Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwahodd pobl i rannu eu safbwyntiau ar gynigion ar gyfer trydydd pont ar draws y Fenai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n dechrau heddiw yn parhau tan ddydd Gwener, 9 Mawrth a bydd yn edrych ar y pedwar opsiwn ar gyfer cynyddu capasiti a sicrhau bod y rhwydwaith yn well ar draws yr Afon Menai, gyda’r nod o gyhoeddi llwybr a ffefrir erbyn yr haf 2018.

Yr opsiynau yw:-

Opsiwn Coch:

  • Pont newydd yn union i’r gorllewin o Bont Britannia
  • Gwelliannau i Gyffordd 8A ar yr A55

Opsiwn Pinc:

  • Estyniad i Bont Britannia / pont newydd yn union i’r dwyrain o’r bont bresennol i ddarparu lonydd ychwanegol ar gyfer traffig  
  • Gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55

Opsiwn Oren:

  • Pont newydd yn union i’r dwyrain o Bont Britannia
  • Gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55

Opsiwn Porffor:

  • Pont newydd i’r dwyrain o Bont Britannia
  • Gwelliannau i Gyffordd 8 a 8A yr A55

Mae pob Opsiwn yn cynnwys cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr groesi’r Afon Menai naill ai ar y bont newydd neu ar Bont Britannia.  

Mae’r cam dylunio a datblygu gwerth £3 miliwn ar gyfer y drydydd bont yn rhan o’r gyllideb ddwy flynedd y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru a Plaid Cymru.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Dwi wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygu trydydd pont ar draws y Fenai ddaw â nifer o fanteision i’r ardal, gan gynnwys mynd i’r afael â thagfeydd ar Bont Britannia a sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn barod am brosiectau mawr megis Wylfa Newydd.  

“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £600 miliwn mewn gwelliannau seilwaith trafnidiaeth ar draws y Gogledd dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod gan y rhanbarth y system drafnidiaeth fodern o safon uchel y mae ei hangen i ddatblygu ei photensial ar gyfer twf economaidd.  

“Mae’r drydydd bont ar draws y Fenai yn rhan hollbwysig o’n cynlluniau i wella capasiti, dibynadwyedd ac amseroedd teithio yn ogystal â sicrhau bod y rhwydwaith yn well.  Rydym yn anelu at ddechrau ar yr adeiladu erbyn diwedd 2020.  

“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i’r ardal ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.  Bydd y safbwyntiau hyn yn rhan bwysig o’r broses o bennu llwybr a ffefrir.”

Mae croeso hefyd i bobl fynd i’r Arddangosfeydd Ymgynghori Cyhoeddus sydd hefyd yn cael eu cynnal yn y Neuadd Goffa yn Llanfairpwll ar yr 16eg a’r 17eg o Ionawr, a Thŷ Menai ym Mharc busnes Parc Menai ar 23 & 24 Ionawr rhwng 10am-8pm.

Mae rhagor o fanylion am y cynigion, arddangosfeydd cyhoeddus a sut i rannu eich barn i’w gweld ar: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/trydedd-pont-dros-y-fenai-yr-a55