Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1 - pa gamau y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cadernid Meddwl 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Ebrill 2018), mae gwaith wedi mynd rhagddo i edrych ar sut y caiff anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc eu diwallu. Mae’r gweithgarwch wedi canolbwyntio ar yr hyn y mae’r Pwyllgor wedi’i alw’n “ganol coll”, sef pobl ifanc â chyflwr emosiynol a meddyliol gwael, ond nad oes ganddynt salwch meddwl y gellir gwneud diagnosis ohono ac na fyddent yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ymyrraeth gwasanaeth arbenigol. O ganlyniad, ychydig yw’r cymorth y mae’r bobl ifanc hyn yn ei gael yn aml, os o gwbl. Yn benodol, cyfeiriodd y Pwyllgor at rôl addysg o ran cefnogi'r bobl ifanc hyn.

Yn sgil hyn, gyda’i gilydd fe sefydlodd y Gweinidogion Addysg ac Iechyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Emosiynol a Meddyliol i’w cynghori ar y gwaith sydd ei angen er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc. Erbyn mis Ionawr 2021, mae'r grŵp wedi cyfarfod wyth gwaith. 

Ym mis Mehefin 2019 cyhoeddodd Estyn ei adroddiad, Iach a Hapus, ar sut mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn cefnogi iechyd a lles disgyblion. Dangosodd hwn fod gan tua dwy o bob tair o ysgolion cynradd, ac un o bob tair o ysgolion uwchradd, ddull gweithredu ysgol gyfan a chynhwysol o ran iechyd a lles disgyblion. Nod yr ysgolion hyn yw sicrhau bod y profiad ysgol bob dydd yn gyson â negeseuon am iechyd a lles mewn gwersi a gwasanaethau ac ym mholisïau'r ysgol.

Er mwyn hyrwyddo cysondeb a thegwch, ym mis Mehefin 2019 cytunodd y Gweinidogion ar ddatblygu fframwaith, ac adnoddau cynorthwyol i helpu ysgolion i sefydlu eu dulliau ysgol gyfan eu hunain. Bydd y fframwaith yn helpu ysgolion i adolygu eu sefyllfa eu hunain o ran lles, ac i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau. Mae'n nodi rôl Llywodraeth Cymru, ALlau, Consortia, y GIG ac eraill, fel y trydydd sector, wrth gefnogi'r ysgol. Mae hefyd yn cydnabod na all yr ysgol ar ei phen ei hun ddiwallu holl anghenion yr hyn sy'n boblogaeth gymhleth o bobl ifanc. Bwriedir i’r fframwaith hefyd ddiwallu anghenion lles athrawon a staff eraill yr ysgol lawn cymaint â rhai disgyblion.

Mae datblygu'r fframwaith wedi golygu cydweithredu’n eang, gan gynnwys mewnbwn helaeth gan Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid y Dull Ysgol Gyfan. Mae hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o bron i 40 o sefydliadau, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Swyddogion Polisi'r Comisiynydd Plant; Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon; cynrychiolwyr eraill o ysgolion; byrddau iechyd; a chynrychiolwyr y Trydydd Sector (y Samariaid).

Cynhaliwyd ymgynghoriad am 12 wythnos ar ganllawiau’r fframwaith newydd rhwng 8 Gorffennaf a 30 Medi 2020. Cafwyd 142 o ymatebion. Diben yr ymgynghoriad oedd sefydlu a fydd canllawiau’r fframwaith newydd yn hybu dulliau ysgol gyfan cyson ac yn cefnogi lles emosiynol cadarnhaol ac iechyd meddwl yr holl ddysgwyr a’r staff. Gofynnwyd am farn hefyd ynghylch a yw'r fframwaith yn cynnwys digon o gyfarwyddyd i hybu cydweithio rhwng ysgolion a phartneriaid allweddol, ac a yw'n darparu'r cydbwysedd cywir rhwng hybu a meithrin lles emosiynol a mynd i'r afael ag anghenion y rhai sydd angen cymorth wedi'i dargedu ar gyfer eu hiechyd meddwl. 

Yn bwysicaf oll, roeddem eisiau cael barn ymgyngoreion ar y graddau y mae'r fframwaith newydd yn darparu'r lefel gywir o gymorth i staff ysgolion ac uwch dimau arwain o ran datblygu a sefydlu arferion gorau ar gyfer darparu dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol ac iechyd meddwl. Gofynnodd yr ymgynghoriad hefyd am sylwadau ar ba weithgarwch y byddai ei angen o ran gweithredu’r fframwaith a chodi ymwybyddiaeth ohono ar ôl ei gyhoeddi ddechrau 2021.

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (rhwng 60 a 70%) yn cytuno â'r cynigion yn y fframwaith gan ei fod yn cynnwys amrywiaeth briodol o ddulliau gweithredu ysgol gyfan a fydd, os rhoddir nhw ar waith gan arweinwyr a staff ysgolion, yn gwneud gwahaniaeth y gellir ei fesur i blant a phobl ifanc. Cadarnhaodd y mwyafrif hefyd fod y fframwaith newydd yn darparu digon o gyfarwyddyd i hybu cydweithio rhwng ysgolion a phartneriaid allweddol, yn enwedig â rhieni/gofalwyr, awdurdodau lleol, consortia addysg, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol a'r heddlu.

Defnyddiwyd ymatebion yr ymgynghoriad i lywio datblygiad y ddogfen fframwaith derfynol a dogfen fframwaith derfynol WSA a gyhoeddwyd ar 15 Mawrth 2021.

Mae'r ymchwil yn gyson â'r pum ffordd o weithio:

Yn yr hirdymor

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a darpariaeth gyfartal mewn addysg i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rhai ag anawsterau iechyd a lles emosiynol. Rydym yn dymuno sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial, waeth beth fo'i gefndir neu ei amgylchiadau personol, a bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i fod yn wydn, yn llawn dychymyg, yn dosturiol ac yn uchelgeisiol – i anelu'n uchel ac i gyflawni ei nodau.

Amcangyfrifir bod gan un o bob wyth disgybl broblem iechyd meddwl a bod tua chwarter ein disgyblion yn profi cyfnodau o deimlo'n isel[1]. Yng nghyd-destun pandemig Covid, mae’n bwysicach nag erioed bod gan ein dysgwyr fynediad cynnar a rhwydd at ddarpariaeth iechyd meddwl o ansawdd da gan gynnwys cwnsela. Profwyd bod cwnsela’n helpu i atal problemau iechyd emosiynol rhag datblygu neu waethygu. Mae data o ddatganiad ystadegol diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod 11,753 o bobl ifanc wedi defnyddio gwasanaethau cwnsela yn ystod 2018 i 2019. 

Un o ddibenion allweddol y fframwaith Dull Ysgol Gyfan yw sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad cynnar a rhwydd at ddarpariaeth iechyd meddwl o ansawdd da. Profwyd bod hynny’n helpu i atal problemau iechyd emosiynol rhag datblygu neu waethygu. 

Atal

Mae'r effeithiau andwyol y gall anawsterau emosiynol a lles eu cael ar fywydau plant a phobl ifanc wedi'u dogfennu'n glir. Gall canlyniadau peidio â chael cymorth priodol yn gynnar olygu nad yw'r person ifanc yn debygol o ennill cymwysterau cydnabyddedig, y caiff anhawster i gael mynediad i'r farchnad swyddi ac y bydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). 

Bydd ein canllawiau newydd yn darparu fframwaith i ysgolion ac eraill mewn awdurdodau lleol a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu dulliau ysgol gyfan lleol eu hunain a’u rhoi ar waith, gan hybu cysondeb o ran darpariaeth a thegwch i bobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl. Bydd hyn yn ei dro yn sicrhau bod gwasanaeth cyson a theg, sy'n addas i'r diben, yn gweithredu ledled Cymru yn gyflym.

Integreiddio

Mae’r fframwaith Dull Ysgol Gyfan yn gydnaws â phennod Uchelgais a Dysgu yn Symud Cymru Ymlaen: 'Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth' Cymru, sy'n cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial. Mae hefyd yn gydnaws â nod llesiant 'Cymru sy’n Fwy Cyfartal'.  

Mae hefyd yn cyd-fynd â 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol', sy'n cydnabod iechyd meddwl fel un o'r pum maes sydd, o bosibl, â'r cyfraniad mwyaf i’w wneud at ffyniant a lles yn y tymor hir.   

Cydweithio

Y partneriaid allweddol sydd â diddordeb yn y fframwaith newydd ar gyfer y Dull Ysgol Gyfan o weithredu yw consortia addysg, CLlLC, awdurdodau lleol, ysgolion a darparwyr addysg eraill, Estyn, ac asiantaethau eraill gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector. O ystyried y goblygiadau cadarnhaol amlwg o ran iechyd meddwl, mae gan Fyrddau Iechyd Lleol a chyrff ac unigolion eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd hefyd ddiddordeb brwd, gan gynnwys clinigwyr gofal iechyd. Mae'r ymgynghoriad a grybwyllwyd uchod wedi rhoi cyfle i bob parti gyfrannu at ddatblygu'r ddogfen fframwaith derfynol, yn enwedig rhieni, gofalwyr a phobl ifanc eu hunain.

Cynnwys

Fel y nodwyd yn gynharach, rydym wedi bod yn cydweithredu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae’r gwaith o ymgysylltu â nhw wedi bod yn gyson â'r 'Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol'.

Effaith

Ym mis Mehefin 2019, cynhaliodd Estyn adolygiad thematig o effaith yr ysgol ar iechyd a lles disgyblion. Canfu'r adolygiad fod gan tua dwy o bob tair o ysgolion cynradd, ac un o bob tair o ysgolion uwchradd Cymru, ddull ysgol gyfan a chynhwysol o gefnogi iechyd a lles disgyblion, a bod ar y gweddill angen cymorth i ddatblygu dull gweithredu o'r fath. Bydd y ddogfen fframwaith newydd yn helpu pob ysgol yng Nghymru i wneud hyn yn effeithiol ac mewn ffordd gyson.

Costau ac Arbedion

Ychydig iawn o gostau sy'n gysylltiedig â datblygu ac ymgynghori ar ddogfen y fframwaith Dull Ysgol Gyfan drafft gan mai costau gweinyddol a welwyd hyd yma, i raddau helaeth. Mae'r rhain wedi'u talu o gyllidebau gweinyddol presennol. 

Bydd yna gostau'n gysylltiedig â chyhoeddi a lansio'r ddogfen fframwaith derfynol yn ogystal â chefnogi ei gweithredu a rhoi cymorth ehangach i ysgolion i ddiwallu anghenion lles emosiynol a meddyliol dysgwyr. Bydd y rhain yn cael eu talu o gyllideb y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer 2020 i 2021. Rydym yn rhagweld y bydd y cyllid hefyd yn parhau i'r cyfnod 2021 i 2022 canlynol, yn amodol ar benderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol.

Bydd datblygu a gweithredu ein fframwaith Dull Ysgol Gyfan newydd yn sicrhau y caiff cyllid yn y dyfodol i gefnogi iechyd a lles emosiynol disgyblion ledled Cymru ei ddefnyddio yn y ffordd orau.

Mecanwaith

Mae Adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i wneud trefniadau i sicrhau bod eu swyddogaethau'n cael eu harfer gyda golwg ar ddiogelu a hybu lles plant yn yr ysgol neu fan dysgu arall. Mae hyn yn cynnwys cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr.

Wrth gyflawni'r dyletswyddau o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002, rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

Mae Adran 21(5) o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu i hybu lles dysgwyr yn yr ysgol mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn adran 25(2) o Ddeddf Plant 2004, sy'n cynnwys iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol, addysg, hyfforddiant a hamdden, a lles cymdeithasol.

Cyhoeddir y cyngor anstatudol a geir yn y Fframwaith drwy arfer dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu addysg pobl Cymru a'u pŵer mewn perthynas â hybu neu wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.

[1] Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru:  Adroddiad Arolwg o Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol 2017/18 ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolio

Adran 7 - casgliad

7.1Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Mae datblygu'r fframwaith wedi golygu cydweithredu’n eang, gan gynnwys mewnbwn helaeth gan Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid y Dull Ysgol Gyfan. Mae hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o bron i 40 o sefydliadau, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Swyddogion Polisi'r Comisiynydd Plant; Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon; cynrychiolwyr eraill o ysgolion; byrddau iechyd; a chynrychiolwyr y Trydydd Sector (y Samariaid). Mae rhieni/gofalwyr a phlant a phobl ifanc hefyd wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r fframwaith.

Ymgynghorwyd â Grŵp Rhanddeiliaid Pobl Ifanc ar y fframwaith, sef grŵp o blant a phobl ifanc a recriwtiwyd ac a gefnogwyd yn benodol i ymgysylltu â’r gwaith hwn a dylanwadu arno. Mae’r bobl ifanc yn cynrychioli grwpiau amrywiol, yn ddaearyddol ac yn gymdeithasol, gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaethau.

Roedd fersiwn ddrafft o'r fframwaith yn destun ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020. Derbyniwyd 142 o ymatebion ac fe'u defnyddiwyd i lywio diwygiadau priodol i'r testun terfynol.

Cyhoeddwyd y canllaw fframwaith terfynol ar 15 Mawrth 2021.

7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae’r fframwaith newydd ar gyfer Dull Ysgol Gyfan yn gwbl gydnaws â thri o saith nod llesiant Llywodraeth Cymru sef:

  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal.

Byddant yn hyrwyddo cysondeb a thegwch wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a lles emosiynol i blant a phobl ifanc mewn ysgolion ledled Cymru. Bydd y fframwaith newydd hefyd yn amlinellu’r adnoddau cynorthwyol sydd ar gael i ysgolion er mwyn sefydlu eu dulliau ysgol gyfan eu hunain ac, yn fwy na dim, bydd yn helpu ysgolion i adolygu eu sefyllfa eu hunain o ran lles ac i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau. 

Bydd y ddogfen hefyd yn nodi rôl Llywodraeth Cymru, ALlau, Consortia, y GIG ac eraill, fel y trydydd sector, wrth gefnogi'r ysgol. Mae hefyd yn cydnabod na all yr ysgol ar ei phen ei hun ddiwallu holl anghenion yr hyn sy'n boblogaeth gymhleth o bobl ifanc. Bwriedir i’r fframwaith hefyd ddiwallu anghenion lles athrawon a staff eraill yr ysgol lawn cymaint â rhai disgyblion.

7.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a/neu yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at greu Cymru sy’n fwy cyfartal; hynny yw, cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Rydym wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldeb ac i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial a ffynnu mewn amgylchedd dysgu sy’n cefnogi ei anghenion. Mae’r egwyddor hon yn ganolog i Addysg yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod y bydd y problemau sydd gan rai plant a phobl ifanc o ran lles emosiynol yn effeithio’n andwyol ar eu gallu i ddysgu. Mae manteision ymyrraeth gynnar wedi'u dogfennu'n glir. Er mwyn sicrhau, felly, bod plant sydd â phroblemau iechyd emosiynol o'r cymunedau hyn yn cael eu cefnogi i gyflawni o’u gorau, mae angen inni roi gwybodaeth a chyngor priodol i ymarferwyr addysg ac ysgolion er mwyn sicrhau bod dull ysgol gyfan cyson yn cael ei ddatblygu ledled Cymru.

7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Yn lleol, bydd yn ofynnol i uwch dimau arwain ysgolion werthuso effeithiolrwydd eu cynlluniau o ran dull ysgol gyfan fel rhan o waith gwella ehangach ar ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni eu gofynion, gan gynnwys pob rhan o boblogaeth yr ysgol yn y gwerthusiad. I ategu hyn, rydym wedi recriwtio arweinwyr gweithredu i weithio'n lleol gydag ysgolion a phartneriaid i osod llinell sylfaen ar gyfer mesur cynnydd a'u cefnogi wrth iddynt symud ymlaen. 

Mewn perthynas â'r polisi a'r agenda ehangach, rydym wedi rhoi contract i Brifysgol Caerdydd i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r cynlluniau i gefnogi lles dysgwyr. Mae hyn yn dechrau gydag asesiad o’r prosiect gwerthuso i osod y llinell sylfaen, nodi'r data ac ati i fesur y cynnydd a nodi unrhyw fylchau o ran gwybodaeth. Yn nes ymlaen yn 2021 rhoddir adroddiad ar yr asesiad o’r prosiect gwerthuso, a bydd yn arwain at waith pellach i fesur effaith tymor byr, canolig a hir y cynigion.

Asesiad effaith ar hawliau plant

Disgrifio ac esbonio effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Bydd canllawiau fframwaith newydd Dull Ysgol Gyfan (WSA) yn sicrhau bod ysgolion yn cael cefnogaeth i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd a lles emosiynol cyson ac effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc mewn angen. Bydd hyn yn ei dro o fudd i blentyn neu berson ifanc sy'n ceisio cymorth pan fydd yn bryderus neu'n ofidus, a gall helpu i gefnogi perthynas â theuluoedd (dangosodd yr ystadegau cwnsela diweddaraf ar gyfer 2018 i 2019 mai materion teuluol oedd y math mwyaf cyffredin o fater i blant a phobl ifanc a dderbyniodd gwnsela). Ceir tystiolaeth hefyd fod gan blant â lefelau uwch o les emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol ac ysgol, ar gyfartaledd, lefelau uwch o gyflawniad academaidd a'u bod yn cymryd mwy o ran yn yr ysgol, felly mae potensial i leihau nifer y bobl ifanc NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

Bydd cynnwys plant a phobl ifanc yn agwedd allweddol ar ddatblygiad ac esblygiad parhaus cynlluniau WSA unigol ysgolion wrth symud ymlaen.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol ar gyfer y darn hwn o waith.

Esbonio sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Yr erthyglau UNCRC (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn) sydd fwyaf perthnasol i’r cynnig yw:

  • Erthygl 6 – mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu i'w llawn botensial
  • Erthygl 12 – mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a'i ddymuniadau ac i'w barn gael ei hystyried a'i chymryd o ddifrif
  • Erthygl 19 – dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn cael gofal priodol, a'u hamddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt
  • Erthygl 24 – mae gan blant yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân fel y byddant yn aros yn iach
  • Erthygl 39 – rhaid i blant sydd wedi cael eu hesgeuluso a'u cam-drin gael cymorth a chefnogaeth briodol sy'n eu galluogi i adfer eu hiechyd, eu hurddas, eu hunan-barch a'u bywyd cymdeithasol.

Drwy roi templed a gwybodaeth arall i awdurdodau lleol ac ysgolion, bydd ganddynt y modd angenrheidiol i ddatblygu eu dulliau ysgol gyfan effeithiol eu hunain o gefnogi plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd emosiynol. Bydd hyn yn gwella mynediad plant a phobl ifanc yng Nghymru at yr hawliau a nodir yn yr Erthyglau uchod.

Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol ar gyfer y darn hwn o waith.