Neidio i'r prif gynnwy

Roedd y dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb ar gyfer Dyfarniad Corfforaethol lefel 4 y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) ar 28 Mai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Roeddem wrth ein bodd gyda lefel y diddordeb, wedi i ni dderbyn 26 cais.

Oherwydd y galw mawr, mae CIPS wedi cytuno i redeg dwy garfan. Disgwylir i'r garfan gyntaf gychwyn ym mis Medi 2020. Rydym yn awr yn gweithio i ddatblygu amserlen ar gyfer yr ail garfan a fydd yn cychwyn chwe wythnos yn ddiweddarach. Bydd hyn yn sicrhau y gellir ymgorffori unrhyw wersi a ddysgwyd o'r garfan gyntaf yn yr ail garfan.

Rydym wedi cadarnhau wrth bob ymgeisydd yn uniongyrchol trwy e-bost ein bod wedi derbyn pob Mynegiad o Ddiddordeb. Os nad ydych wedi derbyn e-bost, cysylltwch â ni ar vwpolicy@llyw.cymru

Rhannu’r dudalen hon