Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn annog pawb yn y canolbarth a’r de-orllewin i fynd ati i ddweud eu dweud am sut y dylid datblygu economïau'r ddau ranbarth yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, yn gweithio gyda phartneriaid yn y canolbarth a’r de-orllewin i ddatblygu cyfres o flaenoriaethau a fydd yn allweddol er mwyn helpu economïau'r ddwy ardal i wella o effeithiau’r coronafeirws ac i ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y fframweithiau economaidd rhanbarthol yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau ffyniant i bawb, a byddant yn pennu pa gamau y mae angen eu cymryd er mwyn i'r rhanbarthau ffynnu. Byddant hefyd yn amlinellu sut i gyrraedd y nod hwnnw, a'r rôl bwysig a fydd gan sefydliadau, busnesau a chymunedau lleol i’w chwarae yn hynny o beth.

Gwahoddir unigolion a grwpiau, gan gynnwys plant a phobl ifanc, i rannu eu safbwyntiau ar sut, yn eu barn nhw, y gellir gwneud newid cadarnhaol ar gyfer dyfodol y ddau ranbarth.

Bydd pobl yn gallu mynegi barn, yn ogystal â rhannu eu dealltwriaeth a'u profiad, am ystod eang o faterion sy'n gysylltiedig â datblygu economaidd, gan amrywio o dwristiaeth a thrafnidiaeth i addysg a'r amgylchedd.

Bydd safbwyntiau pawb a fydd yn cymryd rhan o gymorth uniongyrchol gyda’r gwaith o ddatblygu’r fframweithiau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae fframweithiau economaidd rhanbarthol yn rhan bwysig o'm hymrwymiad i fabwysiadu dull mwy rhanbarthol o ddatblygu’n heconomi.

"Mae’n Prif Swyddogion Rhanbarthol a'u timau wedi sefydlu perthynas waith effeithiol gyda busnesau a phartneriaid ar draws y rhanbarth, a dw i am adeiladu ar hynny.

"Bydd y fframweithiau hyn yn hanfodol er mwyn dylanwadu ar weithgarwch yn y canolbarth a’r de-orllewin ac er mwyn llywio’n polisïau, ein rhaglenni a'n blaenoriaethau gwario. Er mwyn llwyddo, mae’n hollbwysig ein bod yn cynnwys pawb sydd â diddordeb, a dw i’n falch iawn bod Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y broses honno.

"Rydyn ni am weld unigolion a grwpiau ledled y canolbarth a’r de-orllewin yn cymryd rhan ac yn meddwl am yr heriau sy'n ein hwynebu, am sut rydym am fynd ati i’w hwynebu, a sut rydym am sicrhau bod ein heconomi'n ffynnu yn y dyfodol.

"Mae cydweithio’n hanfodol os ydym am fynd â’r maen i’r wal a dyna pam mae mor bwysig bod pawb sydd â diddordeb yn ymuno yn y sgwrs hon.

"Bydd y fframweithiau hyn yn sail i'n gwaith dros y blynyddoedd sydd i ddod ac yn allweddol er mwyn datblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer economi ffyniannus yn y dyfodol.

Er mwyn bod yn rhan o’r drafodaeth, gall pobl naill ai gymryd rhan ar-lein, gofyn am becyn gweithgareddau i’w drafod gyda'u cydweithwyr, eu ffrindiau neu eu cymunedau neu fynd i un o 12 digwyddiad a fydd yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth ym misoedd Hydref a Thachwedd.

Nod Llywodraeth Cymru yw sefydlu'r fframweithiau economaidd rhanbarthol yn gynnar yn 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i wefan Busnes Cymru  neu anfonwch e-bost