Neidio i'r prif gynnwy

Dyma’ch cyfle chi i ddylanwadu ar welliannau i wasanaeth rheilffordd Cymru yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwahoddir teithwyr a phartïon sydd â diddordeb ledled Cymru a’r Gororau i roi eu sylwadau ynghylch yr hyn y maent yn disgwyl ei weld gan y Gwasanaeth Rheilffordd nesaf, sef Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a’r Gororau.  

Mae ymgynghoriad Trafnidiaeth Cymru sydd hefyd yn rhoi ystyriaeth ar wahân i brosiect Metro De-ddwyrain Cymru, yn gofyn am safbwyntiau ar ystod o faterion gan gynnwys pa mor aml y dylid cynnal gwasanaethau rheilffordd, cyfleusterau gwefru ffonau symudol, gwybodaeth fyw am deithio a phrisiau tocynnau. Mae gwasanaeth Trenau Arriva Cymru i fod i ddod i ben ddiwedd mis Hydref 2018. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 

“Rwy’n falch bod Trafnidiaeth Cymru yn cynnal yr ail ymgynghoriad ar Wasanaeth Rheilffordd Cymru a’r Gororau, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd y rhwydwaith i deithwyr. Rwy’n achub ar y cyfle i ddiolch i bartïon sydd â diddordeb am adborth gwerthfawr iawn yn ystod y broses ymgynghori gyntaf, ac am gymryd rhan mor frwdfrydig hyd yn hyn.

“Rydym wedi etifeddu masnachfraint a osodwyd ar sail sydd heb newid nad yw bellach yn diwallu anghenion y Gymru fodern. Mae cyfle euraid yma i sicrhau bod y contract nesaf, y contract cyntaf o’i fath i Lywodraeth Cymru, yn cael ei ddatblygu mewn modd sy’n rhoi’r teithiwr wrth galon popeth. 

“O gofio hyn, rydym yn awyddus i sicrhau bod ein gwasanaeth newydd yn rhoi ystyriaeth lawn o’r hyn sydd ei angen ar deithwyr, ei fod yn darparu ar gyfer anghenion cyfredol ac yn gallu addasu i’r byd technolegol sy’n newid o hyd a thyfu a gwella fel bo’r angen yn y dyfodol. 

“Bydd ein rhaglen ymgysylltu eang yn bwydo’n uniongyrchol i’r broses gaffael, lle y bydd disgwyl i bedwar ymgeisydd ddangos sut y byddant yn cyflenwi gwasanaeth fydd yn diwallu anghenion cwsmeriaid.”

Er mwyn sicrhau bod cyn gymaint â phosibl o safbwyntiau yn cael eu casglu bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru ac yn rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd fersiwn hawdd ei ddeall a fersiwn i bobl ifanc yn cael eu cyhoeddi hefyd er mwyn annog adborth gan ystod eang o bartneriaid a defnyddwyr y gwasanaeth. 

Gellir gweld dogfennau llawn yr ymgynghoriad fan hyn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/trafnidiaeth-cymru-cynllun-ar-gyfer-gwasanaeth-rheillffordd-cymru-ar-gororau-gan