Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr dadansoddi data o Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd i helpu i lywio a datblygu'r gwaith o lunio polisïau yng Nghymru, diolch i fuddsoddiad gwerth £5.3m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Bydd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, yn dod ag arbenigwyr gwyddor data o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a staff y Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ynghyd gyda thimau arbenigol yn Llywodraeth Cymru fel rhan o’r bartneriaeth arloesol newydd hon. Gyda'i gilydd, byddant yn datblygu tystiolaeth newydd sy'n cefnogi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb.
Bydd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn defnyddio'r banc data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu data dienw, a’i ddadansoddi. Bydd y broses yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall mwy am y berthynas rhwng gwahanol feysydd o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a chael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl wrth iddynt symud drwy wahanol wasanaethau. Bydd hyn yn cefnogi datblygu polisïau cydweithredol ac integredig i wella bywydau pobl yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:
"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd ar y prosiect cysylltu data arloesol hwn. Bydd y bartneriaeth yn ein galluogi i gael mynediad i sylfaen dystiolaeth gyfoethocach, gan helpu i siapio a chefnogi penderfyniadau polisi i'r dyfodol a fydd yn gwella bywydau pobl yng Nghymru.”
Dywedodd Prif Ystadegydd Cymru a Chyd-Gyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, Glyn Jones:
"I ddarparu polisïau sy'n gwella bywydau yng Nghymru, rydym angen tystiolaeth, a dyma'n union fydd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn ceisio ei ddarparu. Mae integreiddio ac uno gwasanaethau y tu hwnt i ffiniau traddodiadol yn ganolog i bolisïau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae atal yn flaenoriaeth i ddarparu gwell canlyniadau i bobl yn awr ac yng nghenedlaethau'r dyfodol.
"Mae'r bartneriaeth hon yn gam sylweddol ymlaen o ran sut y gall y llywodraeth ddefnyddio'r data sydd ar gael mewn modd diogel a chynhwysfawr er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru."
Dywedodd Cyd-Gyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, yr Athro David Ford:
"Mae gan ddata y potensial i drawsnewid y modd y bydd sefydliadau mawr a bach yn gweithredu, ac o'i ddefnyddio yn briodol ac yn ddiogel, mae'n adnodd o bwys. Mae'r bartneriaeth hon yn golygu bod Ymchwil Data Gweinyddol Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddefnyddio dulliau o gysylltu data dienw a diogel cymaint â phosibl i wella'r gwaith o ddatblygu a gwerthuso polisïau Cymru.
"Gyda Llywodraeth Cymru, byddwn yn adeiladu ar ein harbenigedd a'n gwaith blaenorol, gan gynnwys gwerthusiadau'r Cynllun Cartrefi Clyd NYTH, Cefnogi Pobl a Dechrau'n Deg - y mae pob un ohonynt wedi dylanwadu ar benderfyniadau polisi i'r dyfodol."
Dywedodd Cyfarwyddwr Hwb Strategol ADR UK (Ymchwil Data Gweinyddol y DU), Dr Emma Gordon:
"Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn rhan bwysig o ADR UK. Gan weithio gyda phartneriaid yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, y tîm Hwb Strategol ac ONS, byddwn yn datgloi potensial data gweinyddol ac yn rhoi goleuni pellach ar faterion wrth lywio penderfyniadau polisi. Mae ADR UK yn gyfle unigryw i adrannau'r llywodraeth ddileu'r risg yn eu gweithgareddau rhannu data, a chael gwell mynediad i arbenigedd academaidd."