Neidio i'r prif gynnwy

O ganlyniad i'r Coronafeirws, mae Procurex Cymru wedi symud o ddydd Mercher 18 Mawrth i ddydd Iau 24 Medi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd Procurex Cymru 2020 i fod i gael ei gynnal ar 18 Mawrth yn Arena Motorpoint, Caerdydd. Roedd y digwyddiad i fod i gael ei ddilyn gan wobrau Go Awards Wales yng Ngwesty Mercure Holland, Caerdydd.

Oherwydd y pryderon parhaus am y firws COVID-19, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol a BiP, trefnydd y digwyddiad, rydym wedi cytuno i ohirio Procurex tan ddydd Iau 24 Medi a'r gwobrau Go Awards  tan ddydd Iau 2 Gorffennaf.

Bydd unrhyw gofrestriadau neu docynnau a brynwyd ar gyfer y naill ddigwyddiad neu'r llall yn trosglwyddo i'r dyddiad newydd Rydym yn gobeithio y bydd holl fanylion y digwyddiadau yn aros yr un fath ac yn gwirio bod siaradwyr ac arddangoswyr ar gael ar gyfer y dyddiad newydd. Ewch i'r wefan i gael diweddariadau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, ffoniwch y tîm cymorth i gwsmeriaid ar 0845 270 7095 neu e-bostiwch events@bipsolutions.com