Neidio i'r prif gynnwy

Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer pobl ifanc yn cael ei ymestyn i gynnwys pawb rhwng 16 a 21 mlwydd oed sy'n byw yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Arferai'r cynllun fod ar agor i bobl ifanc rhwng 16 ac 18 mlwydd oed, ac fe wnaeth Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth y cyhoeddiad heddiw (12 Tachwedd) bod y cynllun nid yn unig yn parhau tan fis Mawrth 2020, ond y bydd ar gael i lawer mwy o bobl.  

Dechreuodd y cynllun gostyngiad ar draean y pris yn 2015, pan benderfynodd Llywodraeth Cymru lansio cynllun peilot i deithio'n rhatach ar fysiau ar gyfer pobl ifanc 16, 17 ac 18 mlwydd oed, ar gyfer unrhyw daith yng Nghymru. Gallai'r estyniad ddigwydd o ddechrau Rhagfyr 2018. 

Nid oes yn rhaid i ddeiliaid Fy Ngherdyn Teithio sydd â cherdyn 16 i 18, ac sydd am fanteisio ar y cynllun cyffrous hwn, wneud dim ar hyn o bryd, ond dylent ail-ymgeisio ychydig cyn i'w cerdyn presennol ddod i ben.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: 

"Dwi'n falch o gyhoeddi, yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennyf y llynedd, a thrafodaethau gyda'r diwydiant bysiau, ein bod wedi gallu cynyddu'r oedran uchaf ar gyfer teithio'n rhatach ar fysiau o 18 i 21 mlwydd oed. 

"Hoffwn ddiolch i'r diwydiant bysiau am gytuno i'r gwelliant hwn. Rydym yn gwerthfawrogi eu cydweithrediad, gan bod eu cyfraniad yn wirfoddol, er mai Llywodraeth Cymru sy'n talu. 

"Byddwn yn parhau â'n trafodaethau gyda'n partneriaid yn y diwydiant bysiau yn ystod 2019, i nodi unrhyw welliannau pellach, sydd o bosibl yn cynnwys rhai o'r prif faterion a gododd yn ystod yr ymgynghoriad ac a fyddai'n bosibl inni eu cyflawni ar y cyd.

“Bydd gwelliant heddiw i'r cynllun Fy Ngherdyn Teithio nid yn unig yn helpu pobl ifanc sy'n hyfforddi neu mewn prentisiaethau, ac yn ystod y cyfnod o newid i fyd gwaith, ond bydd gobeithio hefyd yn annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau ar gyfer mwy o'u teithiau. Yn y ffordd yma, byddant yn helpu i fynd i'r afael â thagfeydd ac ansawdd yr aer yn ein trefi a'n dinasoedd.”

Sefydlwyd y cynllun Fy Ngherdyn Teithio yn wreiddiol fel rhan o gytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad.

I gael gwybod ar ba ddyddiad y gellir gwneud ceisiadau, ewch i https://fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/