Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi £422,334 i undebau credyd ledled Cymru yn ystod 2017-18.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn helpu undebau credyd i barhau i roi cymorth ariannol i aelodau sydd wedi eu hallgáu. Bydd hefyd yn eu helpu i fod yn gynaliadwy dros gyfnod hirach. Bydd y prosiectau’n cynnwys cynlluniau cynilo mewn ysgolion a rhaglenni ymgysylltu cymunedol.

Dywedodd Carl Sargeant: 

“Gwyddom bwysigrwydd undebau credyd wrth helpu pobl sy’n ymdrechu i reoli eu harian. Mae’r arian a roddodd Llywodraeth Cymru rhwng mis Ebrill 2014 a mis Rhagfyr 2016 wedi helpu undebau credyd i roi cymorth i fwy na 29,000 o aelodau sydd wedi’u hallgáu’n ariannol gydag ychydig mwy na £23 miliwn yn cael ei roi ar ffurf benthyciadau i’r bobl hynny oedd angen help. Mae hyn yn dangos yn glir y rôl sydd gan undebau credyd i’w chwarae.

“Mae undebau credyd mewn sefyllfa arbennig o dda, ar sail eu perthynas â chyflogwyr lleol, ysgolion a mudiadau cymunedol eraill i helpu i gryfhau gwydnwch ariannol cymunedau drwy sicrhau y gall mwy o bobl fanteisio ar gredyd cyfrifol a chael cyfle i gynilo. Wrth ymestyn allan i ysgolion lleol maent yn helpu i annog disgyblion i arfer cynilo o oedran cynnar iawn.”