Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a Chefndir

1.Mae gan Weinidogion Cymru bwerau cyfarwyddo o dan adran 32B(1) o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”).

2. Diben y ddogfen hon yw darparu datganiad cyhoeddus a thryloyw ar benderfyniad Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd, ac amlinellu sut y mae Gweinidogion Cymru wedi pennu’r dyddiadau tymhorau ysgol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Bwriad arall y ddogfen yw nodi diben ac effaith y Cyfarwyddyd ar gyfer dinasyddion, aelodau, swyddogion a phartneriaid awdurdodau lleol, a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig (“cyrff llywodraethu perthnasol”).

3. O dan adrannau 32A a 32B o Ddeddf 2002, mae awdurdodau lleol yn gosod dyddiadau tymhorau ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir. Yn ogystal, mae cyrff llywodraethu perthnasol yn cadw’r hawl i osod dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion. Fodd bynnag, mae dyletswydd ar awdurdod lleol i gydweithredu a chydgysylltu â phob corff llywodraethu perthnasol yn ei ardal ac â phob awdurdod lleol arall yng Nghymru wrth osod dyddiadau tymhorau, fel bod y dyddiadau hynny yr un fath neu mor debyg ag y gallant fod. Yn yr un modd, mae dyletswydd ar gorff llywodraethu perthnasol i gydweithredu a chydgysylltu â phob corff llywodraethu perthnasol arall yn ardal ei awdurdod lleol ac â’r awdurdod lleol y mae’r ysgol yn ei ardal wrth osod dyddiadau tymhorau, fel bod y dyddiadau hynny yr un fath neu mor debyg ag y gallant fod.

4. Diffinnir y term “maintained school” (“ysgol a gynhelir”) yn adran 32A(9) o Ddeddf 2002 ac mae’n cynnwys ysgol yng Nghymru sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol (gan gynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir), yn ysgol arbennig gymunedol neu’n ysgol feithrin a gynhelir. Mae’r adran honno hefyd yn diffinio “term dates” (“dyddiadau tymhorau”) fel dyddiadau dechrau a gorffen tymhorau ysgol a gwyliau ysgol.

5. Os nad yw dyddiadau tymhorau yr un fath neu mor debyg ag y gallant fod, er gwaethaf pob ymdrech, yna mae adran 32B(1) o Ddeddf 2002 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu perthnasol ynghylch eu dyddiadau tymhorau. Nid yw’r pŵer yn yr adran honno wedi ei gyfyngu i sicrhau dyddiadau sydd yr un fath neu mor debyg ag y gallant fod yn unig, ond mae’n ddigon eang fel bod modd ei ddefnyddio at y diben hwnnw.

6. Mae adran 32A(5) o Ddeddf 2002 yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol roi gwybod i Weinidogion Cymru am y dyddiadau tymhorau y maent wedi eu pennu ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardaloedd eu hunain. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 32A(6) o Ddeddf 2002 yn nodi’r manylion ynghylch sut y mae’r hysbysiad hwnnw i’w ddarparu. Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 (“y Rheoliadau Hysbysu”) yn darparu bod y dyddiadau tymhorau ar gyfer 2026 i 2027 i’w darparu erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Awst, sef, yn yr achos hwn, 30 Awst 2024.

7. Mae’r Rheoliadau Hysbysu yn darparu hefyd y caniateir cwblhau ac anfon hysbysiadau yn electronig at Weinidogion Cymru. Oherwydd y dylai cadeirydd neu is-gadeirydd corff llywodraethu perthnasol, yn ogystal â chyfarwyddwr addysg yr awdurdod lleol priodol, lofnodi’r hysbysiad ar gyfer ysgol, mae’r Rheoliadau Hysbysu hefyd yn darparu y caniateir defnyddio hysbysiadau rhannol sy’n cynnwys dyddiadau tymhorau ar gyfer un neu ragor o ysgolion.

8. Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob awdurdod lleol a phob ysgol wirfoddol a gynorthwyir ac ysgol sefydledig ar 4 Mehefin 2024 yn gofyn iddynt weithio gydag awdurdodau lleol eraill a chyda’r ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a’r ysgolion sefydledig i osod dyddiadau tymhorau ac i roi gwybod i Weinidogion Cymru beth fyddai eu dyddiadau tymhorau ar gyfer 2026 i 2027 erbyn 30 Awst 2024.

9. Mae dadansoddiad o’r hysbysiadau a gafodd Gweinidogion Cymru yn dangos nad oedd y dyddiadau tymhorau, er gwaethaf pob ymdrech, yr un fath (neu mor debyg ag y gallant fod) ledled Cymru ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027. Felly, er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, cynigiodd Gweinidogion Cymru ddefnyddio eu pwerau cyfarwyddo.

Dadansoddiad o’r hysbysiadau ynghylch dyddiadau tymhorau a ddaeth i law

Hysbysiadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru:

10.Cyflwynodd pob un o’r 22 o awdurdodau lleol hysbysiadau am y dyddiadau tymhorau ysgol y penderfynwyd arnynt ar gyfer 2026 i 2027 ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir (h.y. ysgolion y mae’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am bennu dyddiadau tymhorau ar eu cyfer).

11. Cafwyd dirywiad yn lefel y cysondeb rhwng y dyddiadau tymhorau a sicrhawyd gan yr awdurdodau lleol. Mewn blynyddoedd blaenorol bu rhywfaint o amrywiad (1 neu 2 ddiwrnod) ym Mhowys, er mwyn caniatáu ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru. Ar yr achlysur hwn mae wythnos o wahaniaeth ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a diwedd tymor y gwanwyn a dechrau tymor yr haf.

12. Daeth dau grŵp gwahanol i’r amlwg yn yr hysbysiadau a gyflwynwyd. Roedd Grŵp awdurdodau lleol A yn cynnwys dyddiadau y cytunwyd arnynt gan awdurdodau lleol Bro Morgannwg, Caerdydd, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys,Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn, sy’n cwmpasu gogledd Cymru, canolbarth Cymru a chanol de Cymru. Ychydig o wybodaeth a ddarparwyd i egluro pam y dewiswyd dyddiadau penodol. Fodd bynnag, nododd Ceredigion mai sicrhau bod penwythnos y Pasg yn disgyn yng nghanol gwyliau tymor y gwanwyn a chysoni cyhyd ag y bo modd â Phowys oherwydd Sioe Frenhinol Cymru oedd rhesymeg yr awdurdod lleol hwnnw. Mae Ceredigion yn ffinio’n uniongyrchol â Phowys.

13. At hynny, dywedodd Bro Morgannwg fod y dyddiadau a nodwyd yng Ngrŵp A yn helpu i osgoi hollti wythnosau. Mae Gweinidogion Cymru yn rhannu’r pryder ynghylch hollti wythnosau. Yn hynny o beth, mae gan Grŵp B wythnos wedi ei hollti ar ddiwedd tymor y gwanwyn ond nid yw hyn yn wir am Grŵp A (gweler paragraff 14 ar gyfer y rhestr o awdurdodau yng Ngrŵp B). Ystyrir y gall wythnosau wedi eu hollti gael effaith andwyol ar bresenoldeb disgyblion os ydynt yn digwydd ar ddiwedd y tymor. Efallai y bydd tuedd i rieni fynd â phlentyn allan o’r ysgol am ddiwrnod neu ddau olaf y tymor os yw’r dyddiau hynny ar ddechrau’r wythnos yn hytrach na bod yr ysgol yn gorffen ar ddydd Gwener yn ôl yr arfer. Mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod hynny’n llai tebygol o ddigwydd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol gan na fydd blinder disgyblion yn gymaint o ffactor bryd hynny o’i gymharu â diwedd y flwyddyn ysgol. Nodir bod gan Grŵp A a Grŵp B wythnos wedi ei hollti ar ddiwedd tymor yr haf (diwedd y flwyddyn ysgol) ond ystyrir nad oes modd osgoi hynny yn yr achos hwnnw. Hefyd, os bydd gostyngiad mewn presenoldeb neu ddysgu ar y pwynt hwnnw, ystyrir bod wythnos wedi ei hollti yn llai tebygol o fod yn niweidiol o ystyried ei bod ar ddiwedd y flwyddyn ysgol ac felly byddai’r arholiadau a’r gwaith ysgol fel arfer wedi eu cwblhau.

14. Roedd Grŵp awdurdodau lleol B yn cynnwys dyddiadau tymhorau y cytunwyd arnynt gan awdurdodau lleol Abertawe, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd,Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Sir Fynwy,Sir Gaerfyrddin a Thorfaen. Dywedodd Casnewydd mai dod â thymor y gwanwyn i ben y diwrnod cyn Dydd Gwener y Groglith oedd rhesymeg yr awdurdod lleol hwnnw. Yr opsiwn arall yw dod â’r tymor i ben yr wythnos flaenorol (fel y mae Grŵp A wedi ei wneud), ond roedd yn ystyried bod hynny’n rhy gynnar. Er bod yr awdurdod lleol hwnnw yn ystyried bod hyn yn rhy gynnar, ni ddarparwyd y rheswm dros y farn honno. At hynny, dywedodd awdurdodau lleol Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro eu bod wedi dewis cysoni â’i gilydd a gwneud hanner cyntaf tymor y gwanwyn yn hirach. Mae tystiolaeth bod Grŵp B yn ffafrio hanner cyntaf hirach yn nhymor y gwanwyn, er nid esboniwyd y rhesymeg dros hynny.

Hysbysiadau gan gyrff llywodraethu perthnasol:

15. Mae’n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig roi gwybod i Weinidogion Cymru am eu dyddiadau tymhorau arfaethedig hefyd. Roedd y dyddiadau tymhorau arfaethedig yn yr holl hysbysiadau a ddaeth i law wedi eu cysoni â dyddiadau tymhorau arfaethedig yr awdurdodau lleol priodol sy’n cynnal yr ysgolion.
 

16. Yn y gorffennol mae ysgolion sydd â chymeriad crefyddol wedi dewis dyddiadau gwahanol i’r awdurdod lleol sy’n eu cynnal ac ysgolion eraill heb gymeriad crefyddol oherwydd ei bod yn well ganddynt i ddysgwyr fod yn yr ysgol i gymryd rhan yn nefodau’r Pasg yn ystod yr wythnos sy’n arwain at Ddydd Gwener y Groglith. O ran Wythnos y Pasg yn 2027, nid yw’r ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol na’r ysgolion sefydledig sydd â chymeriad crefyddol yng Ngrŵp B wedi nodi Wythnos y Pasg fel rheswm dros gael gwyliau tymor y gwanwyn (y Pasg) yn hwyrach. Mae’r un peth yn wir am yr awdurdodau lleol hynny sydd yng Ngrŵp B. Yn syml, fel y nodwyd uchod, mae’r holl ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wedi cysoni â’u priod awdurdodau lleol.

Casgliad

17. Ystyriodd Gweinidogion Cymru yr holl hysbysiadau a gyflwynwyd yn ofalus iawn a phenderfynasant gynnig bod pob ysgol a gynhelir yng Nghymru yn mabwysiadu’r dyddiadau tymhorau a osodwyd gan yr awdurdodau lleol yng Ngrŵp A am y rhesymau canlynol:

  • Nod adrannau 32A a 32B o Ddeddf 2002 oedd dileu gwahaniaethau o ran dyddiadau sy’n achosi heriau i rieni a staff fel ei gilydd. Rydym o’r farn bod yr hanfodion polisi hynny yn gorbwyso’r awydd i gael gwyliau gwahanol yn y gwanwyn, gan ystyried y rhesymau a roddwyd gan yr awdurdodau lleol.
  • Mae’r mwyafrif o’r awdurdodau lleol wedi gosod dyddiadau tymhorau yng Ngrŵp A - 13 o’i gymharu â dim ond 9 a osododd ddyddiadau yng Ngrŵp B.
  • Mae awdurdod lleol Powys wedi gosod dyddiadau sy’n cyd-fynd ar y cyfan â Grŵp A, ond mae 2 wahaniaeth. Un gwahaniaeth yw bod Powys wedi dewis dod â thymor yr haf i ben ar 16 Gorffennaf 2027, cyn dechrau Sioe Frenhinol Cymru, a gynhelir rhwng dydd Llun 19 Gorffennaf 2027 a dydd Iau 22 Gorffennaf 2027. Mae gweddill yr awdurdodau lleol yng Ngrŵp A yn dod â thymor yr haf i ben ar 20 Gorffennaf tra bo awdurdodau lleol Grŵp B yn dod â thymor yr haf i ben ar 21 Gorffennaf. O ran yr awdurdodau sy’n ffinio’n uniongyrchol â Phowys, mae’r darlun yn gymysg, gyda 6 yn cyd-fynd â Grŵp A a 5 yn cyd-fynd â Grŵp B. Byddai’r dyddiadau a gynigir ar gyfer y Cyfarwyddyd yn golygu y byddai Powys yn cael dod â thymor yr haf i ben ar 16 Gorffennaf. Mae hynny’n golygu y bydd plant a staff ysgol yn rhydd i fynychu Sioe Frenhinol Cymru am yr wythnos gyfan o ddydd Llun 19 Gorffennaf 2027 ymlaen. Mae’r penderfyniad hwn yn adlewyrchu parch mawr Gweinidogion Cymru at werth diwylliannol ac economaidd sylweddol Sioe Frenhinol Cymru.
  • Mae Gweinidogion Cymru yn gwerthfawrogi ymdrechion awdurdodau lleol ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig i weithio gyda’i gilydd i sicrhau cysondeb. Byddai cynnig dyddiadau sy’n mynd yn groes i fwyafrif sylweddol yn dibrisio’r ymdrechion hyn. Wrth ystyried hyn a’r pwyntiau eraill a nodir uchod, roedd Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn rhesymol cynnig y dyddiadau tymhorau wedi eu cysoni fel y’u cyflwynwyd gan Grŵp A, fel y’u nodir ym mharagraff 21 isod.
  • Bydd y dyddiadau arfaethedig yn osgoi wythnos wedi ei hollti ar ddiwedd tymor y gwanwyn.

     

Ymgynghoriad ar y dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer 2026-27 a’r Cyfarwyddyd

18. Cyn defnyddio eu pwerau cyfarwyddo, mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal ymgynghoriad priodol yn unol â Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014. O ganlyniad, cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ar y dyddiadau tymhorau yr oedd Gweinidogion Cymru yn cynnig eu gosod rhwng [i’w fewnosod yn dilyn ymgynghoriad] 2025 a [i’w fewnosod yn dilyn ymgynghoriad] 2025. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn a oedd yr ymatebwyr yn cytuno â’r dyddiadau tymhorau a oedd gennym mewn golwg ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027 a’r Cyfarwyddyd drafft arfaethedig. Dyma’r dyddiadau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027 y bu Gweinidogion Cymru yn ymgynghori arnynt:

Dechrau tymor yr hydref a diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgolDydd Mawrth 1 Medi 2026
Dechrau hanner tymor yr hydref

Dydd Llun 26 Hydref 2026

 

Diwedd hanner tymor yr hydref

Dydd Gwener 30 Hydref 2026

 

Diwedd tymor yr hydref

Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2026 ar gyfer pob ysgol ac eithrio’r rhai ym Mhowys

Bydd tymor yr hydref yn dod i ben ddydd Mawrth 22 Rhagfyr 2026 ar gyfer ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig

Dechrau tymor y gwanwyn

Dydd Llun 4 Ionawr 2027

 

Dechrau hanner tymor y gwanwyn

Dydd Llun 8 Chwefror 2027

 

Diwedd hanner tymor y gwanwyn

Dydd Gwener 12 Chwefror 2027

 

Diwedd tymor y gwanwyn

Dydd Gwener 19 Mawrth 2027

 

Dechrau tymor yr haf

Dydd Llun 5 Ebrill 2027

 

Dechrau hanner tymor yr haf

Dydd Llun 31 Mai 2027

 

Diwedd hanner tymor yr haf

Dydd Gwener 4 Mehefin 2027

 

Diwedd tymor yr haf a diwrnod olaf y flwyddyn ysgol

 

Dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2027 ar gyfer pob ysgol ac eithrio’r rhai ym Mhowys

Bydd tymor yr haf yn dod i ben ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2027 ar gyfer ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig

Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad

Gellir cael crynodeb llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn:

[Ychwanegu dolen yn dilyn yr ymgynghoriad]

  1. Mae’r prif bwyntiau fel a ganlyn:

[crynodeb i’w ychwanegu ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad]

Dull gweithredu

2. Wrth benderfynu a ddylid ymyrryd a sut i wneud hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried yr egwyddorion a ganlyn:

a. Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod y Cyfarwyddyd hwn yn gam difrifol ac nid ar chwarae bach y gwnaethant benderfynu ei ddyroddi. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn rhesymol pennu dyddiadau tymhorau fel eu bod yr un fath ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ac eithrio ar gyfer y rhai yng Nghyngor Sir Powys, lle y caniateir amrywiad er mwyn ystyried Sioe Frenhinol Cymru, sy’n ddigwyddiad diwylliannol pwysig. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi digon o amser i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu perthnasol gytuno ar ddyddiadau ymysg ei gilydd. Maent hefyd wedi cynnal ymgynghoriad priodol 12 wythnos o hyd i geisio barn ynghylch y dyddiadau arfaethedig a’r Cyfarwyddyd. Maent yn fodlon, felly, fod modd cyfiawnhau’r Cyfarwyddyd hwn.

b. Dylai ymyrraeth fod yn gymesur. Mae’r dyddiadau tymhorau a nodir gan Weinidogion Cymru yn y Cyfarwyddyd yn gymwys ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027. Mae hyn yn rhoi digon o gyfle i bawb y mae’r dyddiadau hynny yn effeithio arnynt i gynllunio’n briodol. Nid yw Gweinidogion Cymru wedi gosod dyddiadau tymhorau ar gyfer unrhyw flynyddoedd ysgol eraill yn y Cyfarwyddyd hwn, a bydd disgwyl o hyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gytuno ar ddyddiadau tymhorau sydd yr un fath (neu mor debyg ag y gallant fod) ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn ystyried yr ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ar y dyddiadau arfaethedig.

Adolygu’r Cyfarwyddyd yn barhaus

21. Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu ddiwygio’r Cyfarwyddyd ar unrhyw adeg, a bydd Gweinidogion Cymru yn adolygu effeithiolrwydd y Cyfarwyddyd o bryd i’w gilydd.

Effaith y Cyfarwyddyd

22. Effaith y Cyfarwyddyd yw gorfodi pob awdurdod lleol a phob corff llywodraethu perthnasol i osod y dyddiadau tymhorau fel y’u nodir yn y Cyfarwyddyd.

Y cyfarwyddyd

1. Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a nodir yn y Memorandwm Esboniadol, wedi eu bodloni mai’r dyddiadau hynny a nodir yn yr Atodlen ddylai fod y dyddiadau tymhorau a bennir gan awdurdodau lleol yng Nghymru a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir neu ysgolion sefydledig (“cyrff llywodraethu perthnasol”), a hynny am y rheswm a nodir ym mharagraff 2. Maent hefyd wedi cynnal ymgynghoriad priodol ar y dyddiadau tymhorau yn yr Atodlen ac wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

2. Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn rhesymol y dylai’r dyddiadau tymhorau fod yr un fath ac eithrio y caniateir amrywiad ar gyfer yr ysgolion a gynhelir hynny a gynhelir gan Gyngor Sir Powys. Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo’r awdurdodau lleol yng Nghymru a’r cyrff llywodraethu perthnasol yng Nghymru i bennu’r dyddiadau tymhorau ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027 fel y’u nodir yn yr Atodlen i’r Cyfarwyddyd hwn.

3. Yn y Cyfarwyddyd hwn, mae i “ysgolion sefydledig” ac “ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir” yr ystyr a roddir i “foundation schools” a “voluntary aided schools”, yn y drefn honno, yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn rhinwedd adran 212(5) o Ddeddf Addysg 2002.

4. Mae’r Cyfarwyddyd hwn wedi ei wneud heb ragfarnu unrhyw gyfarwyddydau gan Weinidogion Cymru yn y dyfodol.

5. Daw’r Cyfarwyddyd hwn i rym am 9.00am drannoeth y diwrnod y caiff ei lofnodi.

Yr atodlen

Y dyddiadau tymhorau a gyfarwyddir gan weinidogion cymru ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027:

Dechrau tymor yr hydref a diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgolDydd Mawrth 1 Medi 2026
Dechrau hanner tymor yr hydref

Dydd Llun 26 Hydref 2026

 

Diwedd hanner tymor yr hydref

Dydd Gwener 30 Hydref 2026

 

Diwedd tymor yr hydref

 

Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2026 ar gyfer pob ysgol ac eithrio’r rhai ym Mhowys

Bydd tymor yr hydref yn dod i ben ddydd Mawrth 22 Rhagfyr 2026 ar gyfer ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig

Dechrau tymor y gwanwyn

 

Dydd Llun 4 Ionawr 2027
Dechrau hanner tymor y gwanwyn

Dydd Llun 8 Chwefror 2027

 

Diwedd hanner tymor y gwanwyn

Dydd Gwener 12 Chwefror 2027

 

Diwedd tymor y gwanwyn

Dydd Gwener 19 Mawrth 2027

 

Dechrau tymor yr haf

Dydd Llun 5 Ebrill 2027

 

Dechrau hanner tymor yr haf

Dydd Llun 31 Mai 2027

 

Diwedd tymor yr haf

Dydd Gwener 4 Mehefin 2027

 

Diwedd tymor yr haf a diwrnod olaf y flwyddyn ysgol

 

Dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2027 ar gyfer pob ysgol ac eithrio’r rhai ym Mhowys

Bydd tymor yr haf yn dod i ben ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2027 ar gyfer ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig

Atodiad A

Hysbysiadau am ddyddiadau tymhorau y cytunwyd arnynt

Grwpiau Awdurdodau Lleol

Grŵp Awdurdodau Lleol A

Grŵp Awdurdodau Lleol B

 

Bro MorgannwgAbertawe
CaerdyddBlaenau Gwent
CeredigionCaerffili
ConwyCasnewydd
GwyneddCastell-nedd Port Talbot
Merthyr TudfulSir Benfro
Pen-y-bont ar OgwrSir Fynwy
PowysSir Gaerfyrddin
Rhondda Cynon TafTorfaen
Sir Ddinbych -
Sir y Fflint-
Wrecsam-
Ynys Môn -

Atodiad B

Dyddiadau tymhorau/gwyliau ysgol awdurdodau lleol ar gyfer 2026 i 27 

Grwpiau awdurdodau lleol

Dyddiadau tymhorau/gwyliau ysgol

 

Grŵp awdurdodau lleol A

 

Grŵp awdurdodau lleol B

 

Dechrau tymor yr hydref a diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol

 

Dydd Mawrth 1 Medi 2026Dydd Mawrth 1 Medi 2026
Hanner tymor yr hydrefDydd Llun 26 Hydref 2026 tan ddydd Gwener 30 Hydref 2026Dydd Llun 26 Hydref 2026 tan ddydd Gwener 30 Hydref 2026

Diwedd tymor yr hydref

 

Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2026 

Dewisodd Powys yn unig ddod â thymor yr hydref i ben ar 22 Rhagfyr 2026.

Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2026 

Dechrau tymor y gwanwyn

 

Dydd Llun 4 Ionawr 2027Dydd Llun 4 Ionawr 2027
Hanner tymor y gwanwyn

Dydd Llun 8 Chwefror 2027 tan ddydd Gwener 12 Chwefror 2027

 

Dydd Llun 15 Chwefror 2027 tan ddydd Gwener 19 Chwefror 2027

 

Diwedd tymor y gwanwyn

Dydd Gwener 19 Mawrth 2027

 

Dydd Iau 25 Mawrth 2027

 

Dechrau tymor yr haf

Dydd Llun 5 Ebrill 2027

 

Dydd Llun 12 Ebrill 2027

 

Hanner tymor yr haf

Dydd Llun 31 Mai 2027 tan ddydd Gwener 4 Mehefin 2027

 

Dydd Llun 31 Mai 2027 tan ddydd Gwener 4 Mehefin 2027

 

Diwedd tymor yr haf a diwrnod olaf y flwyddyn ysgol

 

Dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2027

Dewisodd Powys yn unig ddod â thymor yr haf i ben ar 16 Gorffennaf 2027

Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2027