Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn llwyddiant Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y CIPS, mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi lansiad ei phumed raglen i gefnogi ac uwchsgilio caffael cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y CIPS yn rhaglen arloesol sy'n rhan o raglen gallu a chapasiti Llywodraeth Cymru. Ei nod yw darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff, gan gefnogi gweithwyr proffesiynol caffael y dyfodol, gyda'r nod o leihau'r problemau capasiti a wynebir ar draws y proffesiwn a chodi proffil caffael yng Nghymru.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth yn natblygiad proffesiynol ei chymuned caffael, gan ariannu dros 290 o leoedd ar draws y Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol, i gynyddu nifer y gweithwyr caffael proffesiynol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n gweithio i fodloni egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS).

Mae rhaglen Dyfarniad Corfforaethol arloesol y CIPS yn rhaglen ddysgu gymhwysol, fesul modiwl sy'n seiliedig ar waith sy'n cynnig llwybr at aelodaeth CIPS llawn mewn amserlen gyflym. Mae dwy lefel, sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd drwy blatfform ar-lein rhithwir, gan ddefnyddio Microsoft Teams enu ddarlithoedd wyneb yn wyneb sy'n cynnig y gallu i fyfyrwyr astudio o dan drefniadau hyblyg wrth iddynt ymdopi ag ymrwymiadau eraill.

Rhaglen Ymarferydd Dyfarniad Corfforaethol y CIPS

Mae'r lefel hon yn datblygu dealltwriaeth gadarn o hanfodion caffael a gallu ynddynt, ac mae'n llwybr i aelodaeth Diploma CIPS.

Am fwy o wybodaeth am Rhaglen Ymarferydd Dyfarniad Corfforaethol y CIPS.

Rhaglen Ymarferydd Uwch Dyfarniad Corfforaethol y CIPS

Mae'r rhaglen Ymarferydd Uwch yn meithrin proffesiynoldeb ym maes caffael, yn helpu i sicrhau mwy o werth sefydliadol ac yn lleihau risg. Mae hefyd yn llwybr i gyflawni MCIPS. Am fwy o wybodaeth am Rhaglen Ymarferydd Uwch Dyfarniad Corfforaethol y CIPS.

Mae'r asesiad yn seiliedig ar aseiniad ac mae angen prosiect 10,000 o eiriau ar ddiwedd y cwrs Ymarferydd Uwch. Mae'n rhoi cyfle dysgu cymhwysol er budd y busnes drwy seilio'r prosiect ar y busnes ei hun. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am statws MCIPS, ar ôl dangos tystiolaeth o'r nifer dymunol o flynyddoedd o brofiad caffael sy'n ofynnol. 

Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymuno â'r lefel hon ddangos eu bod eisoes wedi cwblhau rhaglen L4/Diploma/Ymarferydd y CIPS sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru, neu wedi llwyddo yn asesiad cymhwysedd y CIPS wrth iddynt wneud cais am y cwrs Ymarferydd Uwch.

Sesiwn Trosolwg y CIPS

Cyn cyflwyno cais ffurfiol bydd gofyn i ddarpar fyfyrwyr wylio gweminar trosolwg ar-lein wedi'i recordio ymlaen llaw a gynhelir gan y CIPS a fydd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen i fyfyrwyr a chyflogwyr a'r ymrwymiadau a ddisgwylir ohonoch wrth ichi gymryd rhan yn y rhaglen.

Bydd y broses ymgeisio ffurfiol a chytundeb y dysgwr yn cael eu hesbonio a'u rhannu â myfyrwyr yn ystod y weminar hon.

Sut i fynegi diddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y Rhaglen hon, e-bostiwch GalluMasnachol@llyw.cymru. Wrth gyflwyno eich mynegiant o ddiddordeb, a fyddech cystal â sicrhau eich bod yn nodi lefel y rhaglen y mae gennych ddiddordeb ynddi, eich enw, teitl eich swydd a'r sefydliad sy'n eich cyflogi. Byddwn yn eich hysbysu o ddyddiadau'r weminar ar-lein a manylion y broses ymgeisio ffurfiol.

Cyn cyflwyno eich mynegiant o ddiddordeb, a fyddech cystal â sicrhau eich bod wedi darllen y ddogfen cwestiynau cyffredin, sy'n amlinellu'r meini prawf cymhwysedd a'r amodau allweddol.

Darllenwch fwy am y rhaglen benodol i Gymru yn ein cyhoeddiad isod (sylwer bod nifer y lleoedd a ariennir wedi cynyddu ers cyhoeddi'r ddogfen hon).

Dyfodol Dyfarniad Corfforaethol y CIPS

Mae Dyfarniad Corfforaethol y CIPS yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Er na fydd hyn yn effeithio ar ddysgwyr presennol neu ddysgwyr sydd wedi'u cymeradwyo i ddechrau'r rhaglen hon, ni fydd unrhyw sicrwydd o gyllid yn y dyfodol gan y gallai'r rhaglen newid.