Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?

Cefndir deddfwriaethol

Gwnaeth Deddf Addysg (Cymru) 2014 newidiadau i’r broses o bennu dyddiadau tymhorau yng Nghymru drwy fewnosod deddfwriaeth newydd ar gyfer Cymru yn unig yn Neddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”). O ganlyniad, er bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (“cyrff llywodraethu perthnasol”) yn cadw’r hawl i bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion, mae ganddynt ddyletswydd hefyd i gydweithio wrth bennu dyddiadau tymhorau fel bod y dyddiadau hynny’r un fath neu mor debyg i'w gilydd â phosibl. Os, er gwaethaf pob ymdrech, nad oes modd cytuno ar ddyddiadau tymhorau, mae Deddf 2002 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu perthnasol ar y dyddiadau y mae'n ofynnol iddynt eu defnyddio er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ledled Cymru. 

Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiadau tymor a bennir ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardaloedd erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Awst ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol y maent yn berthnasol iddi. 

Nid yw'r dyddiadau tymor a gyflwynwyd ar gyfer 2026 i 2027 wedi'u cysoni'n llwyr. Felly, mae Gweinidogion Cymru yn dymuno ystyried defnyddio eu pwerau cyfarwyddo o dan Ddeddf 2002 i sicrhau bod dyddiadau tymhorau yn gyson ledled Cymru.

Fodd bynnag, cyn y gallant ddefnyddio eu pwerau cyfarwyddo, mae Deddf 2002 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal ymgynghoriad priodol. Yn ogystal, mae Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 yn nodi gofynion pellach o ran ffurf a hyd ymgynghoriad o'r fath.

Materion ymarferol 

I grynhoi, hoffai Gweinidogion Cymru i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gael yr un dyddiadau ar gyfer eu tymhorau yn 2026 i 2027 ac felly maent yn gofyn i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol am eu barn ar hyn. Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor i unrhyw un ymateb iddo rhwng 3 Mawrth 2025 a 25 Mai 2025.

Cynigiwyd dwy set o ddyddiadau gan ddau grŵp newydd o awdurdodau lleol. Mae Gweinidogion Cymru yn ffafrio'r dyddiadau a bennir gan Grŵp A (13 awdurdod lleol) dros y dyddiadau a anfonwyd gan Grŵp B (9 awdurdod lleol). Y rheswm am hyn yw bod dyddiadau Grŵp A yn osgoi hollti wythnosau cyn belled ag y bo modd ac yn gosod gwyliau banc y Pasg yng nghanol gwyliau'r gwanwyn.

Mae'r cyfarwyddyd drafft a gynhwysir gyda'r ymgynghoriad yn cynnig y dyddiadau canlynol ar gyfer pob ysgol:

Dechrau tymor yr hydref 20261 Medi 2026
Dechrau hanner tymor yr hydref 202626 Hydref 2026
Diwedd hanner tymor yr hydref 202630 Hydref 2026
Diwedd tymor yr hydref 202618 Rhagfyr 2026 (22 Rhagfyr 2026 ar gyfer Powys)
Dechrau tymor y gwanwyn 20274 Ionawr 2027
Dechrau hanner tymor y gwanwyn8 Chwefror 2027
Diwedd hanner tymor y gwanwyn 202712 Chwefror 2027
Diwedd tymor y gwanwyn 202719 Mawrth 2027
Dechrau tymor yr haf 20275 Ebrill 2027
Dechrau hanner tymor yr haf 202731 Mai 2027
Diwedd hanner tymor yr haf4 Mehefin 2027
Diwedd tymor yr haf 202720 Gorffennaf 2027 (16 Gorffennaf 2027 ar gyfer Powys)

Yn yr hirdymor

Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth ar gysoni dyddiadau tymhorau gyda'r bwriad bod yr egwyddorion yn cael eu dilyn bob blwyddyn. Credwn fod cael yr un dyddiadau ar gyfer tymhorau, neu rai tebyg, ar draws pob awdurdod lleol yn helpu teuluoedd i gynllunio. Yn ogystal, credwn fod y diwydiant twristiaeth yn elwa o gyhoeddi'r dyddiadau ymlaen llaw a gallu cynllunio trefniadau staffio yn unol â hynny.

Yn y tymor hwy, pe byddai diwygio'r flwyddyn ysgol yn cael ei archwilio eto, gallai hyn effeithio ar sut y pennir dyddiadau tymhorau a'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu hynny 

Rydym yn parhau i wrando ar adborth, drwy ymgynghoriadau fel hwn, i sicrhau bod y polisi yn dal i ddiwallu anghenion y bobl y mae'n effeithio arno.

Atal

Drwy gael yr un dyddiadau neu ddyddiadau tymhorau tebyg ledled Cymru, mae teuluoedd yn llai tebygol o fod angen trefniadau gofal plant cymhleth a allai fod yn wahanol pan fo'u plant yn mynd i wahanol ysgolion. Credwn y gallai hyn arwain at arbed costau i deuluoedd a chaniatáu iddynt gynllunio amser gyda'i gilydd ar gyfer llesiant. 

Integreiddio

Pan fo dyddiadau tymhorau'n cael eu cysoni a'u cyhoeddi ymlaen llaw, mae busnesau, twristiaeth a thrafnidiaeth hefyd yn gallu elwa o allu cynllunio'n iawn ar gyfer cyfnodau'r gwyliau. Gallai hyn olygu bod dysgwyr hŷn yn gallu sicrhau swyddi gwyliau a golygu y gall cwmnïau cludo dysgwyr sicrhau bod ganddynt ddigon o staff pan fo angen.

Pan fo rhieni'n gallu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer gofal plant, gall fod yn ddefnyddiol, yn enwedig i'r rhieni hynny sy'n gweithio patrymau sifft afreolaidd neu oriau wedi'u contractio. Gallai olygu eu bod yn llai tebygol o golli oriau o waith os nad oes rhaid iddynt drefnu gwaith o gwmpas nifer o drefniadau gofal plant.

Credwn fod y cynnig hwn yn cyfrannu at y saith nod llesiant fel a ganlyn:

  • Cymru Iewyrchus.
  • Cymru gydnerth.
  • Cymru iachach.
  • Cymru sy'n fwy cyfartal.
  • Cymru o gymunedau mwy cydlynus.
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Dylai unigolion a busnesau elwa o gael cysoni dyddiadau tymhorau gan ei fod yn darparu tegwch ac amser ar gyfer cynllunio ymlaen llaw i bawb.

Mae busnesau twristiaeth yn hynod bwysig i'r economi yng Nghymru, ac mae'n iawn ein bod yn helpu i feithrin y diwydiant hwn drwy wneud y penderfyniad polisi syml hwn.

Nid oes unrhyw effaith uniongyrchol ar iechyd, ond trwy sicrhau bod dyddiadau'r tymhorau'n cael eu cysoni, rydym yn darparu'r un cyfleoedd i bawb.

Mae'n sefyll i'r rheswm y bydd cysoni dyddiadau tymhorau ledled Cymru yn arwain at Gymru fwy cyfartal ac y gall dysgwyr, staff, teuluoedd a busnesau elwa o hyn.

Gall cymunedau groesi ffiniau sirol a llinellau daearyddol - bydd cysoni dyddiadau tymhorau yn dod â chydlyniant ledled Cymru.

Nid oes unrhyw effaith uniongyrchol ar yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, ond gallai dyddiadau tymhorau cyson arwain at well mynediad yn ystod gwyliau'r ysgol os yw busnesau'n gallu cynllunio'n ddigonol ymlaen llaw. Yn ogystal, drwy ganiatáu i ysgolion Powys gau ychydig yn gynharach ar ddiwedd tymor yr haf, bydd y plant, teuluoedd a staff ysgol hynny yn gallu elwa o'r profiad diwylliannol o fynd i'r Sioe Frenhinol.

Nid oes unrhyw effaith uniongyrchol ar gyfrifoldeb byd-eang Cymru, ond bydd dyddiadau tymhorau cyson yn helpu ymwelwyr i gynllunio yn ôl dyddiadau gwyliau a gyhoeddir ymlaen llaw.

Cydweithio

Mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu perthnasol yn gyfrifol am bennu dyddiadau tymhorau eu hysgolion, felly'r rhain, ynghyd â gweddill y gymuned ysgolion a gynhelir yw'r partneriaid allweddol yn y cynnig hwn.

Yn dilyn y broses arferol o ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar eu dyddiadau arfaethedig ar gyfer 2026 i 2027, gwnaethom eu hysbysu am fwriad Gweinidogion Cymru. Rydym yn gwahodd pob awdurdod lleol, ysgol a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ar y cynnig hwn a'r effeithiau a allai ei gael.

Cymryd rhan

Mae awdurdodau lleol wedi darparu eu dyddiadau arfaethedig yn unol â'r ddeddfwriaeth. Wrth wneud hynny, byddant wedi cydweithio â chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn eu hardal, yn ogystal â chydag awdurdodau cyfagos. Fodd bynnag, ni lwyddwyd i gael cysondeb, gyda rhaniad clir o ran y dyddiadau a ddewiswyd ar gyfer tymhorau'r gwanwyn a'r haf yn 2027. 

Effaith

Credwn mai'r hyn sy'n bwysig yw'r effaith ar deuluoedd a'r diwydiannau yr effeithir arnynt. Dyna'r rhesymeg y tu ôl i'r ddeddfwriaeth wreiddiol a'r ymgynghoriad hwn.

Rydym yn cydnabod y gall dyddiadau tymhorau ysgolion ymddangos yn fater dibwys i lawer o bobl, ond gall effeithio'n sylweddol ar waith a lles rhai. Er nad yw'r cynnig yn honni ei fod yn datrys yr holl broblemau posibl, mae'n ceisio gwneud pethau mor syml â phosibl i'r rhai yr effeithir arnynt.

Bydd y cynnig hefyd yn effeithio ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu perthnasol, gan y bydd angen i'r rhai yng Ngrŵp B wneud newidiadau i'w dyddiadau a rhannu'r wybodaeth. Efallai y bydd hyn yn gosod baich gweinyddol ychwanegol, ond y gobaith yw y bydd hyn yn cael ei leihau i ryw raddau gan y dyddiadau sy'n cael eu nodi'n glir gan Weinidogion Cymru. Yn ogystal â'r rhesymeg ar gyfer y dyddiadau a ddewiswyd uchod, roeddem o'r farn y byddai'n well cael llai o awdurdodau lleol ac ysgolion yn gorfod newid eu dyddiadau. Byddai hyn yn lleihau'r effeithiau negyddol ar y cyrff hynny.

Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle ystyrlon i ni glywed am ein dehongliad o'r sefyllfa gan bartïon â diddordeb ac am unrhyw effeithiau pellach nad ydym efallai wedi'u nodi trwy'r broses hon.

Costau ac Arbedion

Nid ydym yn rhagweld unrhyw gostau ychwanegol i Lywodraeth Cymru nad ydynt eisoes yn cael eu hariannu drwy gyllidebau staffio arferol. Efallai y byddai cost ychwanegol i awdurdodau lleol sydd angen newid eu dyddiadau er mwyn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd, fodd bynnag, fel yn achos Llywodraeth Cymru, disgwylir y byddai'r rhain yn cael eu talu drwy gyllidebau staffio arferol.

Ni ddylai fod unrhyw gostau pellach i unigolion na sefydliadau a rhagwelir y bydd arbedion i deuluoedd sy'n byw, gweithio neu ddysgu ar draws ffiniau awdurdodau lleol gan na ddylai fod angen trefnu gofal plant ychwanegol.

Dull gweithredu

Bydd angen llunio rheoliadau er mwyn rhoi'r cynnig ar waith. Mae hyn yn cael ei ystyried yn is-ddeddfwriaeth ac felly bydd yn dilyn y prosesau sydd eu hangen i gyflwyno hynny. Mae memorandwm esboniadol llawn ac asesiad effaith rheoleiddiol wedi'u cynnwys fel rhan o'r cyfarwyddyd.

I gloi

Rydym wedi ystyried yr holl effeithiau tebygol ar wahanol grwpiau ac ar les cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth wneud y cynnig hwn.

Ar ôl gwneud hynny, rydym yn hyderus bod effeithiau cadarnhaol pennu dyddiadau cyson ar gyfer tymhorau ysgol ym mlwyddyn ysgol 2026 i 2027 ar blant, teuluoedd a staff ysgol yn gorbwyso unrhyw resymau dros beidio â mabwysiadu'r cynnig. Credwn hefyd y bydd twristiaeth a busnesau tymhorol eraill ar eu hennill o'r penderfyniad.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn unrhyw un sydd â diddordeb, a byddwn yn ystyried pob un sylw a'u cadw mewn cof wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phennu dyddiadau'r tymhorau ar gyfer pob ysgol a gynhelir.