Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn chi am y pecyn terfynol o fesurau i wella ansawdd yr aer ar ffyrdd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddiwedd mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun atodol interim ar gyfer mynd i'r afael â'r crynodiadau o nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd ochr yn ochr â Chynllun 2017 Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru ar yr un pwnc.

Roedd y cynllun atodol yn cynnwys mesurau posibl i sicrhau ein bod, mewn cyn lleied o amser â phosibl, yn cydymffurfio â'r gwerthoedd terfyn o nitrogen deuocsid (NO2) mewn pum lleoliad ar hyd rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Cymru.

Pan fo crynodiadau o NO2 yn adrannau o'r rhwydwaith hwnnw yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yng Nghyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd a Rheoliadau Cymru, rydym wedi gweithredu ar unwaith i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy gyflwyno terfynau cyflymder dros dro o 50mya. Roedd y terfyn cyflymder hwn wedi gwella'r gwerthoedd terfyn yn hynny o beth.

Mae'r ymgynghoriad ar y pecyn terfynol o fesurau i wella ansawdd yr aer yn y pum lleoliad hyn, a elwir yn Gam 3 WelTAG, yn ychwanegu at yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2018 ar ganfyddiadau Cam 1 a Cham 2. Bydd hefyd yn gofyn am farn am y terfynau cyflymder o 50mya.

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

"Mae'n amhosib gorbwysleisio sut mae’r amgylchedd wedi cyfrannu at wella iechyd pobl. Mae gwella ansawdd yr aer yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Byddwn yn lleihau allyriadau ac yn gwella ansawdd yr aer drwy fesurau sy'n ymwneud â chynllunio a'r seilwaith a thrwy reoliadau.

Ynghyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, rydym yn mynd ati'n rhagweithiol i gyflawni ein hamcan ar y cyd gyda Llywodraeth y DU i drawsnewid trefi a dinasoedd mwyaf llygredig y DU i fod yn ardaloedd trefol glân ac iach. Byddwn hefyd yn helpu'r rheini yr effeithir fwyaf arnynt.

Hoffem wybod eich barn am y mesurau terfynol arfaethedig i geisio cydymffurfio mewn cyn lleied o amser â phosibl â'r gwerthoedd terfyn a nodir yn y Gyfarwyddeb a'r Rheoliadau ym mhob un o'r pum lleoliad."

Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:

"Rwy'n croesawu barn pobl am y mesurau arfaethedig hyn sydd â'r nod o leihau lefelau nitrogen deuocsid i fod o fewn y terfynau cyfreithiol a hynny o fewn cyn lleied o amser â phosibl. Mae'n bwysig cofio'r mai'r prif reswm dros weithredu yw gwella ansawdd yr aer a lleihau'r effaith niweidiol y gall allyriadau cerbydau ei chael ar iechyd a llesiant pobl."

Hoffem glywed eich barn ar sut yr ydych yn credu y dylem wneud hyn: https://beta.llyw.cymru/mynd-ir-afael-chrynodiadau-nitrogen-deuocsid-yng-nghymru-cam-3-weltag.