Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfle i berchnogion busnesau bach a’r rhai sy’n talu ardrethi ddweud eu dweud am gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru, sef Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Bach

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2017-18, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy na £110 miliwn o ryddhad ardrethi i fusnesau bach. Bydd lefel y buddsoddiad yr un fath ar gyfer y cynllun newydd parhaol.


Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw i weld a allai’r cynllun roi mwy o gymorth i’r busnesau bach hynny sydd fwyaf o’i angen. 


Gallai hyn olygu ailgyfeirio’r cymorth oddi wrth rai busnesau, er enghraifft cadwyni mawr sydd â nifer o safleoedd bychain trwy Gymru, er mwyn helpu busnesau sy’n fwy tebygol o elwa.


Byddai’r arian yn cael ei ailfuddsoddi wedyn er mwyn gwneud y cynllun yn fwy hael i fusnesau bach megis siopau lleol, caffis a bwytai, sydd efallai’n gweithredu mewn un neu ddau o safleoedd yn unig.


Wrth ystyried sut y gellid gwneud y cynllun yn fwy hael, mae’r ymgynghoriad yn trafod hefyd a ellid cynyddu’r gwahanol drothwyon ar gyfer rhyddhad, faint fyddai hynny’n ei gostio ac a fyddai mwy o fusnesau’n elwa yn sgil hynny.  


Mae’r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a ddylai rhai mathau ychwanegol o fusnesau gael eu heithrio o’r cynllun. Mae’r eithriadau ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo annomestig fel meysydd parcio a mastiau ffôn, yn ogystal ag eiddo cynghorau, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a’r Goron. 


Yn ogystal, mae’r ddogfen ymgynghori yn gofyn sut y gallai’r cynllun parhaol gael ei ddefnyddio i gynorthwyo diwydiannau neu sectorau penodol, megis gofal plant, petai tystiolaeth gadarn o blaid gwneud hynny.


Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn hefyd i’r rhai sy’n talu ardrethi a oes ganddynt unrhyw safbwyntiau eraill ynghylch sut y gellid parhau i ddatblygu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi yn y dyfodol i wneud yn siŵr ei fod yn ymateb i anghenion busnesau. Gofynnir cwestiynau megis a ddylai’r cymorth fod yn barhaol neu a ddylid rhoi cyfyngiad amser arno. Holir hefyd a ddylid canolbwyntio ar fusnesau sy’n gydnaws â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru - boed y rheini’n rhai cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol.

Wrth lansio’r ymgynghoriad heddiw, dywedodd Mark Drakeford:

“Rydym yn awyddus i roi cymaint o sicrwydd a diogelwch ag sy’n bosibl i fusnesau bach. Un o’r ffyrdd gorau o wneud hyn yw trwy gadarnhau y byddwn yn cyflwyno cynllun Rhyddhad Ardrethi newydd yn 2018 ac, wrth wneud hynny, yn ymestyn toriad trethi a fydd yn help i hybu twf economaidd Cymru yn y tymor hir.  

“Rydyn ni’n cychwyn proses ymgynghori eang heddiw gyda’r rhai sy’n talu trethi, cynrychiolwyr busnesau, trethdalwyr eraill ac awdurdodau lleol. Mae eu barn nhw yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun ac rydyn ni’n awyddus i gydweithio’n agos â nhw mewn modd adeiladol sy’n rhoi sylw i’w barn. Rwy’n annog pawb i ddweud eu dweud cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ddydd Gwener 13 Hydref.”

Dywedodd Purnima Tanuku OBE, Prif Weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd: 

“Ry’n ni’n croesawu’r ymgynghoriad hwn yn fawr. Byddai cael rhyddhad ar ardrethi busnes yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r sector gofal plant, sy’n dioddef o ddiffyg cyllid a chynnydd mewn costau. Mae meithrinfeydd yn bwysig iawn i’r economi  gan eu bod yn cyflogi miloedd o bobl ac yn galluogi rhieni i weithio. Mae ardrethi busnes wedi bod yn cynyddu ar adeg pan nad yw meithrinfeydd yn gallu fforddio talu mwy. Mae hynny’n effeithio ar y ffioedd sy’n cael eu codi ar rieni, felly byddai rhyddhad yn hwb i fantolenni ariannol y meithrinfeydd ac yn cadw’r costau’n fforddiadwy i deuluoedd.”