Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am ei chynlluniau i wneud Cymru y brif wlad ailgylchu yn y byd ac i ddod yn economi gylchol, mewn cyfres o sesiynau ymgynghori ar 'Fwy nag Ailgylchu'
Dyma'ch cyfle chi i fynegi'ch barn am yr hyn sydd angen ei wneud i leihau ymhellach ein defnydd o blastig untro, i helpu ac addysgu cymunedau a busnesau i wneud gwahaniaeth ac i weithio gyda'n gilydd i roi blaenoriaeth i gynhyrchu llai o wastraff ac i ailgylchu.
Mae'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn disgrifio sut y gallwn ddod â'r economi gylchol i Gymru ac yn nodi'r camau nesaf ar gyfer dileu gwastraff a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Amcan economi gylchol yw defnyddio adnoddau gyhyd ag y medrwn, dileu gwastraff a gwneud defnyddio adnoddau'n effeithlon yn rhan o ddiwylliant Cymru. I helpu i gwrdd â'r amcanion hyn, bydd y strategaeth yn disgrifio cynigion i edrych yn fanylach sut mae adnoddau'n cael eu defnyddio, annog pobl i ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu mwy o gynnyrch a deunydd a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol y bydd economi gylchol yn eu cynnig.
Cynhelir nifer o ddigwyddiadau i glywed barn y cyhoedd ynghylch sut y gall Cymru barhau i fod yn arweinydd byd ym maes ailgylchu a symud at fod yn ddiwastraff erbyn 2050.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
Mae Cymru’n arweinydd byd ym maes ailgylchu, ond rydym am wneud mwy na hynny a bod yn economi gylchol - lle rydym yn defnyddio llai o wastraff, plastig a deunydd pacio ac yn eu defnyddio gyhyd ag y medrwn.
Cofleidiodd Cymru'r egwyddor a dangos y ffordd trwy godi tâl am fagiau siopa untro ac rydym am glywed beth arall y gallwn ni ei wneud i wireddu'n huchelgais i fod yn genedl ddiwastraff.
Rwy'n gwybod bod cymunedau a busnesau ledled Cymru’n gweithredu ac rwyf am weld cymaint o bobl â phosibl yn dod i’r digwyddiadau hyn. Yn ogystal â bod yn gyfle i ddweud eich dweud, bydd yn gyfle ichi chwarae’ch rhan i wneud yn siŵr bod Cymru’n arwain yr agenda amgylcheddol.
Dewch i ddweud eich dweud:
- Dydd Mercher, 26 Chwefror 6pm - 7.30pm ar faes Primin Môn - y Neuadd Arddangos Fach, Ynys Môn.
- Ddydd Iau, 27 Chwefror, 12yh - 4yh, ym Mhrifysgol Bangor - ystafell Cemlyn Jones, Bangor.