Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg o arweinwyr ysgolion a staff ynghylch gweithredu'r dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol yn eu lleoliadau.

Prif ganfyddiadau

Cyfathrebu rhwng ysgolion a'u tîm mewngymorth CAMHS

  • Ni adroddwyd yn gyson bod ysgolion a'u tîm CAMHS yn cyfathrebu'n aml.
  • Roedd ymatebwyr o ysgolion uwchradd yn fwy tebygol o sôn am gyfathrebu yn aml o'u cymharu ag ysgolion cynradd, lle nododd dros draean o'r ymatebwyr fod cyfathrebu'n digwydd yn anaml neu ddim o gwbl.
  • Roedd lefel uchel o foddhad ag ansawdd y cymorth a ddarparwyd, yn enwedig gan ymatebwyr o ysgolion uwchradd.
  • Nodwyd gwahaniaethau rhanbarthol, gydag ysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru yn adrodd eu bod yn cyfathrebu'n amlach.

Gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol i ddysgwyr

  • Roedd argaeledd gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol i ddysgwyr yn amrywio'n sylweddol.
  • Dywedodd pob ysgol uwchradd eu bod yn cynnig gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol i ddysgwyr unwaith yr wythnos neu'n amlach, ond nid oedd gwasanaethau cwnsela ar gael fel arfer i ddysgwyr oed cynradd neu ar gael ar gais yn unig. 
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, fod y galw am gwnsela yn uwch na'r ddarpariaeth oedd ar gael.

Cyllid i gefnogi datblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol

  • Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi gweithgarwch mewn ysgolion i sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol. Nododd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr nad oedd eu hysgol yn defnyddio'r cyllid, ac nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn ymwybodol ohono. Dylai'r canfyddiad hwn gael ei ddehongli'n ofalus gan efallai nad oedd yr ymatebwyr mewn sefyllfa dda i wybod a yw eu hysgolion wedi gwneud cais am y cyllid hwn, neu mae'n bosibl hefyd fod yr awdurdod lleol wedi dosbarthu'r cyllid i'r ysgolion fel rhan o ddyraniad ehangach heb nodi bwriad yr arian.
  • Roedd gwahaniaethau rhanbarthol, gydag ymatebwyr o ysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru yn fwy tebygol o adrodd bod eu hysgol wedi defnyddio'r cyllid.
  • Ymhlith y lleiafrif o ysgolion a oedd wedi manteisio ar y cyllid, fe'i defnyddiwyd amlaf ar gyfer hyfforddi staff.

Defnyddio canllawiau 'Ymateb i faterion hunan-niweidio a theimladau hunanladdol ymhlith pobl ifanc' a'r modiwlau dysgu emosiynol ac iechyd meddwl ar Hwb

  • Yn gyffredinol, roedd y defnydd o'r ddau adnodd yn isel ac roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn dweud mai ychydig o ddefnydd yn unig roeddent yn ei wneud o'r adnoddau neu ddim o gwbl.
  • Roedd y defnydd o'r ddau adnodd yn isel, er bod y defnydd yn llawer uwch mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig ar gyfer y canllawiau hunan-niweidio / hunanladdiad.
  • Roedd y rhan fwyaf o ysgolion a oedd yn defnyddio'r canllawiau hunan-niweidio / hunanladdiad yn eu hystyried yn ddefnyddiol, yn enwedig ymhlith ysgolion uwchradd, tra bod y modiwlau yn cael eu hystyried yn llai defnyddiol.

Strategaeth ysgolion a chynnwys dysgwyr ar gyfer iechyd a lles

  • Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion, yn enwedig ysgolion cynradd, arweinydd strategol a chynllun / targedau iechyd a lles ysgrifenedig y mae cynnydd yn cael ei asesu yn eu herbyn yn flynyddol o leiaf.
  • Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn cynnwys eu dysgwyr wrth ddatblygu cynllun gweithredu / targedau ysgrifenedig yr ysgol ar gyfer iechyd a lles, gyda dysgwyr yn ymwneud yn fwyaf cyffredin â chefnogi gweithredu, a monitro / adolygu'r cynllun gweithredu neu'r targedau.

Adroddiadau

Dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol: bwletin ymchwil (rhan 2) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 769 KB

PDF
769 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Daniel Burley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.