Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research (UK) Ltd i adolygu rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod yr adolygiad yw gwerthuso aliniad strategol rhaglen y Dyfarniad Corfforaethol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru; gwerthuso ei ganlyniadau dysgu a'i effaith; ac i helpu i lywio cyfeiriad y rhaglen yn y dyfodol. Fel rhan o'r adolygiad hwn, mae Miller Research wedi creu arolwg ar-lein ar gyfer unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen, yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, naill ai fel myfyriwr, cyflogwr neu arweinydd caffael o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Gall ymatebion fod yn ddienw, ac mae'r hysbysiad preifatrwydd cysylltiedig yn esbonio sut y caiff ymatebion eu rheoli.

Cwblhewch yr arolwg yma.

Mae Miller Research hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer cyfweliadau byr ar-lein, er mwyn cael cipolwg dyfnach ar farn rhanddeiliaid. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â: susannah@miller-research.co.uk