Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Miwsig Cymru yn agos at galon y Gweinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Sefydlodd y Gweinidog glwb recordiau Cymraeg yn ei hen ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, i annog ei chyd-ddisgyblion a oedd, lawer ohonyn nhw, o gartrefi di-Gymraeg, i fwynhau'r Gymraeg y tu allan i'r gwersi. Roedd hefyd yn arfer gwerthu cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg deufisol Sgrech yn yr ysgol a threfnodd dripiau bws o Gaerdydd i noson wobrwyo flynyddol Sgrech yn y Gogledd. 

Mewn rhifyn arbennig o'r cylchgrawn, a gyhoeddwyd yn 2005, 20 mlynedd ar ôl i'r cylchgrawn ddod i ben, ysgrifennodd y Gweinidog am ei diddordeb hi yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Fe ysgrifennodd:

“Mi roedd yr wythdegau yn gyfnod llawn cynnwrf yn y byd pop Cymraeg. Roedd gigs yn cael eu trefnu bron bob penwythnos yn rhywle, ac mi roedd hwn yn ffynhonnell gyswllt pwysig i’r rhai ohonom oedd yn dilyn pop Cymraeg.

“Roedd yr ysgol roeddwn i yn ei mynychu, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol lle roedd dros 80 y cant yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Os nad oedd y plant yn ymddiddori yn yr ysgol, doedden nhw ddim yn debygol o ymddiddori yn y Gymraeg.

“Mi ddechreuais Glwb Recordiau Cymraeg yn yr ysgol, a gan mai dyma oedd yr unig esgus roedd plant yn gallu defnyddio i beidio a mynd mas i’r oerfel mi ddaeth llawer o blant i’r clwb. Fe ddechreuon nhw sylweddoli fod y Gymraeg yn rhywbeth oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r dosbarth.... Un uchafbwynt o’r Clwb Recordiau yma oedd mynd i Noson Wobrwyo Sgrech. Roedd hi’n brofiad anhygoel i grŵp bach ynysig yn y ddinas yn mynd i ben draw Cymru i weld miloedd o siaradwyr Cymraeg mewn un lle yn ymddiddori yn yr un pethau â ni.”

A'r cyfrifoldeb dros hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'i phortffolio erbyn hyn, mae hanes yn ailadrodd ei hun, ar raddfa dipyn yn fwy i'r Gweinidog.

Mae'r sîn ei hun hefyd ar raddfa fwy. I nodi Dydd Miwsig Cymru, bydd Spotify yn rhyddhau ffigurau ar nifer yr oriau o gerddoriaeth Gymraeg cafodd ei ffrydio ganddynt yn ystod 2017. Bydd Shazam hefyd yn rhyddhau rhestr o'r prif 20 artist y chwiliwyd amdanynt yn 2017, a bydd NME yn rhannu â'u 900,000 o ddilynwyr sut y gallant ddathlu'r diwrnod.

Nid oes angen trefnu tripiau bws ar draws Cymru i fynd i gigiau erbyn hyn. Bellach, mae cerddoriaeth Gymraeg ar gael i'r byd i gyd drwy gyffwrdd botwm. Caiff chwe rhestr chwarae eu llunio'n arbennig, gan gynnwys acwstig, electronica, caneuon o gwmpas y tân, cerddoriaeth ymlacio, cerddoriaeth ymarfer corff a hen ganeuon enwog, a byddant ar gael ar Spotify, Apple Music a Deezer drwy god Shazam. Rhoddir sylw i'r diwrnod ar BBC Breakfast a gorsafoedd radio'r BBC ledled y DU.

Mae yna gigiau hefyd ar gyfer y rheini y mae'n well ganddyn nhw gerddoriaeth fyw. Bydd yna gigiau am ddim i blant ac oedolion ledled Cymru. Bydd yna ddigwyddiadau mor bell i ffwrdd â Budapest a Brooklyn.

Dywedodd y Gweinidog:

"Fe ddaeth â'r erthygl yn ôl ag atgofion hyfryd - er, nid o fy steil gwallt! Dw i wastad wedi bod mor frwd yn annog eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, a'i defnyddio mewn sefyllfaoedd cymdeithasol yn hytrach nag yn yr ysgol neu yn y gwaith yn unig.

"Er mwyn cyrraedd y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae angen newid diwylliant, ac all y Llywodraeth ddim â gwneud hynny ar ei phen ei hun. Dyna pam dw i'n galw ar bawb sy'n siarad Cymraeg i wneud ei ran i annog neu helpu rhywun i ddysgu Cymraeg.

"Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle i wneud hynny'n union, felly dw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohono eleni. Fel y gwelais i gyda fy nghyd-ddisgyblion, mae cerddoriaeth yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno pobl i'r iaith mewn sefyllfa gymdeithasol a dangos bod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu.

"Mae'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn dangos mor amrywiol yw cerddoriaeth Gymraeg. Mae yna rywbeth i bawb, lle bynnag yr ydych chi a beth bynnag yw eich math chi o gerddoriaeth. Dw i am bwyso ar bawb, felly, i fynd i gig neu lawrlwytho rhestr chwarae. Does dim rhaid ichi godi oddi ar y soffa i gymryd rhan!"