Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Chwefror 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 338 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Llywodrateh Cymru a'r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yn comisiynu nifer o arolygon ar raddfa fawr o bobl yng Nghymru. Maent yn cynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Iechyd Cymru, yr Arolwg ar Oedolion Egnïol, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru, a'r Arolwg o Hamdden yn yr Awyr Agored Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae bellach wedi cael ei benderfynu i gyfuno Arolwg Cenedlaethol Arolwg Iechyd Cymru Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru a’r Arolwg o Hamdden yn yr Awyr Agored Cymru yn un arolwg sengl i’w ddechrau yn 2016-17. Rydym mewn trafodaethau gyda Chwaraeon Cymru dros gynnwys yr Arolwg ar Oedolion Egnïol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi rhagor o wybodaeth am yr hyn a benderfynwyd ac yn cynnig cyfle i ddylanwadu ar y testunau y dylai'r arolwg newydd eu cynnwys.