Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) i gyflwyno Rhaglen Wobrwyo Gorfforaethol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gwobr Gorfforaethol CIPS yn ffurfio rhan o raglen medrusrwydd a gallu Llywodraeth Cymru. Ei nod yw rhoi cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff, creu gweithwyr proffesiynol y dyfodol, mynd i'r afael â'r materion medrusrwydd a wynebir ar draws y proffesiwn a chodi proffil caffael yng Nghymru. Rydym wedi ariannu dros 194 o leoedd ar draws y Rhaglen Wobrwyo Gorfforaethol, ac rydym yn gobeithio cefnogi twf y proffesiwn yn y dyfodol.

Mae llwybr astudio’r wobr gorfforaethol yn seiliedig ar aseiniadau, sy'n cynnwys 5 modiwl ag aseiniad sy'n ofynnol ar ddiwedd pob modiwl yn lle arholiad. Mae cynnwys y cwrs wedi'i deilwra ar gyfer sector cyhoeddus Cymru i sicrhau ei fod yn berthnasol ac mae'n adlewyrchu polisïau caffael Cymru a strategaethau a gyrwyr ehangach Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen hon ar gael i newydd-ddyfodiaid yn unig. Os ydych chi wrthi'n astudio rhaglen y CIPS mewn prifysgol yng Nghymru ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gallu gwneud cais. Mae hyn er mwyn gwarchod cyfraddau derbyn presennol myfyrwyr yn ein sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth am Raglen Gwobr Gorfforaethol CIPS.

Os ydych eisoes wedi cwblhau Diploma CIPS L4 neu wedi pasio asesiad cymhwysedd CIPS, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y rhaglen Ymarferydd Uwch.

Sut i fynegi diddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs hwn, anfonwch neges e-bost at GalluMasnachol@llyw.cymru. Pan fyddwch yn mynegi eich diddordeb, sicrhewch eich bod chi’n darparu teitl y cwrs, eich enw, teitl eich swydd ac enw’r sefydliad sy’n eich cyflogi. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y rhaglen ar agor ar gyfer ceisiadau.

Cyn mynegi eich diddordeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwrdd â'r meini prawf a'r amodau cymhwysedd a welir yn y dogfennau ategol.