Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl yn cael eu gwahodd i roi eu barn ar gynlluniau i wella cynllun yr A55 ar Gyffyrdd 15 Llanfairfechan ac 16 Penmaenmawr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n dechrau ddydd Llun 4 Mehefin ac yn rhedeg tan ddydd Gwener 24 Awst yn edrych ar yr opsiynau posibl i gael gwared ar ddwy gylchfan ar gyffrydd 15 ac 16 a chreu cyffyrdd ar wahân yn eu lle.  

Mae naw opsiwn yn cael ei ystyried, pump ar gyfer Cyffordd 15 a phedwar ar gyfer cyffordd 16.  

Bydd y cyffyrdd newydd yn golygu teithio mwy diogel ar hyd yr A55, ac i bobl sy’n defnyddio’r ffordd i deithio yn ôl ac ymlaen i Ddwygyfylchi, Llanfairfechan a Phenmaenmawr. Bydd hefyd yn gwella amseroedd teithio a gallu’r ffordd i wrthsefyll pethau.  

Mae Teithio Llesol yn hollbwysig i gynllun gwelliant cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 ac mae’r opsiynau sy’n cael eu cynnig yn ceisio gwella llwybrau teithio llesol presennol fydd yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer cerdded a beicio.  

Mae Arddangosfeydd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus yn cael eu cynnal i bobl weld yr opsiynau sy’n cael eu hystyried yn fanwl a’r amserlen.  Cynhelir rhain yn Eglwys y Plwyf Sant Gwynin, Dwygyfylchi ar 12 Mehefin, Canolfan Gymunedol Penmaenmawr ar 13 Mehefin a Chanolfan Gymunedol Llanfairfechan ar 14 Mehefin. Cynhelir pob un rhwng 10 y bore ac 8 yr hwyr. Mae’n rhad ac am ddim i fynd i’r arddangosfeydd ac mae croeso i bawb.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae cynllun gwella Cyffordd 15-16 ar yr A55 yn ddatblygiad sylweddol yng Ngogledd Cymru ac  yn enghraifft wych o’r camau yr ydym yn eu cymryd i fuddsoddi a gwella ein seilwaith trafnidiaeth.  

“Mae’r A55 yn ffordd strategol bwysig sy’n cysylltu Cymru ag Iwerddon, Lloegr a gweddill Ewrop, a bydd y cynllun hwn yn rhoi sawl mantais gan gynnwys gwella llif y traffig a pha mor ddibynadwy yw amseroedd teithio yn ogystal â gwella diogelwch.  

“Bydd safbwyntiau pobl ar yr opsiynau sy’n cael eu hystyried yn rhan hollbwysig o’r broses drafod ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.”  

Cefnogir cynllun gwelliant cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 gyda £26m o arian UE.