith penderfyniadau a'r asesiad risg ar gyfer eich lleoliad.

Mae'r gofyniad i gymryd mesurau rhesymol yn gymwys mewn amrywiaeth eang iawn o amgylchiadau, yn cynnwys pob math o weithleoedd sydd ar agor. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:

  • gwasanaethau cyhoeddus
  • mangreoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • ysgolion a lleoliadau gofal plant
  • lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach (yn cynnwys canolfannau hyfforddiant a dysgu i oedolion)
  • canolfannau galwadau
  • busnesau lletygarwch
  • teithio a llety gwyliau
  • gwasanaethau gwirfoddol
  • mangreoedd masnachol a diwydiannol
  • safleoedd adeiladu a safleoedd agored eraill fel gwaith ffordd a mannau awyr agored (yn cynnwys marchnadoedd da byw)

Mae'r ddyletswydd gyfreithiol i gymryd mesurau rhesymol yn gymwys i'r unigolyn neu'r unigolion sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n agored i'r cyhoedd ac i'r unigolyn sy'n gyfrifol am y gwaith a wneir mewn unrhyw weithle (hynny yw, yr unigolyn sy'n gyfrifol am reoli'r fangre).

Cyfrifoldeb y rheini sy'n rheoli mangreoedd (fel penaethiaid neu brif athrawon) yw sicrhau y caiff lefelau awyru da eu cynnal mewn adeiladau. Ar gyfer ysgolion, dylid cysylltu â thimau ystadau awdurdodau lleol a thimau iechyd a diogelwch corfforaethol i gael cymorth. Dylai colegau a phrifysgolion weithio gyda'u timau rheoli ystadau neu gyfleusterau a'u timau iechyd a diogelwch corfforaethol. Ar gyfer lleoliadau gofal plant nas cynhelir gan y wladwriaeth, dylai perchenogion weithio gyda'u cynghorydd iechyd a diogelwch a'u darparwr rheoli cyfleusterau eu hunain.

Gall awyru da helpu i leihau'r risg o ledaenu feirysau a drosglwyddir drwy’r awyr, felly gall canolbwyntio ar wella llif aer cyffredinol, yn ddelfrydol drwy awyr iach neu systemau mecanyddol effeithiol, helpu i greu amgylchedd mwy diogel i staff a dysgwyr. Fel arfer, gellir cynnal a gwella'r cyflenwad o awyr iach drwy agor ffenestri a drysau, er bod yn rhaid cadw drysau tân mewnol ar gau oni fyddant wedi'u cysylltu â dyfais sy'n achosi iddynt gau eu hunain pan gaiff larwm tân ei seinio.

Caiff carbon deuocsid ei anadlu allan gan bobl. Os bydd carbon deuocsid yn cronni mewn ardal, gall fod yn arwydd bod angen gwella'r lefelau awyru. Gallwch ddefnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid i'ch helpu i wneud y canlynol:

  • nodi ardaloedd lle ceir awyru gwael
  • pwyso a mesur faint y bydd angen i chi agor y ffenestri neu wella dulliau awyru mecanyddol (yn cynnwys systemau aerdymheru)

Mae'n bwysig cofio bod dyfeisiau monitro carbon deuocsid yn dangos statws awyru ac nid risg o heintiau.

Mae sawl math gwahanol o ddyfeisiau monitro carbon deuocsid ar gael. Y dyfeisiau cludadwy mwyaf effeithiol i'w defnyddio yw dyfeisiau monitro carbon deuocsid isgoch nad ydynt yn gwasgaru (NDIR). Dyma'r math a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i leoliadau addysg a ariennir gan y wladwriaeth yn ystod tymor yr hydref 2021.

Mae'r dyfeisiau monitro yn sicrhau y gellir asesu lefelau awyru mewn mannau ac yn llywio asesiad risg y lleoliad o ran lefelau awyru.

Unedau Rototherm AM60 yw'r dyfeisiau monitro carbon deuocsid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r llawlyfr cyfarwyddyd a ddarperir gyda'r unedau.

Gellir defnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid eraill i ddilyn y canllawiau hyn ond rhaid cymryd gofal er mwyn sicrhau y caiff unrhyw wahaniaethau mewn unedau eu hystyried.

Rhaid i dimau rheoli ystadau neu gyfleusterau sicrhau bod dyfeisiau monitro carbon deuocsid yn cael eu cynnal a'u cadw a'u graddnodi yn unol â'r llawlyfr cyfarwyddyd a ddarperir.

Ble y dylech ddefnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid

Mae dyfeisiau monitro carbon deuocsid yn fwyaf addas ar gyfer mannau y gwneir defnydd mawr ohonynt am tua awr neu fwy.

Mewn lleoliadau addysg a gofal plant, mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i'r canlynol:

  • mannau addysgu (yn cynnwys darlithfeydd, ystafelloedd dosbarth a mannau addysgu ymarferol)
  • mannau chwarae dan do (er enghraifft ystafelloedd mewn meithrinfeydd)
  • ystafelloedd staff, swyddfeydd mawr, ystafelloedd cyfarfod, ystafelloedd grwpiau

Nid argymhellir defnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid mewn ardaloedd lle nad yw'n debygol y byddant yn rhoi darlleniadau dibynadwy, yn cynnwys:

  • mannau mewnol mawr, agored a mannau â nenfydau uwch, fel neuaddau chwaraeon neu ragneuaddau
  • mannau y gwneir defnydd mawr ohonynt am gyfnodau byrrach, fel coridorau neu gynteddau
  • ardaloedd na wneir defnydd mawr ohonynt fel ceginau a thoiledau, neu swyddfeydd a ddefnyddir gan un neu ddau berson

Efallai na fydd angen dyfeisiau monitro annibynnol ychwanegol mewn ystafelloedd lle mae dyfeisiau monitro carbon deuocsid eisoes yn rhan ganolog o'u system rheoli adeiladau. Dylai eich tîm rheoli ystadau neu gyfleusterau wybod a oes dyfais fonitro eisoes ar waith.

Gosod dyfeisiau monitro a mesur

Gosod

Wrth benderfynu ble i osod dyfeisiau monitro, i ddechrau dylech flaenoriaethu mannau sy'n teimlo’n ddiawel neu lle ceir arogl drwy'r amser ac sy'n debygol o fod heb eu hawyru'n ddigonol. Gall defnyddio dyfeisiau monitro yn y mannau hyn yn gyntaf eich helpu i flaenoriaethu camau gweithredu yn effeithiol. Dylech osod dyfeisiau monitro carbon deuocsid:

  • ar uchder pen unigolyn sy'n eistedd
  • i ffwrdd oddi wrth allfeydd awyru, fel delltiau neu ffenestri
  • o leiaf 0.5m oddi wrth bobl (gallai eu gosod yn agosach na hyn arwain at ddarlleniadau anghywir)

Os bydd eich darlleniadau mewn man y gwneir defnydd ohono yn isel iawn (ymhell o dan 400ppm) neu'n uchel iawn (dros 1500ppm), mae'n bosibl bod eich dyfais monitro yn y lleoliad anghywir a dylech ei symud i leoliad arall yn y man hwn er mwyn cael darlleniad mwy cywir.

Dylid gosod dyfeisiau monitro lle gall aelod o staff yr ysgol weld y sgrin er mwyn nodi a yw'r lliw yn newid i oren neu goch.

Mesur

  • Ar ôl 3 munud yn cynhesu, bydd y ddyfais monitro a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn barod i'w defnyddio.
  • Pryd i fesur: yn dibynnu ar y defnydd a wneir o'r ystafell, dylai'r staff ddarllen yr hyn a ddangosir ar y sgrin ar ddechrau'r wers ac ar y diwedd a monitro hyn. Efallai y bydd y staff am ei fonitro hanner ffordd drwy'r wers, er enghraifft os bydd yn fwy nag awr o hyd. Ni ddylai fod angen torri ar draws gwers i gymryd darlleniad.
  • Efallai y byddwch am fonitro darlleniadau'n amlach mewn sefyllfaoedd lle mae'r darlleniad yn fwy na 1500ppm yn aml. Bydd y darlleniadau hyn yn helpu i lywio'r lefelau carbon deuocsid cyfartalog drwy gydol y dydd.
  • Dim ond mewn ystafelloedd y gwneir defnydd ohonynt y bydd angen cymryd darlleniadau.

Cylchdroi dyfeisiau monitro (os bydd angen)

Gallwch gylchdroi dyfeisiau monitro o amgylch yr adeilad a'r mannau sy'n addas ar gyfer monitro, er mwyn gallu nodi anghenion awyru ym mhob rhan o'ch lleoliad. Dylid monitro ystafelloedd am un diwrnod llawn o leiaf cyn eu cylchdroi i fan gwahanol. Gallwch gadw at rota syml: dechreuwch ag ystafelloedd sydd heb eu hawyru'n ddigonol o bosibl fel y nodir uchod ac yna symudwch eich dyfeisiau monitro i ystafelloedd eraill (rhowch flaenoriaeth i'r rheini y gwneir y defnydd mwyaf ohonynt).

Os byddwch yn gweld bod ystafelloedd yn cael eu hawyru'n dda yn gyson, ni fydd angen parhau i'w cadw ar eich rota ar gyfer monitro lefelau carbon deuocsid oni chaiff deiliadaeth yr ystafell ei newid neu'r defnydd a wneir ohoni. Os caiff y ddyfais monitro ei gosod mewn ystafell newydd, efallai y bydd angen ei diweddaru (creu darlleniad newydd) ychydig o weithiau cyn setlo ar ddarlleniad newydd.

Deall darlleniadau

Caiff faint o carbon deuocsid sydd yn yr aer ei fesur mewn rhannau fesul miliwn (ppm). Nid oes angen gweithredu ar gyfer gwerth cyson o dan 800ppm, a ddynodir gan olau gwyrdd, ac mae'n awgrymu bod man wedi'i awyru'n dda. Dylid darparu system awyru gefndir o hyd er mwyn cynnal ansawdd aer da.

Dylid ystyried bod gwerth uwchlaw 800ppm, a ddynodir gan olau oren, yn arwydd o lefelau awyru cefndir annigonol a bod angen cynyddu'r lefelau awyru ymhellach. Os na fydd hynny wedi'i wneud eisoes, dylech ddechrau gwella'r lefelau awyru drwy agor ffenestri a drysau (rhaid cadw drysau tân ar gau oni fyddant wedi'u cysylltu â dyfais sy'n achosi iddynt gau eu hunain pan gaiff larwm tân ei seinio) neu drwy gynyddu lefelau awyru mecanyddol.

Mae gwerth cyson o grynodiad carbon deuocsid dros 1500ppm, a ddynodir gan olau coch, mewn man y gwneir defnydd ohono yn dangos lefelau awyru gwael. Dylech gymryd camau i wella'r lefelau awyru pan fydd darlleniadau carbon deuocsid yn gyson uwchlaw 1500ppm fel y nodir yn yr adran Gwella lefelau awyru.

I grynhoi

Llai na 800 PPM

  • Nid oes angen cymryd unrhyw gamau gan fod y lefelau awyru hyn yn ddigonol.
  • Parhau â'r monitro.
  • Os bydd y lefelau'n dechrau cynyddu, bydd hyn yn arwydd cynnar y gall fod angen cynyddu'r lefelau awyru.
  • Dylid cynnal lefelau awyru cefndir bob amser.

800 PPM i 1500 PPM yn achlysurol

  • Dylech gynyddu'r lefelau awyru drwy agor ffenestri a drysau (ni ddylid cadw drysau tân ar agor oni fyddant wedi'u cysylltu â dyfais sy'n achosi iddynt gau eu hunain pan gaiff larwm tân ei seinio).
  • Dylid clirio'r man cyn ac ar ôl pob gwers drwy agor pob ffenestr a drws yn llawn am hyd at 10 munud.
  • Cyfyngwch ar nifer y dysgwyr lle y bo'n bosibl.
  • Symudwch weithgareddau lefel uchel fel dawnsio, cerddoriaeth neu weithgareddau corfforol i fannau sydd wedi'u hawyru'n dda.

800 PPM i 1500 PPM yn gyson

Dylech adrodd i'r tîm rheoli ystadau neu gyfleusterau neu'r unigolyn sy'n gyfrifol am yr adeilad bod angen iddynt:

  • gynyddu'r gyfradd a gyflawnir drwy unedau awyru mecanyddol (yn cynnwys aerdymheru) i helpu i sicrhau eu bod mor effeithlon â phosibl (bydd hyn yn debygol o leihau costau cynnal)
  • estyn cyfnodau defnyddio'r unedau awyru mecanyddol (yn cynnwys aerdymheru) er mwyn clirio'r aer cyn ac ar ôl gwersi
  • archwilio a glanhau yr holl unedau awyru mecanyddol
  • ystyried a allai mesurau neu ymyriadau ychwanegol helpu

Uwchlaw 1500 PPM

  • Ymgynghorwch â'r rheolwr ystadau neu gyfleusterau neu'r unigolyn sy'n gyfrifol am yr adeilad er mwyn ystyried cyflwyno system awyru mecanyddol neu naturiol ychwanegol sy'n addas ar gyfer y lleoliad unigol.
  • Bydd angen cyflwyno system awyru clirio cyn gynted ag y bo modd.

Cofiwch gadw golwg am lefelau uchel cyson: gan fod llawer o ffactorau yn dylanwadu ar lefel y carbon deuocsid a gaiff ei fesur mewn man, nid yw'n debygol y bydd un darlleniad cryno yn ddibynadwy. Felly, rydym yn argymell y dylid aros am 5 munud cyn ailgymryd darlleniad uchel, er mwyn gadael i'r ddyfais monitro setlo. Gall y mesuriadau mewn man amrywio yn ystod y dydd oherwydd newidadau yn nifer y bobl sy'n gwneud defnydd o'r man, nifer y gweithgareddau neu gyfraddau awyru. Gall drysau a ffenestri sy'n cael eu hagor neu eu cau gael effaith hefyd.

Gall darlleniadau carbon deuocsid ar y pryd neu rai ‘cryno’ fod yn gamarweiniol, felly dylech gymryd sawl darlleniad drwy gydol y dydd yn ddigon aml i gynrychioli newidiadau yn y defnydd a wneir o'r ystafell neu'r man. Yna cyfrifwch werth cyfartalog ar gyfer y cyfnod y gwneir defnydd ohoni/ohono.

Efallai y bydd angen i chi ailadrodd y broses fonitro ar adegau gwahanol o'r flwyddyn wrth i'r tymheredd y tu allan newid a bydd hyn yn effeithio ar ymddygiad mewn perthynas ag agor ffenestri a drysau pan fydd eich man yn dibynnu ar awyru naturiol.

Bydd eich darlleniadau yn eich helpu i benderfynu a yw man wedi'i awyru'n ddigonol.

Asesiadau risg

Dylid cynnal asesiadau o'r defnydd o ddyfeisiau monitro carbon deuocsid ac unrhyw asesiadau risg cysylltiedig yn unol â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ‘Fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion o hydref 2021: asesiad effaith’.

Dylai eich asesiad risg o'r lleoliad gynnwys nodi unrhyw fannau â lefelau awyru gwael, yn cynnwys drwy ddefnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid os oes rhai ar gael. Os nad ydych eisoes yn mynd i'r afael â lefelau awyru yn eich asesiad, dylech ychwanegu hyn cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn eich dyfeisiau monitro carbon deuocsid.

Dylech ystyried yn eich asesiadau risg y posibilrwydd y bydd gweithgareddau penodol yn effeithio ar lefelau carbon deuocsid, er enghraifft:

  • canu
  • gweiddi
  • ymarfer corff
  • defnyddio cyfarpar nwy i goginio
  • l losgwyr Bunsen mewn labordai gwyddoniaeth

Dylech nodi bod cyfraith iechyd a diogelwch yn nodi bod yn rhaid i gyflogwyr, yn cynnwys lleoliadau addysg a gofal plant sy'n gyflogwyr ar gyfer eu lleoliadau, gymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod cyflenwad digonol o awyr iach (awyru) mewn ardaloedd amgaeëdig o'r gweithle.

Gwella lefelau awyru

Pan fydd darlleniadau carbon deuocsid rhwng 800ppm a 1500ppm, dylai ymyriadau bach fel agor ffenestri a drysau fod yn ddigon i ostwng y lefelau islaw 800ppm. Bydd ffenestri agored ar lefel uchel yn awyru heb achosi drafft. Mae'n bwysig cofio y dylid cynnal ychydig o awyru cefndir parhaus, hyd yn oed pan fydd y dyfeisiau monitro'n dangos lefelau islaw 800ppm.

Ymyriadau lleol eraill i'w hystyried:

  • clirio'r aer yn yr ystafell ddosbarth cyn ac ar ôl pob dosbarth neu wers drwy agor pob ffenestr a drws yn llawn am hyd at 10 munud
  • bydd agor drysau neu ffenestri ar bob pen neu ochr i'r ystafell ddosbarth yn hytrach nag un neu ddau/ddwy yn y canol yn sicrhau bod aer yn cylchdroi'n well
  • cyfyngu ar nifer y dysgwyr lle y bo'n bosibl
  • mewn addysg bellach neu addysg uwch, cynnig seibiannau yn ystod gwersi hwy
  • symud mwy o weithgareddau fel dawnsio neu ganu i fannau mwy neu sydd wedi'u hawyru'n well
  • lle mae ffenestri wedi'u selio neu'n anodd eu hagor, neu mae fentiau aer wedi'u rhwystro, dylid unioni hyn cyn gynted ag y bo modd drwy eich tîm rheoli ystadau neu gyfleusterau (ar gyfer ysgolion, eich awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am hyn)

Pan fydd darlleniadau'n dal i fod rhwng 800ppm a 1500ppm er gwaethaf ymyriadau lleol, dylech ymgynghori â'ch timau ystadau neu gyfleusterau (neu'r unigolyn sy'n gyfrifol am yr adeilad) i ystyried pethau fel:

  • sicrhau gwaith cynnal a chadw rheolaidd (yn cynnwys newid hidlyddion) a chynnal uned awyru mecanyddol (yn cynnwys aerdymheru) i helpu i sicrhau eu bod mor effeithlon â phosibl (a bydd hyn yn debygol o leihau costau cynnal)
  • estyn cyfnodau defnyddio'r unedau awyru mecanyddol (yn cynnwys aerdymheru) er mwyn clirio'r aer cyn ac ar ôl gwersi
  • archwilio, glanhau a chynyddu cyfraddau awyru'r holl unedau awyru mecanyddol (yn cynnwys aerdymheru)
  • ystyried a allai mesurau neu ymyriadau ychwanegol helpu

Dylid ystyried ychwanegu at y lefelau awyru, boed hynny'n awyru mecanyddol neu naturiol, os bydd y darlleniadau uwchlaw 1500ppm yn gyson. Dylai eich timau ystadau neu gyfleusterau (awdurdod lleol i ysgolion) gynghori ar y datrysiad gorau ar gyfer pob achos unigol. Yn y cyfamser, dylech ystyried symud i ystafelloedd eraill, addasu mannau eraill yn yr ystad neu gyfyngu ar niferoedd.

Mae lefelau uwch na 1500ppm yn arwydd o lefelau awyru gwael a dylid mynd i'r afael â nhw fel rhan o'ch asesiad o'r gweithle neu fan addysgu.

Mae angen cymryd gofal o ddrafftiau drwy ffenestri neu ddrysau agored sy'n achosi peryglon, yn enwedig mewn ystafelloedd dosbarth gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg mewn ysgolion uwchradd. Gall gadael drysau ar agor arwain at broblemau diogelu a diogelwch. Gall fod angen clirio'r aer rhwng gwersi neu gael unedau awyru mecanyddol ar gyfer ardaloedd o'r fath, a chynnwys hyn fel rhan o asesiad risg yr ysgol.