Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Miwsig Cymru

Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 4 Chwefror 2022

P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.

Ond does dim rhaid i ti aros tan Dydd Miwsig Cymru i rannu dy gariad at gerddoriaeth Gymraeg neu i ddod o hyd i dy hoff gân newydd, dilyna @Miwsig_ neu chwilia am #Miwsig.

Rhannwch eich Atgofion Miwsig!

Bydd Dydd Miwsig Cymru 2022 yn talu teyrnged i’r lleoliadau miwsig annibynnol – sy’n aml yn ganolog i gymunedau Cymraeg – sydd wedi bod yn gartref i ddegawdau o gigs Cymraeg ac ‘atgofion miwsig’.

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, mae’r trefnwyr yn gofyn i ffans miwsig rannu eu hatgofion bythgofiadwy o gigs Cymraeg mewn lleoliadau hen a newydd: cwrdd â phartner, gwneud ffrind bore oes, neu gig a sbardunodd rywun i ddysgu Cymraeg.

Gall ffans miwsig rannu eu hatgof ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #AtgofionMiwsig

Ymuna yn yr hwyl

Mae cymaint yn mynd ymlaen i ddathlu Dydd Miwsig Cymru – dyma sut mae ymuno yn yr hwyl:

  • ymuna yn y sgwrs gyda’r hashnod #dyddmiwsigcymru
  • dilyna ni ar TwitterFacebook
  • rhanna’r dudalen hon gyda dy holl ffrindiau
  • Os oes gen ti gynlluniau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed  gen ti. Cysyllta â cymraeg@gov.cymru

Beth am wrando ar restrau chwarae arbennig Dydd Miwsig Cymru

Dyma gyfres o restrau chwarae o artistiaid Cymreig gwych:

Rhestr chwarae Goreuon Cymru: ar Spotify
Gwranda ar ein rhestr chwarae ddwyieithog Goreuon Cymru, sy'n cynnwys bandiau fel Catatonia, Alffa a'r Super Furry Animals
Rhestr chwarae Seren a Sbarc: ar Spotify
Mae'r rhestr chwarae yma'n wych ar gyfer disgo ysgol neu barti penblwydd i blant.
Rhestr chwarae Gweithio o adre: ar Spotify
Mae'r rhestr chwarae yma'n berffaith os wyt ti’n gweithio o adre.

Mae ein holl restrau chwarae ar Spotify.

Mae’r gwaith o chwilio am seren bop nesaf Cymru ar gyfer Dydd Miwsig Cymru wedi dechrau.

Gallai eich ysgol gynradd ennill £250 ac ymddangos ar raglen Stwnsh Sadwrn S4C ar 5 Chwefror.

Gellir dy fusnes gymryd rhan yn Dydd Miwsig Cymru

Os bydd dy fusnes yn dathlu o'r gweithle neu o gartref, mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan.

Lawrlwythwch y pecyn partneriaid a rhanddeiliaid busnes.