Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros £150,000 wedi'i neilltuo i brosiectau arloesol sy'n dathlu menywod yng Nghymru, i addysgu ac i gefnogi cyfraniad at fywyd cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymhlith y deuddeg prosiect llwyddiannus mae'r canlynol: 

  • Bydd 4thecommunity yn y Rhyl yn derbyn £14,146 i ddarparu prosiect celf cymunedol yn dwyn yr enw A VOTE IS A VOICE gyda menywod o grwpiau o dan anfantais a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys cynhyrchiad o ddrama fer yn ymwneud â thema rhyddfreinio. 
  • Bydd Women Connect First yn derbyn £19,975 i weithio gyda menywod duon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg i ddod o hyd i atebion arloesol ac ymarferol i gynyddu eu cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus.
  • Bydd Plant Dewi yn Sir Gaerfyrddin yn derbyn £11,433 i ddarparu rhaglen o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai democratiaeth, llyfr cof a sesiynau ar roi'r bleidlais i fenywod. 

Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James: 

"Rydyn ni wedi ariannu prosiectau ledled Cymru sy'n dathlu ac yn cynyddu dealltwriaeth pobl o'r mudiad i roi'r bleidlais i fenywod, prosiectau sy'n helpu i wella dealltwriaeth pobl o ddemocratiaeth yn y Deyrnas Unedig, sy'n annog ac yn ysbrydoli pobl, yn arbennig menywod, i gyfrannu at fywyd cyhoeddus a chynnwys menywod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

"Mae cynifer o fenywod ysbrydoledig sydd wedi llywio ein hanes, a chynifer o fenywod ysbrydoledig allan yna heddiw sy'n llywio ein dyfodol. Wrth i ni ddathlu can mlynedd ers i'r menywod cyntaf yng Nghymru gael eu pleidlais, bydd y prosiect yma yn dathlu ac yn hyrwyddo rôl menywod mewn bywyd cyhoeddus."